Noson yng Nghwmni’r Prifardd Guto Dafydd

Nos Fercher, 26 Hydref, am 6.00 o’r gloch yn Narlithfa 2 Pontio – y drws nesaf i fwyty Gorad – bydd y Prifardd Guto Dafydd yn cael ei holi am ei nofel fuddugol Ymbelydredd. Hon yw’r nofel a enillodd iddo Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni fis Awst a hynny gyda chanmoliaeth uchel y beirniaid. Un o’i gyn-ddarlithwyr yn Ysgol y Gymraeg, Yr Athro Angharad Price, a fydd yn ei holi am ei nofel ddiweddaraf a’i yrfa lenyddol hyd yma. Bydd hon felly’n sgwrs rhwng dau nofelydd llwyddiannus. Trefnir y noson gan Ysgol y Gymraeg, mae’r mynediad am ddim ac estynnir croeso cynnes i bawb - gellir cael tocynnau o swyddfa docynnau Pontio.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Hydref 2016