Yr anifeiliaid mwyaf hirhoedlog yn datgelu cyfrinachau newid hinsawdd

Roedd gweithgareddau  ar stondin Ysgol Gwyddorau Eigion yn y Gwyddonle yn Eisteddfod yr Urdd yn ddiweddar yn datgelu i'r cyhoedd yr hyn y mae gwddonwyr yn ei ddysgu drwy astudio llinellau twf cregyn ein anifail mwyaf hir-hoedlog.Roedd gweithgareddau ar stondin Ysgol Gwyddorau Eigion yn y Gwyddonle yn Eisteddfod yr Urdd yn ddiweddar yn datgelu i'r cyhoedd yr hyn y mae gwddonwyr yn ei ddysgu drwy astudio llinellau twf cregyn ein anifail mwyaf hir-hoedlog.Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi defnyddio rhai o’r anifeiliaid mwyaf hirhoedlog yn y byd i edrych ar sut mae Gogledd Môr yr Iwerydd wedi effeithio ar ein hinsawdd dros y 1,000 o flynyddoedd diwethaf.   

Trwy edrych yn fanwl ar rhywogaeth o gregyn bylchog sy’n gallu byw am 500 mlynedd o leiaf, maent wedi dangos y gall gwanhau yn Llif y Gwlff - y cerrynt sy'n dod â dŵr cynnes o Fôr y Caribî i ogledd orllewin Ewrop – fod wedi cyfrannu at amodau eithriadol o oer yn Ewrop o’r 15fed ganrif hyd y 19eg ganrif.  Dyma’r cyfnod a adwaenir fel Oes yr Iâ Fach, ac roedd yn gyfnod enbyd o oer gyda chynaeafau gwael, adegau o newyn a chwyldro, ond yn gyfnod hefyd pryd y cynhelid ffeiriau rhew rhyfeddol ar wyneb rhewedig Afon Tafwys.

“Os yw Llif y Gwlff yn wannach, yna mae llai o wres yn cael ei gludo i’r gogledd, ac o ganlyniad mae tymereddau yng ngogledd orllewin Ewrop yn mynd yn debycach i dymereddau yn yr un lledred yng Nghanada”, meddai Dr Paul Butler o Ysgol Gwyddorau’r Eigion ym Mhrifysgol Bangor.

Cregyn y Cragen Fylchog Arctica islandica,  sy'n medru byw yn hir iawnCregyn y Cragen Fylchog Arctica islandica, sy'n medru byw yn hir iawnMae’r ymchwil, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn blaenllaw Nature Communications, yn defnyddio dull dadansoddi radiocarbon ar y cregyn - sy’n dod o anifeiliaid a oedd yn byw i'r gogledd o Ynys yr Iâ - i ganfod ffynhonnell y dŵr yr oedd y cregyn bylchog yn byw ynddo.   “Mae’r radiocarbon yn dweud wrthym faint sydd ers pan oedd y dŵr ar yr wyneb ddiwethaf,” meddai Dr Butler. “Os yw’r dŵr yn ‘hen’, gwyddom ei fod yn dod yn lle cyntaf o ddyfnderoedd Môr yr Arctig. Ar y llaw arall, mae dŵr a ddaeth yn wreiddiol o Fôr yr Iwerydd, fel Llif y Gwlff, wedi bod ar yr wyneb yn fwy diweddar, felly mae’r dadansoddiadau o’r cregyn yn dangos ei fod yn ‘ifanc’.  Yn ystod Oes yr Iâ Fach, ymddengys bod y rhan fwyaf o’r dŵr i’r gogledd o Ynys yr Iâ yn ddŵr hŷn o’r Arctig a bod llai o ddŵr yn dod o Fôr yr Iwerydd.  Rydym yn dehongli hyn fel tystiolaeth bod Llif y Gwlff yn wannach y pryd hynny.  Cyn y 15ed ganrif - sef y cyfnod a elwir gennym yn Gyfnod Cynnes Canoloesol - roedd y sefyllfa’n hollol wahanol. “

Dyma'r  llinellau twf yn y gragen o dan feicroscop. Mae'r bandiau hyn yn cynnwys gwybodaeth am yr hinsawdd.Dyma'r llinellau twf yn y gragen o dan feicroscop. Mae'r bandiau hyn yn cynnwys gwybodaeth am yr hinsawdd.Ym mis Hydref 2007 pan gyhoeddodd gwyddonwyr Bangor ffrwyth eu hymchwil ar hirhoedledd rhyfeddol y cregyn bylchog hyn cafwyd ymateb brwd o bob cwr o'r byd ac enwyd yr ymchwil yn un o ddeg darganfyddiad gwyddonol mwyaf arwyddocaol y flwyddyn.   Mae’r canlyniadau diweddaraf yn dangos sut y gellir defnyddio’r maes ymchwil hwn i astudio amgylchedd morol y gorffennol.    

“Y peth da am y cregyn hyn yw bod ganddynt linellau twf blynyddol eglur, felly gallwn ddyddio deunydd y gragen yn fanwl gywir", meddai Dr Butler.   “Beth sydd yn eu gwneud hyd yn oed yn fwy defnyddiol yw bod yr un patrymau i’r llinellau trwy’r boblogaeth, felly trwy gymharu patrymau’r cregyn meirwon gyda phatrymau cregyn creaduriaid byw gallwn gyfrifo dyddiadau'r cregyn meirwon.  Rydym yn gweithredu yn yr un ffordd ag archaeolegwyr pan fyddant yn defnyddio cylchoedd  coed marw i gyfrifo dyddiadau hen adeiladau.”     

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2012