Yr astudiaeth fwyaf erioed ar effaith pysgota'n dod â gobaith i bysgotwyr cregyn bylchog Bae Ceredigion

Creggyn y Frenhines (math o gragen fylchog) ar wely'r môr ger Ynys ManawCregyn y Frenhines (math o gragen fylchog) ar wely'r môr ger Ynys Manaw.Mae gwyddonwyr o Brifysgol Bangor, a fu'n cydweithio â Chymdeithas Pysgotwyr Cymru, Llywodraeth Cymru ac Adnoddau Naturiol Cymru, wedi cyhoeddi eu darganfyddiadau o'r astudiaeth fwyaf erioed ar effaith pysgota, a gyllidwyd yn rhannol gan y Gronfa Pysgodfeydd Ewropeaidd. 

Cafodd Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Bae Ceredigion ei chau i bysgota am gregyn bylchog yn 2009.  Mae ymchwil dan arweiniad Prifysgol Bangor wedi canolbwyntio ar ddeall faint o bysgota cregyn bylchog o fewn yr ACA fyddai'n cael ei ystyried yn gynaliadwy ac na fyddai'n niweidio nodweddion cadwraeth yr ardal. 

I wneud hyn treuliodd y tîm 18 mis yn paratoi i gynnal arbrawf pysgota enfawr, gyda chychod masnachol yn pysgota i wahanol raddau mewn 12 o wahanol safleoedd.  Cymharwyd canlyniadau'r pysgota â phedair ardal na fu pysgota o gwbl ynddynt.  Ar ôl gweld yn awr y gellir pysgota i ryw lefel yn yr ardal heb achosi niwed i'r amgylchedd, cam nesaf y gwaith yw darparu mwy o wybodaeth i alluogi'r asiantaethau sy'n gyfrifol i benderfynu ar fesurau rheoli at y dyfodol ac, os yw'n briodol, pennu lefel y pysgota sydd i'w ganiatáu.

Meddai'r Athro Michel Kaiser, sy'n arwain y Grŵp Gwyddor Pysgodfeydd a Chadwraeth yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor: 

"Hon ydi'r astudiaeth gyntaf o'i bath sy'n rhoi gwybodaeth a fydd yn ein galluogi i roi cyngor ar faint o bysgota y gall gwely'r môr yn yr ACA ei oddef; mae'n sail i drefn weithredu wedi'i seilio ar ecosystem i reoli potensial pysgota yn yr ardal."

Gollwng cregyn ar fwrdd llong ymchwil y Brifysgol, y Prince Madog.Gollwng cregyn ar fwrdd llong ymchwil y Brifysgol, y Prince Madog.Caiff y rhan fwyaf o bysgodfeydd eu rheoli'n unol â'r rhywogaethau targed, sef cregyn bylchog yn yr achos hwn.  Byddai pennu dau drothwy, un yn ymwneud â tharfu ar wely'r môr ac un ar gyfer cregyn bylchog, yn rhoi ysgogiad cryf i bysgotwyr i darfu cyn lleied â phosibl ar wely'r môr. 

Meddai Dr Gwladys Lambert, a fu'n arwain yr ymchwil: "Fe wnaethom ddysgu llawer iawn o'r astudiaeth hon ac rydym yn gwybod yn fanwl gywir erbyn hyn i ba raddau y gellir pysgota am gregyn bylchog ym Mae Ceredigion mewn ffordd gynaliadwy.  Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gydweithrediad y diwydiant pysgota a phroseswyr a weithiodd yn arbennig o galed i'n helpu i gyflawni'r gwaith gwyddonol unigryw yma." 

Mae'r adroddiadau perthnasol (59, 60 a 61) ar gael yma 

Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2015