Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Newyddion Ymchwil

Newyddion Ymchwil: Mehefin 2020

Peidiwch â tharfu ar y piod y môr wrth eu cwsg!

Mae sŵolegwyr o Brifysgol Bangor wedi dangos sut all gweithgareddau dynol fod yn tarfu ar biod môr,  aderyn Prydeinig sydd yn agos i fod at fygythiad.

Bu’r ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi yn y Journal of Zoology yn astudio i ba raddau y mae cwsg yr adar yn cael ei aflonyddu gan gerddwyr a phobol yn cerdded eu cŵn, a gan gychod ar y môr yn y pellter, a pha effaith gall y rhain gael ar eu hangen am gwsg a’u bywiogrwydd i unrhyw fygythiad.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mehefin 2020

Sut mae'r cyfyngiadau symud wedi effeithio ar ein defnydd o lecynnau gwyrdd?

Rydym yn gwybod bod cael mynediad at  lecynnau gwyrdd a natur yn effeithio ar ein hwyliau a hyd yn oed ar ein hiechyd meddwl a’n lles.  Mae'r cyfyngiadau symud wedi newid ein mynediad at y llecynnau hyn. Pa effaith caiff hyn ar ein lles? A beth all hyn ddweud wrthym am bwysigrwydd mannau o'r fath a phrofiadau gwahanol grwpiau economaidd yn ein cymdeithas? 

Mae Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor wedi ennill grant gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol y DU i ateb rhai o’r cwestiynau hyn.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Mehefin 2020

Noisy humans make birds sleep with one eye open – but lockdown offered a reprieve

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Graeme Shannon o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol  sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2020

Mae awyr artiffisial y nos yn fygythiad mawr i rywogaethau'r arfordir

Mae ymchwil newydd yn awgrymu o bosib bod goleuadau artiffisial arfordiroedd y byd yn effeithio'n ddirfawr ar y rhywogaethau sy'n dibynnu ar y lleuad a'r sêr i chwilota am fwyd.

Mae creaduriaid fel y chwannen draeth (Talitrus saltator) yn defnyddio safle'r lleuad a disgleirdeb awyr naturiol y nos i lywio eu symudiadau yn y nos.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2020

Rhaglen beilot i fesur lefelau coronafeirws mewn gwaith trin dŵr gwastraff

Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cadarnhau bod bron i hanner miliwn o bunnau wedi’i roi i raglen beilot a fydd yn tynnu sylw at arwyddion cynnar o’r coronafeirws yng Nghymunedau Cymru drwy fonitro’r systemau carthffosiaeth.

Gall monitro lefelau coronafeirws yn rheolaidd mewn gwaith trin dŵr gwastraff roi awgrym o’r gyfradd heintio yn y gymuned a rhoi arwydd cynnar bod coronafeirws yn bresennol.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2020

Gwella gallu gofodol er mwyn helpu i gau'r bwlch rhwng y rhywiau mewn pynciau STEM

Bydd Prifysgol Bangor yn cyfrannu arbenigedd at broject Ewropeaidd newydd i wella galluoedd gofodol plant, gyda'r nod o helpu i gau'r bwlch rhwng y rhywiau ym maes gwyddoniaeth, peirianneg technoleg a mathemateg (STEM).

Mae disgyblion â lefelau uchel o allu gofodol yn llawer mwy tebygol o lwyddo mewn pynciau STEM, o fwynhau eu gwneud ac o'u dewis i'w hastudio ymhellach ac fel gyrfa o gymharu â disgyblion â gallu gofodol isel.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2020

Ymchwil israddedig wedi'i gyhoeddi mewn cyfnodolyn gwyddonol

Mae James Edwards wedi gweld ei waith traethawd hir blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Bangor yn cael ei gyhoeddi yn Acupuncture in Medicine.

Fe wnaeth James, sydd bellach yn 23 ac yn astudio deintyddiaeth, ymchwilio i effeithiolrwydd aciwbigo ar gyfer poen nerfol yn y wyneb. Cymharodd ganlyniadau triniaeth ar gyfer aciwbigo gyda therapi cyffuriau a llawfeddygaeth. 

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2020

Coronavirus: wastewater can tell us where the next outbreak will be

Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Davey Jones o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol. 

Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2020

Brexit yn datgelu canfyddiadau newydd ynglŷn â lleiafrifoedd ac iechyd meddwl

Gallai perthyn i grŵp lleiafrifol, y mae ei hunaniaeth yn bwysig i chi, effeithio'n negyddol ar eich iechyd meddwl.

Dyna gasgliad darn o ymchwil a wnaed yn sgil refferendwm Brexit ac a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Social Science and Medicine. (Mental health consequences of minority political positions: The case of Brexit)

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2020

Coming of age in 2020 – the summer without exams or school proms

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Isabelle Winder o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol a Vivien Shaw a Gwyndaf Roberts o'r Ysgol Gwyddorau Meddygol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol. 

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2020

Canolfan ymchwil newydd i astudio problem gynyddol gwastraff plastig

Mae Canolfan ymchwil newydd wedi'i sefydlu ym Mhrifysgol Bangor i astudio problem gynyddol gwastraff plastig. Canolfan Ymchwil Plastig Cymru(PRC Cymru) yw'r cyntaf o'i bath yn y wlad ac mae'n dwyn ynghyd amrywiaeth eang o academyddion, myfyrwyr, sefydliadau a diwydiannau.

Daeth Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Effaith Prifysgol Bangor, yr Athro David Thomas, â’r grŵp ynghyd ar ôl sylweddoli bod llawer o wyddonwyr 

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2020

Gwybodaeth newydd am ymwrthedd i gyffuriau canser

Cyhoeddwyd ymchwil o labordy Dr Edgar Hartsuiker yn Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin, yn Ysgol Gwyddorau Meddygol Bangor, yn rhifyn diweddaraf (29 Mai) y cyfnodolyn uchel ei barch Science Advances.

Mae llawer o gyffuriau canser yn lladd celloedd canser trwy rwystro dyblygiad eu deunydd genetig, sef y DNA. Un o'r cyffuriau hyn yw Gemcitabine, a ddefnyddir i drin canser y pancreas, y bledren a'r ysgyfaint, ymhlith eraill. Mae Gemcitabine yn dynwared un o flociau adeiladu DNA, diocsisytidin niwcleosid, ac yn cystadlu ag ef i integreiddio i DNA celloedd canser. Ar ôl iddo integreiddio, mae'n rhwystro'r DNA rhag dyblygu ac mae hynny'n rhwystro'r gell ganser rhag rhannu.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Mehefin 2020