Newyddion Ymchwil: Mai 2011

Ar drywydd gwyddau ucha’r byd

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Bangor wedi datgelu gorchestion rhyfeddol y gwyddau sy’n medru hedfan uchaf yn y byd, ac mae ffrwyth eu hymchwil i’w gyhoeddi yn y cylchgrawn gwyddonol Americanaidd pwysig:  Proceedings of the National Academy of Sciences.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2011

Grant o Bwys gan AHRC wedi’i ddyfarnu i PRoMS – ‘Cynhyrchu a Darllen Ffynonellau Cerddoriaeth / The Production and Reading of Music Sources, 1480-1530’

Bydd llawysgrifau cerddoriaeth ac argraffiadau o ‘Oes Aur’ polyffoni yn dod o dan y chwyddwydr mewn project ymchwil tair-blynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2011

Mesur effaith rhewlifau’n toddi ar gerrynt y môr

Mae tîm o wyddonwyr o Brifysgolion Bangor a Sheffield wedi defnyddio model hinsawdd cyfrifiadurol i astudio sut yr effeithiodd dŵr croyw, a ryddhawyd i’r cefnforoedd ar ddiwedd oes yr iâ 140,000 o flynyddoedd yn ôl, ar y rhannau o gerrynt y cefnforoedd sy’n rheoli hinsawdd. Dyma’r astudiaeth gyntaf o’i bath ar gyfer y cyfnod amser yma.

Mae papur wedi’i seilio ar yr ymchwil,  sydd wedi’i ysgrifennu ar y cyd gan Dr Mattias Green, Uwch Gymrawd Ymchwil yn Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol,  yn  cael sylw fel ‘Pigion y Golygydd’ mewn cylchgrawn Americanaidd blaenllaw yn y maes, sef Paleoceanography.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mai 2011

Prifysgol Bangor yn croesawu’r Achrediad diweddaraf i Bysgodfa Gynaliadwy

Mae Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor wedi croesawu’r newydd fod y bysgodfa sy’n cynhyrchu Cregyn y Frenhines (Queenies) o Ynys Manaw, wedi ennill tystysgrif gynaladwyedd o dan Raglen y Cyngor Stiwardiaeth Forol. 

Mae arbenigwyr ym maes pysgodfeydd cynaliadwy yn yr Ysgol wrthi’n gweithio er 2006 gydag Adran Llywodraeth Ynys Manaw dros yr Amgylchedd, Bwyd ac Amaeth, er mwyn ei chynghori ar sut i reoli’r bysgodfa mewn modd cynaliadwy.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mai 2011

Ymchwilwyr Geiriau/Cerddoriaeth o Brifysgol Bangor yn rhan o ddau ddigwyddiad yng nghanol Llundain

Bu’r Darlithydd mewn Ffrangeg, Dr Helen Abbott a’r Cymrawd Ymchwil Er Anrhydedd mewn Ffrangeg, Sholto Kynoch yn cyd-gyflwyno sesiwn ar eu cywaith ymchwil sy’n edrych ar berfformio’r gân Ffrangeg yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mai 2011