Sut dylem ni yng Nghymru greu cymdeithas lwyddiannus?

A all "cymdeithas fawr" David Cameron drwsio "Prydain doredig"? Yn wir, a fydd yn fwy llwyddiannus na'r rhaglenni adeiladu cymunedol eraill a ddechreuwyd yn yr hanner canrif ddiwethaf?  Sut dylem ni yng Nghymru greu cymdeithas lwyddiannus?

Rhywun sydd â barn am y cwestiynau hyn yw Dr Peter Shapely, o Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg Prifysgol Bangor, sy'n arbenigo yn hanes modern a chyfoes Prydain.  Ar ôl astudio projectau datblygu cymunedol ym Mhrydain yn y cyfnod rhwng 1968 a 1978, mae gan Peter Shapely bersbectif hanesyddol ar fentrau'r llywodraeth bresennol.

Fel mae Peter Shapely'n egluro: "Mae datblygiad cymunedol wedi cael sylw gan y wladwriaeth, llywodraeth leol ac asiantaethau gwirfoddol ers y 1960au pan ddechreuodd y naill lywodraeth ar ôl y llall brojectau peilot ymchwil-weithredol, megis meysydd blaenoriaeth addysg, projectau datblygu cymunedol, cynlluniau cymdogaeth, chwe astudiaeth tref a'r rhaglen gymunedau cynhwysfawr. Roedd y projectau'n canolbwyntio ar sefydlu grwpiau hunangymorth a chyd-gymorth er mwyn mynd i'r afael â phroblemau canfyddedig mewn ardaloedd trefol yn bennaf. Ond roedd y projectau hyn yn llawn problemau, nid y lleiaf o'r rhain oedd y problemau economaidd strwythurol difrifol oedd yn wynebu'r hen ardaloedd diwydiannol, yn ardaloedd trefol a gwledig. Ni chawsant lawer o effaith ar y gorau.  Aeth polisïau oedd yn anelu at ddatblygu teimlad o gymuned, at greu grwpiau hunangymorth a chyd-gymorth ac at gynnig cyfleusterau cymdeithasol a llwyfan i'r gymuned gyfrannu at benderfyniadau lleol mewn rhannau o'r wlad a ystyriwyd yn 'ddifreintiedig' ar chwâl mewn cyfnod pan oedd yr economi'n dirywio.

Mae’n mynd ymlaen: "Serch hynny, parhaodd sefydliadau cymdeithasol, elusennau gwirfoddol a grwpiau cyd-gymorth i chwarae rhan bwysig ym mywyd y gymuned ledled Prydain. Yn wir, ystyrir eu bod yn rhan ganolog o drefn cymdeithas sifil ers diwedd y ddeunawfed ganrif. Mae llywodraethau wedi parhau i drafod y cwestiwn o ddatblygiad cymunedol yn y mileniwm newydd. Mae cynnal cymunedau sefydlog a bywiog yn parhau i fod yn amcan cymdeithasol pwysig i bob plaid wleidyddol. Ond ni ddaethpwyd o hyd i ffordd i'r llywodraeth a grwpiau gwirfoddol sicrhau cydlyniad cymdeithasol eto."

Mae Prifysgol Bangor yn estyn gwahoddiad i drafod datblygiad cymunedol mewn dau ddigwyddiad cyhoeddus ym mis Mai.  “Rydym eisiau gwahodd pobl i drafodaeth ynglŷn â'r prif elfennau sydd ynghlwm wrth feithrin cymuned, yr hyn sy'n tanseilio cydlyniad cymdeithasol a'r polisïau a'r sefydliadau sydd wedi llwyddo i greu cymunedau sefydlog," eglura Dr Shapely. 

Bydd y digwyddiad cyntaf a gynhelir ddydd Gwener 10 Mai 2013 yn canolbwyntio ar amrywiol lefelau'r llywodraeth, sefydliadau cyhoeddus a pholisïau a bydd yr ail a gynhelir ddydd Gwener 17 Mai 2013 yn edrych ar gymdeithas sifil, elusennau a grwpiau cyd-gymorth. 

⁠Cyllidir y digwyddiadau hyn yn rhannol gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC).

Par: http://community-development.bangor.ac.uk

Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2013