Pryd daeth pobl Cymru'n Gymry?

Dr Rebecca ThomasDr Rebecca Thomas

Mae Cwpan Rygbi'r Byd ymlaen, a gwelwn ddarlledu hunaniaeth Gymreig ar y sgrin fawr ledled y byd. Ond, yng nghanol miri canu’r anthem, y dreigiau a’r cennin Pedr, a ydych chi erioed wedi pendroni pryd y dechreuodd pobl eu hystyried eu hunain yn Gymry, ac mai Cymru oedd eu gwlad?

Mae'r rhan fwyaf o haneswyr yn cytuno bod ymdeimlad o hunaniaeth Gymreig yn bodoli erbyn y ddeuddegfed ganrif, ond nid ydym yn gwybod eto pryd yn union y datblygodd hynny a pham. Mae'r hanesydd canoloesol Dr Rebecca Thomas o'r farn bod modd dirnad awgrymiadau o hunaniaeth Gymreig mor gynnar â'r nawfed ganrif.

Mae Rebecca wedi derbyn Cymrodoriaeth Ôl-ddoethurol fawreddog yr Academi Brydeinig i ymchwilio i ddatblygiad yr hunaniaeth Gymreig yn yr Oesoedd Canol - pryd ydym yn gweld cyfeiriadau at y syniad o Gymru a'r Cymry, a pham.

Bydd hi'n troi at groniclau a hanesion Lladin canoloesol i chwilio am dystiolaeth ynghylch sut y cafodd yr hunaniaeth Gymreig ei chreu, a bydd hefyd yn bwrw golwg dros y cyfoeth o dystiolaeth o waith y beirdd Cymraeg sydd wedi goroesi, i weld sut y bydden nhw'n disgrifio'r wlad a'i phobl.

“Nid yn unig y mae gen i ddiddordeb gwybod pryd daeth y Cymry'n bobl, rwyf hefyd am wybod pam,” esboniodd Rebecca.

“Roedd yr Oesoedd Canol cynnar, yn enwedig y nawfed a’r ddegfed ganrif, yn gyfnod allweddol lle mae creu hunaniaethau yn y cwestiwn. Os ystyriwch y croniclau a'r hanesion a ysgrifennwyd yn y cyfnod hwnnw, maent yn ymwneud â rhannu'r byd yn wahanol bobloedd a chofnodi gwreiddiau'r bobl hynny. Honnai ysgrifenwyr canoloesol, er enghraifft, i'r Cymry hanu o Gaerdroea. Roedd priodoli gwreiddiau yng Nghaerdroea i bobl yn syniad poblogaidd iawn ar y Cyfandir - credai'r Ffranciaid hefyd eu bod yn hanu o Gaerdroea, er enghraifft - ac felly roedd ysgrifenwyr Cymru'n manteisio ar ffenomenon ehangach. Mae'n debygol hefyd eu bod yn ymwybodol iawn bod testunau a oedd yn cael eu llunio mewn rhannau eraill o Brydain yn dechrau sôn am Loegr a'r Saeson.

Rwyf am ofyn pa mor bwysig oedd y cyswllt â'r byd ehangach wrth lunio hunaniaeth Gymreig yn y cyfnod hwn, a meddwl am yr hyn yr oedd ysgrifenwyr Cymru'n ei feddwl oedd yn gosod y Cymry ar wahân i bobloedd eraill. Beth oedd yn gwneud y Cymry'n bobl yn eu tyb hwythau? ”

Pan ysgrifennodd Asser, ysgolhaig o Dyddewi, yn 893 fod y brenin Offa o'r wythfed ganrif wedi codi clawdd rhwng Mercia a Britannia o fôr i fôr, iddo ef Britannia oedd Cymru, uned ddaearyddol a ddiffinnir gan glawdd Offa. Pan roes Nennius, ysgolhaig o Wynedd yn y nawfed ganrif, enwau llefydd yn Saesneg ac yn Gymraeg yn ei destun Lladin, roedd yn cyfeirio at y Gymraeg fel 'ein hiaith'. Felly, mae syniadau sy'n ymwneud â rhannu iaith, hanes, diwylliant a thiriogaeth gyffredin i gyd yn ffactorau pwysig y mae angen eu hystyried.

Mae Dr Rebecca Thomas yn un o blith dim ond 53 o ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa a enillodd Gymrodoriaeth Ôl-ddoethurol yr Academi Brydeinig a hi yw'r ail berson erioed o Brifysgol Bangor i dderbyn y wobr honno. Mae hi'n ymuno ag Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas y Brifysgol o Brifysgol Caergrawnt.

Ychwanegodd:
“Rwy’n falch iawn o ymuno ag Ysgol sydd â thraddodiad mor hir o arbenigo yn hanes Cymru'r canoloesoedd, a bydd yn wych cael gweithio fel rhan o gymuned academaidd sydd wedi cyfrannu cymaint at ein dealltwriaeth o Gymru yn yr Oesoedd Canol. Rwy'n edrych ymlaen at rannu fy ymchwil gyda'r gymuned academaidd a'r gymuned ehangach.”

Dywedodd Huw Pryce, Athro Hanes Cymru:

“Rwyf wrth fy modd bod Rebecca Thomas wedi ymuno â ni ym Mangor. Mae derbyn y gymrodoriaeth hynod yma gan yr Academi Brydeinig a hynny mewn maes cystadleuol iawn yn gydnabyddiaeth o'i champ a'i rhagoriaeth fel ysgolhaig yn gynnar yn eu gyrfa ac o gryfderau'r Brifysgol yn hanes Cymru'r canoloesoedd." 

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2019