Wild Things o ogledd Cymru

Dr Trevor DinesDr Trevor DinesBydd cyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor, y botanegwr Trevor Dines, yn ymddangos mewn cyfres newydd ar Channel 4, Wild Things, a gynhyrchir gan y cwmni lleol Cwmni Da. Mae sawl unigolyn o ogledd Cymru wedi bod yn rhan o'r gyfres hon, gan fod academyddion ac ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi cyfrannu eu harbenigedd at y rhaglenni, sy'n edrych ar blanhigion gwyllt rhyfeddol gwledydd Prydain.

Yn y gyfres hon sy'n cynnwys chwe phennod, bydd Dr Trevor Dines yn mynd i chwilio am yr amrywiaeth fawr o blanhigion gwyllt rhyfeddol yng ngwledydd Prydain, ynghyd â’i gyd-gyflwynwyr, y dylunydd tirlun Chris Myers a'r cenegydd Sally Eaton.

Yn y rhaglen gyntaf, Roadside, a ddarlledir nos Lun, 21 Ionawr am 8.30 o'r gloch ar Channel 4, mae'r tîm yn mynd i Ganolbarth Lloegr ac i ganol rhwydwaith ffyrdd Prydain. Efallai nad dyma'r lle mwyaf amlwg i ddechrau chwilio am bethau gwyllt, ond yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf, mae ochrau'r ffyrdd hyn wedi mynd yn debyg iawn i warchodfeydd natur.   Wrth chwilio yn y lleiniau caled a'r lleiniau meddal, maent yn darganfod sut mae un planhigyn gwyllt bellach yn symud yn gyflymach na’r un planhigyn arall ym Mhrydain a pham mae un blodyn Prydeinig cyfarwydd iawn wedi dod dan fygythiad gan  ffugiwr pen ffordd.

Cyfrannodd Dr Vera Thoss o Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor ei harbenigedd at y bennod hon, gan rannu ei gwybodaeth am fwtsias y gog a'i chariad tuag atynt. Anfonwyd samplau o fwtsias y gog at Dr Thoss a'i thîm ymchwil i ddadansoddi eu harogl, sydd mewn perygl o fynd yn atgof pell yn sgil dyfodiad bwtsias y gog dibersawr o Sbaen.

Dr Thoss yw un o’r ychydig rai ym Mhrydain sydd â thrwydded i reoli poblogaeth bwtsias y gog gwyllt mewn modd cynaliadwy er mwyn gwerthu eu bylbiau a'u hadau. Mae Dr Thoss yn gemegydd organig yn Ysgol Cemeg y brifysgol ac mae ganddi ddiddordeb mewn cemeg amgylcheddol ac ecolegol a rhai o'r cyfansoddion cemegol defnyddiol sydd mewn planhigion.

Meddai Dr Thoss:

"Roedd yn bleser gweithio gyda Trevor ar arogl bwtsias y gog gan ei fod mor wybodus am fotaneg. Er bod ein gwybodaeth am gemeg yn gadarn iawn, mae’r sicrwydd o ymdrin â phlanhigyn croesryw’n help garw. Roedd hefyd yn ddiddorol iawn mesur y gwahaniaeth yn yr arogl, er y bydd rhaid i ni wneud llawer mwy o waith i wybod yn iawn beth yw’r cyfansoddion ynddo."

Rhoddodd Dave Preskett o Ganolfan Biogyfansoddion y brifysgol gyngor arbenigol i wneuthurwyr y gyfres ar ddwy o'r penodau eraill. Defnyddiodd gwneuthurwyr y rhaglen hefyd labordai, adnoddau a chyfarpar y brifysgol i gynnal rhai o'r arbrofion a'r arddangosiadau sydd i'w gweld yn y gyfres.

Dywedodd Dave Preskett “Bûm yn helpu gwneuthurwyr y rhaglen gydag arddangosiad diddorol i ddangos sut mae planhigyn rhyfeddol, sef y crassula connata, yn gallu byw trwy dywydd oer. Roedd rhoi cyngor i gyfres deledu yn brofiad diddorol iawn a dysgais rywfaint am y broses ymchwil a sut mae’r rhaglenni'n cael eu creu.

Ychwanegodd: "Rydym yn edrych ymlaen at wylio'r rhaglen ac rydym yn dymuno pob llwyddiant i Gwmni Da gyda'r gyfres.”

Graddiodd Dr Trevor Dines o Brifysgol Bangor ym 1990 gyda gradd fotaneg.

Dywed: "Bûm yn ddigon ffodus i gael fy magu ar fferm yn swydd Hampshire, a deuthum ar draws tegeirian gwyllt mewn coedwig un diwrnod. Bu'r darganfyddiad hwnnw'n ddigon i wneud i mi fod eisiau dysgu am bob planhigyn gwyllt y gallwn ddod o hyd iddo ac arweiniodd yn y pen draw at y diddordeb mawr mewn botaneg sydd gennyf hyd heddiw. Trwy wyliau gyda fy nheulu a theithiau maes yn y coleg, deuthum i adnabod gogledd Cymru'n dda a phan gefais gyfle i ddod i astudio planhigion mewn gwlad arall gyda golygfeydd rhyfeddol a phlanhigion gwahanol iawn i rai swydd Hampshire,  roeddwn wrth fy modd. Yn y dyddiau hynny, roedd gan Fangor Ysgol Bioleg Planhigion o'r radd flaenaf a llawer o ddarlithoedd botaneg rhagorol. Roedd yn gwrs cyffrous a gwahanol - nid oedd yn canolbwyntio ar ffisioleg a biocemeg, roedd yn cynnwys anatomeg, morffoleg a geneteg planhigion ac, wrth gwrs, roeddem yn astudio planhigion gwledydd Prydain. Roedd yn gwrs eithaf unigryw.

Roedd Nigel Brown, sy'n dal i ddarlithio ac sydd hefyd yn guradur Gardd Fotaneg Treborth, yn ysbrydoliaeth fawr i ni, roedd yn mynd â ni ar deithiau maes i'r mynyddoedd a'r traethau i chwilio am blanhigion a phethau gwyllt eraill. Roedd ei frwdfrydedd yn heintus ac mae hynny wedi aros gyda mi hyd heddiw."

Dywed mai'r peth pwysicaf iddo ddysgu yn y brifysgol oedd "nad yw pethau byw yn darllen gwerslyfrau. Os gwelwch bethau y tu allan i'r "norm" - canlyniad od mewn arbrawf, planhigyn yn y lle anghywir, rhywbeth yn ymddwyn mewn ffordd anarferol - peidiwch â'u diystyru, cymerwch sylw ohonynt. Yr eithriadau a'r anghysonderau hyn sy'n gwthio ffiniau ein gwybodaeth ac yn ein helpu i ddeall y maes yn well.”

Yn ystod ei gyfnod ym Mangor, bu Trevor yn "ddigon ffodus i fynd ar daith i goedwig law yng Nghamerŵn i astudio'r rhyngweithio rhwng coed yn y canopi - sut maent yn brwydro i gael lle a golau 40 medr o'r ddaear." Sut ydych chi’n cyrraedd y canopi i astudio'r brigau a'r blagur?  Mewn balŵn wrth gwrs! Gwnaethom hedfan dros y canopi mewn balŵn llywiadwy anferthol gyda phropelor oedd yn golygu bod modd ei hedfan i unrhyw gyfeiriad. Roedd yn daith fythgofiadwy, yn enwedig gan mai fi oedd yr unig un o'r criw i syrthio allan o'r balŵn ac i frig coeden a chael anaf!”

Ei gyngor i fyfyrwyr heddiw sydd â diddordeb mewn ecoleg yw: “Dysgwch am blanhigion. Mae mor syml â hynny. Y sgiliau pwysicaf yw gallu adnabod planhigion a deall eu hecoleg. Yna gallwch ddechrau deall sut mae cynefinoedd megis rhostiroedd a glaswelltiroedd yn gweithio - sut mae gwahanol rywogaethau yn gweithio gyda'i gilydd i greu cymunedau a sut maent yn ymateb i wahanol ddulliau rheoli. Gan mai planhigion a ffyngau yw cerrig sylfaen pob cynefin a chan fod popeth gwyllt arall yn dibynnu arnynt er mwyn byw, os gwnawn lwyddo i'w trin yn y ffordd iawn, yna bydd yr holl fywyd gwyllt arall yn ffynnu hefyd. Rwy'n falch dros ben bod y brifysgol am ddechrau cwrs MSc mewn cadwraeth planhigion ym mis Medi 2013. Gan fod cymaint o gyrsiau botaneg yn dod i ben o amgylch y wlad, mae'n newyddion gwych, a chan mai Nigel Brown fydd yn arwain y cwrs, caiff cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr eu hysbrydoli ganddo”.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2013