Taith weledol arloesol a diddorol drwy batrymau’r meddwl wrth i ni symud…

Beth sy’n dal eich sylw pan fyddwch yn gwylio dawnsiwr ar lwyfan? Gwisg, coreograffi, sgiliau technegol y dawnsiwr? Mae’r dawnsiwr cyfoes adnabyddus Riley Watts a Dr.Emily Cross, sy’n niwro-wyddonydd ym Mhrifysgol Bangor, yn dangos bod yna ffactorau llai amlwg yn dylanwadu ar ein canfyddiadau.

Mae’r darn arloesol hwn o waith ymchwil, a’r perfformiad sy’n mynd law yn llaw ag ef, yn dangos beth sy’n digwydd yn yr ymennydd pan fyddwn ni’n gwylio symudiadau cymhleth. Fe fyddwch yn siŵr o gael eich rhyfeddu…

  • Dyddiad:21/11/2012
  • Amser: 07:30 PM
  • Lleoliad:Neuadd Fwyta Reichel, Prifysgol Bangor
  • Tocynnau: £5/£3.50 gostyngiadau
  • Ffôn: 01248 382828, ymwelwch â Palas Print Pendref neu archebwch arlein: www.pontio.co.uk

http://www.pontio.co.uk/whats-on/full-event.php.cy?nid=9959&tnid=9959

Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2012