Uwchgynhadledd Marchnad Lafur Cymru yn annog ailystyried polisïau yn radical i hybu swyddi yng ngogledd Cymru

Trefnwyd Uwchgynhadledd Marchnad Lafur Cymru ar Sgiliau a Chyflogaeth ym Mhrifysgol Bangor ddydd Gwener, Medi 18 gan Dr Tony Dobbins (Ysgol Busnes Bangor) a Dr Alexandra Plows (Ysgol Gwyddorau Cymdeithas). 

Roedd yr Uwchgynhadledd yn gyfle i wahanol fudd-ddeiliaid y farchnad lafur ddod ynghyd i drafod ymyriadau polisi sydd eu hangen i wella'r ffordd y defnyddir sgiliau ac i hybu nifer y swyddi o ansawdd da yng Nghymru. Mae'n amlwg bod cytundeb cyffredinol yn datblygu ymhlith gwahanol fudd-ddeiliaid nad yw'r polisïau marchnad lafur presennol ar gyfer Cymru yn gweithio a bod angen ailystyried polisïau i raddau helaeth.  Daeth nifer o gasgliadau mewn perthynas â heriau'r farchnad lafur ac ymyriadau polisi cysylltiedig i'r amlwg yn ystod y dydd, gan gynnwys:

  • Mae dad-ddiwydiannu wedi arwain at etifeddiaeth niweidiol yng Nghymru a rhanbarthau eraill yn y DU, a gwelwyd esgeulustod ers tro o ymyriadau i greu galw marchnad lafur am swyddi newydd o ansawdd da;
  • Yn rhy aml, nid yw'r gwacter a grëwyd gan golli swyddi diwydiannol traddodiadol yng Nghymru yn cael ei lenwi; 
  • Mae angen symud y tu hwnt i'r polisi sgiliau confensiynol sy'n ymateb i alw - nid yw cynyddu nifer y bobl gyda sgiliau newydd a chymwysterau yn unig a gobeithio y daw swyddi yn sgil hynny yn gweithio;
  • Mae confensiynoldeb ar ochr y galw yn cyfrannu at broblemau cynyddol yn y farchnad lafur o ormod o sgiliau a diffyg gwaith;
  • Nid yw cynyddu sgiliau'n unig yn creu'r galw gan gyflogwyr am y sgiliau hynny'n awtomatig: felly mae angen gweithredu i hybu'r galw;
  • Dylai ansawdd swyddi fod yn gadarn ar yr agenda gwleidyddol – mae gormod o swyddi yng Nghymru a rhanbarthau eraill o'r DU yn ‘low road’: sef o ansawdd isel, sgiliau isel, cyflog isel, ansicr;
  • A yw cynnydd mewn hunangyflogaeth yn arwydd o fentergarwch neu ddiffyg dewisiadau eraill?
  • Mae Cyrff Cyswllt y Farchnad Lafur fel Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn chwarae rhan bwysig mewn paru sgiliau (cyflenwad) a swyddi cyfredol (galw);
  • Mae strategaeth 'Ynys Ynni' Ynys Môn yn gynllun swyddi pwysig sy'n canolbwyntio ar y galw;
  • Mae angen gweithredu ar ffurf polisi i fynd i'r afael â chwmnïau maint canolig, y Mittelstand, sydd ar goll yng Nghymru.
  • Os yw'r wladwriaeth yn gwneud llai yn allanol, efallai bod rhaid i gyflogwyr wneud mwy i gynllunio/ariannu eu galluoedd dysgu eu hunain yn fewnol yn y gweithle;
  • Mae rhai pobl yn cael gormod o waith ac eraill ddim yn cael digon o waith: gellid ailystyried sut y caiff amser/oriau gwaith eu dosrannu a chreu patrymau gwaith mwy cynaliadwy.
  • Efallai y gallwn ddysgu o'r hyn a wneir gan wledydd eraill gyda pholisi'r farchnad lafur: er enghraifft, a oes awydd/cefnogaeth ar gyfer sefydliadoli Partneriaeth Gymdeithasol yng Nghymru rhwng y llywodraeth, cyflogwyr, undebau llafur ac eraill, i fynd i'r afael â heriau yn y farchnad lafur ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol ac mewn sectorau?
  • A oes angen i ogledd Cymru fod yn rhan o weledigaeth 'Pwerdy'r Gogledd'?

Roedd yr Uwchgynhadledd Marchnad Lafur yn ddigwyddiad cyfnewid gwybodaeth i hyrwyddo effaith ymchwil a bod yn sail wybodaeth i bolisi. Denodd gynulleidfa gymysg o wneuthurwyr polisi, ymarferwyr marchnad lafur, cynrychiolwyr cyflogwyr, undebwyr llafur, cynghorwyr gyrfaoedd ac academyddion. Y siaradwyr oedd Iwan Thomas (Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru [NWEAB]); Dylan Williams (Pennaeth Adfywio Economaidd a Chymunedol, Cyngor Sir Ynys Môn); Dr Tony Dobbins a Dr Alexandra Plows (Prifysgol Bangor); Rhys Davies (Prifysgol Caerdydd, Wiserd); Hannah Blythyn (Swyddog gwleidyddol, undeb llafur Unite); Iestyn Davies (Ffederasiwn y Busnesau Bychain); Yr Athro Ewart Keep (Prifysgol Rhydychen, SKOPE).

Ariannwyd Uwchgynhadledd Marchnad Lafur Cymru gan grant SG130159 gan yr Academi Brydeinig a'r Ymddiriedolaeth Leverhulme.

Ceir cyswllt ‘storify’ i'r Uwchgynhadledd: https://storify.com/Dr_Clair/labour-market-summit-north-wales

Dyddiad cyhoeddi: 21 Medi 2015