Prifysgol Bangor i arwain project gwerth miliynau o bunnoedd yn Ewrop i astudio hanes ein moroedd

Hanes amgylchedd morol Ewrop dros y mil o flynyddoedd diwethaf yw targed project €3.1 miliwn (£2.6 miliwn), a ariannir gan yr Undeb Ewropeaidd ac a arweinir gan wyddonwyr o Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor.  Mae’r project hefyd yn cynnwys ymchwilwyr o Norwy, yr Almaen, Ffrainc, Croatia, Gwlad Pwyl a'r Iseldiroedd a bydd yn defnyddio cregyn  molysgiaid hirhoedlog iawn fel cofnod o newid amgylcheddol dros y mil o flynyddoedd diwethaf. Mae'n adeiladu ar ymchwil a ddatblygwyd yn wreiddiol ym Mangor gan yr Athro James Scourse a'r Athro Chris Richardson a arweiniodd yn 2007 at ddarganfod yr anifail mwyaf hirhoedlog sy'n adnabyddus i wyddonwyr, sef cragen fylchog o Wlad yr Ia a oedd wedi byw am 507 o flynyddoedd.

"Rydym wrth ein boddau â'r grant hwn", meddai Dr Paul Butler o'r Ysgol Gwyddorau Eigion, a fydd yn cydlynu'r project gyda'r Athro Scourse.  "Mae’n galonogol iawn bod posibiliadau’r dull newydd a chyffrous hwn o ymchwilio i'r hinsawdd yn cael ei gydnabod o'r diwedd." 

Cragen fylchog (clam) quahog, efo llinellau twf i'w gweld ar y gragen.Cragen fylchog (clam) quahog, efo llinellau twf i'w gweld ar y gragen.Mae cregyn y môr yn cadw tystiolaeth am  gyflwr y môr ar yr adeg y'u cynhyrchwyd a gallant felly roi gwybodaeth unigryw am hanes y moroedd a'r cefnforoedd. Maent hefyd yn nodi pob blwyddyn gyda chylch twf gweledol (fel coed), felly gellir amseru newidiadau amgylcheddol yn fanwl gywir.  Mae defnyddio cregyn anifeiliaid hirhoedlog iawn yn galluogi gwyddonwyr i ymchwilio i amgylchedd y môr dros gyfnod o gannoedd o flynyddoedd, gyda'r posibilrwydd o edrych ar y cyfnod cynnar ers i bobl ddefnyddio ysgafell moroedd Ewropeaidd.  

"Yn hanesyddol mae Ewropeaid wedi dibynnu ar y cefnforoedd, i fasnachu a goresgyn gwledydd eraill i ddechrau, ac yna fel ffynhonnell bwyd ac yn fwyaf diweddar fel ffynhonnell ynni," meddai Dr Butler.  "Rydym wedi defnyddio'r moroedd yn llawer mwy dwys yn y degawdau diwethaf, ac mae'r pwysau hwn yn ychwanegu at effeithiau newid cyflym yn yr hinsawdd. Rydym eisiau gallu datod cydeffeithiau cymhleth y newid yn yr hinsawdd a defnydd pobl dros gyfnod hir o amser fel y gallwn wahaniaethu rhwng amrywiadau cefndirol naturiol a'r newidiadau a achosir gan bobl. Bydd hyn yn ein helpu i ragfynegi'n fwy cywir y newidiadau yn system  hinsawdd y môr dros y degawdau nesaf, gan felly helpu llywodraethau a diwydiant i wneud y penderfyniadau gorau o ran polisïau."  

Bydd y project newydd, o'r enw ARAMACC, yn hyfforddi deg o fyfyrwyr PhD yn y sgiliau sy’n gysylltiedig â dehongli cofnodion cregyn.   "Mae gennym ddaearegwyr, eigionegwyr, biolegwyr a modelwyr yr hinsawdd yn gysylltiedig ag ARAMACC," meddai Dr Butler, "felly bydd y myfyrwyr yn cael profiad ymarferol a hyfforddiant arbenigol mewn amrywiaeth eang o feysydd gwyddonol perthnasol. Byddant hefyd yn cael eu  hyfforddi yn y sgiliau angenrheidiol i wneud ymchwil yn y môr pan fyddant yn ymuno â mordeithiau casglu cregyn i'r gorllewin o'r Alban ac i'r Ynysoedd Ffaröe."

Cynhaliwyd cynhadledd ryngwladol gan Ysgol Gwyddorau’r Eigion Bangor yn ddiweddar ar wyddoniaeth ymchwil cylchoedd cregyn, ac mae'r ysgol yn cael ei chydnabod fel arweinydd rhyngwladol yn y maes. Bydd y cyllid newydd yn ei gwneud yn y brif ganolfan i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr cylchoedd cregyn. 

Bydd y project pedair blynedd, Rhwydwaith Rhyngwladol Hyfforddiant Cychwynnol Marie Curie, a ariannir trwy Raglen Fframwaith 7 yr Undeb Ewropeaidd, yn golygu y daw buddsoddiad o £600,000 i Brifysgol Bangor.

 

Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2013