Tair o brifysgolion Cymru i ymchwilio i hanes Teithwyr Ewropeaidd yng Nghymru mewn project ymchwil newydd ar y cyd.

Mae teithwyr Ewropeaidd wedi dod i Gymru am wahanol resymau: o rai'n chwilio am hafan ramantaidd, i ysbiwyr diwydiannol yn y cyfnod Fictoraidd a ffoaduriaid o'r Almaen dan y Natsïaid.  Yn awr, mae project ymchwil newydd, a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), yn ceisio defnyddio gweithiau teithio'r ymwelwyr hyn i ailddiffinio canfyddiad o Gymru fel cyrchfan teithio.

Mae ymchwilwyr sy'n gweithio yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru (CUCC) a Phrifysgolion Bangor ac Abertawe wedi derbyn grant o £420,000, dros dair blynedd, gan yr AHRC i gyllido'r project ymchwil tair blynedd.

Arweinir y project gan y prif ymchwilydd, yr Athro Carol Tully (Bangor), gyda'i chyd-ymchwilwyr Dr Heather Williams (CUCC) a Dr Kathryn Jones (Abertawe) a chynorthwywr ymchwil (wedi'i leoli yn CUCC), a bydd yn ymchwilio i destunau teithwyr Ewropeaidd i Gymru yn y cyfnod 1750-2010. Bydd y project hefyd yn ariannu dwy efrydiaeth PhD a fydd yn edrych i mewn i bortreadau llenyddol a chanllawiau teithio yn ôl eu trefn. Christina Les (Bangor) ac Anna-Lou Dijkstra (Abertawe) fydd yn ymgymryd â'r ddwy efrydiaeth yma.

Dywedodd yr Athro Carol Tully, Prif Ymchwilydd ac Athro mewn Almaeneg yn yr ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Bangor: “Dwi wrth fy modd i ni lwyddo i gael y grant hwn. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ni wneud ymchwil a fydd yn torri tir newydd, yn ogystal â meithrin gyrfaoedd cenhedlaeth newydd o academyddion. Mae’r project wedi bod yn cael ei gynllunio ers rhai blynyddoedd, ac rydyn ni'n awyddus i symud ymlaen yn awr. Mae'r cyfle i wneud gwaith ar y cyd o'r natur hon yn arbennig o gyffrous."

Hyd yn hyn, mae Cymru wedi cael ei hanwybyddu ym maes ysgrifennu teithio.  Naill ai y mae disgrifiadau o deithiau i Gymru wedi eu 'cuddio' mewn gweithiau am Loegr, a hyd yn oed pan oedd gan deithwyr a beirniaid ddiddordeb yn y gwledydd Celtaidd, mae Cymru wedi cael ei hesgeuluso ar draul yr Alban ac Iwerddon.  Nod y project hwn yw ailystyried syniadau ynghylch Cymru, ac ymdrin â'r syniad o anweledigrwydd Cymru, drwy daflu rhwyd gweithiau am deithio’n ehangach i gynnwys teithwyr Ewropeaidd a'u barn a'u sylwadau.

Gan siarad am y project, meddai'r Athro Dafydd Johnston, Cyfarwyddwr CUCC: "Rydym ni'n croesawu'r cyfle hwn i weithio mewn partneriaeth o Fangor ac Abertawe ar broject ymchwil cyffrous a fydd yn ymwneud â chyfoeth o ddeunydd gwreiddiol am Gymru."

O ddechrau'r cyfnod a astudir, mae ysgrifennu am deithio wedi bod yn ffynhonnell bwysig o ran meithrin syniadau am Gymru gartref a thramor.  Gan ddefnyddio teithwyr unigol a'r symudiadau cymdeithasol-wleidyddol maent yn eu cynrychioli fel astudiaethau achos, bydd y project yn ehangu dealltwriaeth drwy ddadorchuddio cynrychiolaethau mewn gweithiau ar wahân i'r Saesneg.  Bydd hefyd yn mesur i ba raddau mae portreadau o Gymru yn y Saesneg wedi helpu i ffurfio persbectif Ewropeaidd o Gymru.

Meddai Dr Heather Williams, brodores o Gymru ac arbenigwr mewn Llenyddiaeth Ffrengig: "Po fwyaf yr ydw i wedi astudio ieithoedd a diwylliannau Ewropeaidd eraill, po fwyaf yr ydw i wedi cael fy nghyfareddu gan gysylltiadau rhwng Cymru ac Ewrop. Felly rydw i'n edrych ymlaen at y posibilrwydd o ddarganfod rhagor am syniadau Ewropeaidd am Gymru a Chymreictod."  

Yn ogystal â chyhoeddi llyfr amlddisgyblaethol gan awduron ar y cyd, mae tîm y project wrthi'n gweithio ar rifyn arbennig o'r cyfnodolyn Studies in Travel Writing ar gyfer gwanwyn 2014, a fydd yn canolbwyntio ar Gymru.  

Dywedodd Dr Kathryn Jones o Adran Ieithoedd, Cyfieithu a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Abertawe: "Bydd y project yn eang iawn ei ffiniau. Byddwn yn ymchwilio i amrywiaeth eang o destunau, o ffilmiau teithio a dyddiaduron i lyfrau teithio a blogiau. Mi fyddwn ni hefyd yn cymharu teithwyr o wahanol wledydd Ewrop, sydd wedi ysgrifennu mewn nifer o ieithoedd ac ar wahanol gyfnodau hanesyddol. Rydyn ni'n gobeithio dod o hyd i ddeunydd cyfoethog ac amrywiol a fydd wir yn ein helpu i ddeall syniadau Ewropeaidd am Gymru".

Un o brif amcanion y project yw adeiladu cronfa ddata helaeth o ffynonellau a ddatgelir dros y tair blynedd nesaf, ar gyfer cynulleidfa academaidd a chynulleidfaoedd ehangach. Bydd gwefan y project yn cynnwys yr adnoddau mapio diweddaraf i alluogi i ddefnyddwyr chwilio a dod o hyd i wybodaeth ac ymchwil drwy glicio ar fapiau rhyngweithiol.

Bydd y project yn ymestyn allan i bob aelod o'r gymuned gydag arddangosfa mewn amgueddfa yn nodi canlyniadau'r ymchwil, a fydd yn teithio o amgylch Cymru. Bydd ysgolion a chymdeithasau lleol yn cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn rhaglen ddigwyddiadau helaeth. Mae'r arddangosfa hefyd yn cyd-fynd â chynhadledd ryngwladol y project ym mis Medi 2015, a fydd yn denu ysgolheigion a rhai o bob rhan o Brydain a thu hwnt sy'n frwd dros ysgrifennu am deithio.

Mae'r project yn awyddus dod o hyd i ffynonellau nas dogfennwyd eto. Gallai'r ffynonellau hynny gynnwys dyddiaduron, cofiannau neu adroddiadau am deithiau a phrofiadau pobl o Ewrop yng Nghymru. Os oes gan unrhyw un wybodaeth am ffynonellau felly, cysylltwch â'r tîm ar europetowales@bangor.ac.uk. Hefyd hoffwch ein tudalen Facebook  Teithwyr Ewropeaidd i Gymru neu dilynwch y prosiect ar Drydar Ewrop i Gymru

Dyddiad cyhoeddi: 20 Awst 2013