Niwrowyddoniaeth y Parthau Nwydus

Mae ein parthau nwydus ychydig yn od. Mae yna rannau penodol o’n cyrff, o’u cyffwrdd yn dyner, sy’n creu teimladau nwydus, er nad yw rhannau cyfagos o’r corff yn creu’r un teimladau. Er enghraifft, mae’n bosib y bydd merch yn mwynhau’r teimlad o gael ei mwytho ar ei gwddf neu’i chlust ond nid felly ar ei boch neu’i thalcen. Beth yw’r rheswm am hynny?

Dan arweiniad niwroseicolegydd o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor (Yr Athro Oliver Turnbull), ac mewn cydweithrediad â Phrifysgol y Witwatersrand, De Affrica, penderfynodd tîm o ymchwilwyr roi prawf ar ddamcaniaeth a ddatblygwyd gan y niwrowyddonydd Vilayanur Ramachandran yn y 90au hwyr. Hanfod y ddamcaniaeth honno oedd bod ein parthau nwydus wedi’u lleoli yn nesaf at barthau ein horganau rhywiol ar un o nifer o ‘fapiau’ corff  yn yr ymennydd. Awgrymai fod cyffwrdd un rhan yn ‘gollwng’ ias i rannau cyfagos o’r map. Er enghraifft, cynigiai mai’r rheswm pam fod y traed yn cael eu hystyried yn barthau nwydus oedd eu lleoliad ar fap y prif gortecs corfforol-synhwyraidd (neu S1), sef yn nesaf at yr organau rhywiol. Hynny yw, roedd yr ias o gyffwrdd y traed yn ‘gollwng’ ac yn achosi ias o deimladau nwydus.

Mewn cyfres o ymchwiliadau i brofi’r ddamcaniaeth (Turnbull OH, et al., Reports of intimate touch: Erogenous zones and somatosensory cortical organisation Cortex date of publication doi 1-.1016/j.cortex.2013.07.010), datgelwyd nifer o ystadegau diddorol ynglŷn â’r hyn y mae dynion a  merched yn ei ganfod yn nwydus.

Cafodd y niwroseicolegwyr gryn syndod o ddeall nad oedd unrhyw un wedi cynnal ymchwil systematig i’r parthau nwydus o’r blaen, ond nid oedd canfyddiadau eu hymchwil yn cefnogi damcaniaeth Ramachandran mai’r S1 oedd yn gyfrifol am yr iasau nwydus. Mae’n ymddangos mai rhan o’r rheswm am hynny yw’r ffaith nad ydym yn ystyried y traed fel parthau nwydus a hefyd – yn ystadegol - dydy’r traed ddim yn clystyru gyda’r organau rhywiol. Ar ben hynny, dydy hi ddim yn ymddangos fod symbyliad uniongyrchol i’r S1 (mewn niwrolawdriniaeth) yn creu iasau nwydus.

Fel hyn y mae’r Athro Turnbull yn egluro’r canfyddiadau: “Rwy’n credu fod yna ryw sail i’r ddamcaniaeth fod rhannau cyfagos o fap yr ymennydd yn ‘gollwng’, ond mae sawl rhan o’r ymennydd yn gyfrifol am brosesu’r synnwyr o gyffyrddiad, ac mae’n bosib fod Ramachandran wedi dewis y rhan anghywir”. Mae’r Athro Turnbull yn credu yn hytrach mai rhan hŷn a mwy sylfaenol o’r ymennydd sydd fwyaf tebygol o fod yn gyfrifol am brosesu’r iasau hyn, sef yr insula. Mae’r rhan hwn o’r ymennydd wedi’i ‘weirio’ o adeg gynnar iawn yn ein datblygiad ac yn gyfrifol am emosiwn a derbyn y teimlad o gyffyrddiad araf.

Er mwyn sefydlu a oedd yna gysylltiadau rhwng S1 a’r parthau nwydus, gofynnwyd i bobl raddio 41 o rannau’r corff, ar y sail a oeddynt yn eu hystyried yn nwydus ai peidio. Datgelodd yr arolwg fod pob un ohonom yn weddol gytûn ynghylch pa rannau o’r corff yr ydym yn eu canfod yn nwydus, a hynny er gwaethaf oed, hil, diwylliant, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Roedd llai o wahaniaeth rhwng dynion a merched hefyd nag y mae’r wasg a diwylliant poblogaidd yn ein harwain i gredu. Meddai’r Athro Turnbull: “Fel bodau dynol, rydym yn weddol gyson a sefydlog o ran y prif barthau nwydus. Mae rhai gwahaniaethau cymharol fach rhwng dynion a merched, ond rwy’n credu bod y rhain wedi’u gorbwysleisio”.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2013