Rheolaeth gynaliadwy ar faetholion mewn pridd yn allweddol i ddiogelwch bwyd yn y dyfodol

Mae diogelwch bwyd yn fyd-eang dan fygythiad wrth i briddoedd gael eu hamddifadu o faetholion sy’n hanfodol i gynnyrch uchel ar gnydau. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd, yn y ‘Journal of Applied Ecology’, astudiaeth a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor, yn amlinellu strategaethau i sicrhau y cynhyrchir bwyd mewn modd cynaliadwy trwy ddefnyddio dull cyfannol o reoli ar faetholion mewn pridd.

Wrth i boblogaeth y byd gynyddu, felly hefyd y mae’r galw am fwyd. I ateb y galw hwn, tyfir cnydau cynnyrch uchel gyda chymorth gwrteithiau artiffisial sy’n cynnwys macrofaethynnau nitrogen, potasiwm a ffosfforws. Fodd bynnag, gall y gadwyn fwyd fodern arwain at amddifadu priddoedd o faetholion, yn cynnwys microfaethynnau, y cyfeirir yn arferol atynt fel fitaminau a mwynau, megis seleniwm, sinc a chopr. Nid yn unig y mae diffyg microfaethynnau yn effeithio ar ansawdd maethol bwyd, ond mae’n bosibl hefyd y caiff ecosystemau niwed, a hynny’n amharu ar eu gallu i ddarparu ecosystem sy’n hollbwysig i ddiogelwch bwyd.

I amlygu graddfa’r broblem, bu ymchwilwyr o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth yn edrych ar arferion sy’n arwain at anghydbwysedd rhwng dileu ac ailgyflenwi maetholion pridd yn y DU ac yn India. Mae’r DU yn enghraifft o wlad ddatblygedig â phriddoedd cymharol ifanc a ffrwythlon, tra bo India yn wlad ddatblygol, a chanddi briddoedd cymharol hen a disbyddedig.

Fel yr eglura Dr Paul Cross, Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth:

“Caiff y rhan helaethaf o’r bwyd a gynhyrchir yn y gwledydd hyn ei bwyta mewn dinasoedd, a chan boblogaeth fyd-eang sy’n dod yn fwyfwy trefol. Mae hyn yn arwain at drosglwyddo maetholion o ardaloedd gwledig i ardaloedd trefol, gydag ychydig yn unig o gyfle i ailgylchu’r maetholion yn ôl i’r tir. Hyd yn oed yn y DU, er enghraifft, mae profion yn awgrymu bod priddoedd yn dod yn amddifad o ficrofaethynnau, er nad yw hynny eto’n digwydd i’r graddau fel y cyfyngir ar gynhyrchion cnydau.

“Ar ben hynny, mae dwysáu amaethyddiaeth yn aml yn golygu bod magu da byw a chynhyrchu cnydau’n digwydd mewn rhannau gwahanol o’r wlad, fel sy’n digwydd yn aml yn y DU. O’r herwydd, mae ffynonellau o faetholion ar gyfer cnydau, megis tail da byw a dŵr gwastraff o ffermydd, yn absennol o ardaloedd lle tyfir cnydau. Ar ben hynny, mae’r cynnydd yn nefnydd gwrteithiau i wella’r cynnyrch, yn enwedig mewn gwledydd datblygol â phriddoedd llai ffrwythlon, yn arwain yn aml at lygru dŵr yr wyneb a’r tir â gormodedd o wrteithiau nad ydynt yn mynd at y cnydau.”

I ymdrin â’r problemau hyn, mae’r ymchwilwyr wedi datblygu strategaethau i wella’r sefyllfa:

Yn y tymor byr (un flwyddyn), mae modd defnyddio nifer o strategaethau er mwyn lleihau’r golled o ficrofaethynnau pridd i gnydau. Ar lefel leol, gall ffermwyr ychwanegu microfaethynnau at wrteithiau, defnyddio chwistrelli ar ddail – techneg o fwydo planhigion yn union ar eu dail – yn cynnwys microfaethynnau, neu chwistrellu cymysgedd o ficrofaethynnau i mewn i resi o hadau.

Yn y tymor canolig (2-5 mlynedd), gall ffermwyr adfer lefelau microfaethynnau yn y pridd trwy osod microfaethynnau yn rheolaidd. Mae deunyddiau organig yn ffynhonnell dda o ficrofaethynnau, er nad yw defnyddio tail anifeiliaid, er enghraifft, yn economaidd ymarferol oni cheir cyflenwadau gerllaw.

Mae dulliau eraill yn cynnwys defnyddio gwrteithiau diwydiannol ag ychwanegion o ficrofaethynnau (e.e. gydag ychwanegiad o seleniwm, fel sydd eisoes yn digwydd yn achos gwrteithiau o Sweden) a hyrwyddo ffermio cymysg (h.y. magu anifeiliaid a thyfu cnydau ar yr un pryd), fel y gellir ailgylchu microfaethynnau mewn tail a dŵr gwastraff ffermydd yn lleol.

Yn y tymor hwy (mwy na 5 mlynedd), mae’r astudiaeth yn awgrymu y dylid cyfuno strategaethau rheoli pridd â rhaglenni bridio planhigion sy’n datblygu amrywiaethau newydd o gnydau sy’n fwy abl i gymryd microfaethynnau.

Mae modd ategu’r holl ddulliau trwy bolisïau integredig sy’n codi ymwybyddiaeth ac yn rhoi cyngor ar ddiffygion o ran maetholion pridd ymysg grwpiau perthnasol, e.e. ffermwyr, bridwyr cnydau a gwneuthurwyr gwrteithiau, yn ogystal ag i’r cyhoedd.

Gellwch lawrlwytho’r erthygl sy’n sôn am astudiaeth Prifysgol Bangor ar y Polisi ar Wyddoniaeth ar gyfer yr Amgylchedd: http://ec.europa.eu/environment/integration/research/newsalert/newsalert.htm

Ffynhonnell: Jones, D. L., Paul Cross, P., Withers, P.J.A. et al. (2013) Nutrient stripping: the global disparity between food security and soil nutrient stocks. Journal of Applied Ecology. Doi: 10.1111/1365-2664.12089.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2013