Allwn ni stopio newyddion ffug yn y 10 mlynedd nesaf?

Mae Vian Bakir (Athro Cyfathrebu Gwleidyddol a Newyddiaduraeth yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor) yn besimistaidd, ond mae'n ein hannog i beidio â rhoi'r ffidil yn y to. Ar y llaw arall mae Andrew McStay (Athro mewn Bywyd Digidol ym Mhrifysgol Bangor) yn fwy gobeithiol.

Wrth siarad yn ddiweddar yn y gynhadledd CommsCymru ar ymddiriedaeth, rhoddodd Bakir olwg ar y gwahanol atebion i ddatrys newyddion ffug a gafwyd yn y 79 cyflwyniad a wnaed i ymchwiliad presennol llywodraeth y Deyrnas Unedig i newyddion ffug.  (Ysgrifennwyd yr arolwg hwn o atebion a gynigiwyd ar y cyd gydag Andrew McStay.)

Mae Bakir a McStay yn nodi bod yr ateb mwyaf poblogaidd yn ymwneud â chanolbwyntio ar sefydliadau'r cyfryngau i hyrwyddo economi gyfryngau amrywiaethol fel y gall sefydliadau newyddion o ansawdd uchel ffynnu; ac annog newyddiadurwyr i ddweud y gwir.

Ateb poblogaidd arall yw canolbwyntio ar addysg i gynyddu llythrennedd cyfryngau a digidol pobl fel y gallant adnabod newyddion ffug.

Hefyd yn boblogaidd roedd atebion a oedd yn argymell canolbwyntio ar gyfryngwyr digidol megis Google a Facebook. Roedd cyflwyniadau i'r Ymchwiliad i Newyddion Ffug yn annog y cewri byd-eang hyn i ddargyfeirio arian o'u ffrydiau incwm o hysbysebu digidol i gefnogi darparwyr newyddion sy'n cael trafferth i ymdopi'n ariannol; ac i hyrwyddo newyddion go iawn ac israddio gwefannau newyddion ffug.

Awgrymiadau eraill a gyflwynwyd i'r Ymchwiliad i Newyddion Ffug oedd canolbwyntio ar berswadwyr proffesiynol, megis hysbysebwyr a'r diwydiant cysylltiadau cyhoeddus. Fodd bynnag, roedd rhai o'r cyflwyniadau yn annog hysbysebwyr i ystyried iechyd maes y cyfryngau lle mae gan Google a Facebook gymaint o afael dros y farchnad hysbysebu ddigidol; a sicrhau nad yw systemau hysbysebu yn ysgogi creu newyddion ffug. Wrth ymdrin â'r diwydiant Cysylltiadau Cyhoeddus, roedd rhai cyflwyniadau'n galw am reoleiddio ymgyrchu gwleidyddol er mwyn osgoi twyll ac ystrywiau.

Yn ddiweddar hefyd cyhoeddwyd canlyniadau arolwg gan y Pew Research Center ar The Future of Truth and Misinformation Online. Yn yr arolwg hwn ymgynghorwyd â dros 1,100 o arbenigwyr rhyngrwyd a thechnoleg. Wrth ateb y cwestiwn: a ellir atal newyddion ffug yn y 10 mlynedd nesaf? roeddent wedi eu rhannu bron yn gyfartal o ran ateb y cwestiwn yn gadarnhaol neu'n negyddol.

Meddai Bakir, a ddyfynnwyd yn yr adroddiad hwn, "Wnaiff y sefyllfa ddim gwella oherwydd y ffordd mae technoleg yn datblygu a newid yn barhaus - mae cyfryngau newydd sy'n dod i'r amlwg bob amser yn dal y rhai sydd eisiau eu rheoli; mae modelau cyfryngau cymdeithasol a modelau busnes peiriannau chwilota yn ffafrio lledaenu camwybodaeth; ac mae propagandwyr gydag adnoddau sylweddol yn ecsbloetio'r gymysgedd hon."

 Meddai McStay, a ddyfynnwyd hefyd yn yr adroddiad hwn, "Yn ddi-os, bydd newyddion ffug yn cynyddu o ran ei soffistigeiddrwydd, ond felly hefyd ymgeisiadau i'w ffrwyno.  Er enghraifft, mae'r sgôp i ddadansoddi ar lefel metadata yn gyfle addawol.  Er ei bod yn ras arfau, nid wyf yn rhagweld canlyniad dystopaidd."

Er gwaethaf y sialensiau a ddaw i'r amlwg drwy newidiadau technolegol cyflym, yn ei sgwrs i CommsCymu fel wnaeth Bakir annog y cyrff niferus sydd â rhan mewn trechu newyddion ffug i beidio ag ildio a digalonni.  Mae'n cytuno y byddai mesurau'n canolbwyntio ar ymgyrchoedd llythrennedd cyfryngau yn helpu pobl i adnabod storïau newyddion ffug a'u hanwybyddu, a thrwy hynny leihau eu dylanwad.  Cytuna hefyd y byddai atebion yn canolbwyntio ar sefydliadau cyfryngau, canolwyr digidol a hysbysebwyr yn helpu i gefnogi cynhyrchu storïau newyddion mwy cywir, a'r un pryd gyfyngu ar rai o'r amodau masnachol sy'n galluogi i newyddion ffug ffynnu.

Fodd bynnag, dywed cyhyd ag y bydd perswadwyr proffesiynol a gynorthwyir gan gwmnïau cysylltiadau cyhoeddus yn ceisio camarwain a thwyllo, y bydd dilysrwydd newyddion bob amser yn her ddemocrataidd.  Gwaetha'r modd, dyma un o'r meysydd anoddaf i'w ddatrys, fel roedd cyflwyniadau i'r Ymchwiliad i Newyddion Ffug yn dangos.

Roedd nifer o gyflwyniadau i'r ymchwiliad yn annog rheoleiddio ymgyrchu gwleidyddol, gan gredu ei bod yn annhebygol y bydd perswadwyr proffesiynol yn rhoi sylw i anogaethau i osgoi twyll a chamarwain. Fodd bynnag, dadleuodd amryw hefyd mai dim ond fel cam eithaf y dylid cyflwyno unrhyw ffurf newydd ar sensoriaeth, er mwyn amddiffyn rhyddid i lefaru'n wleidyddol. Mae hwn yn bwynt pwysig.  Fel mae Press Freedom Index diweddaraf Reporters Without Borders yn dangos, mae rhyddid y cyfryngau yn gynyddol fregus mewn democratiaethau. Mae hyn yn cynnwys y Deyrnas Unedig, sydd ond yn safle 40 yn Press Freedom Index 2017.  Mae hyn ddau bwynt yn is na'r hyn oedd y llynedd yn dilyn pasio Deddf Pwerau Ymchwilio 2016. Dan y ddeddf hon gweithredwyd y ddeddfwriaeth guddwylio fwyaf eithafol yn hanes Prydain, gyda darpariaethau annigonol i amddiffyn cyhuddwyr, newyddiadurwyr a'u ffynonellau, a thrwy hynny fygwth newyddiaduraeth ymchwiliadol.

Am fwy ar Newyddion Ffug, gweler : sgwrs Bakir i Cymru Comms ar Slideshare ; arolwg Bakir a McStay o'r cyflwyniadau i'r Ymchwiliad Newyddion Ffug yn 3D ; ac adroddiadau yn Adweek.

Fe wnaeth Vian Bakir hefyd siarad yn CommsCymru yng Nghaerdydd ddydd Iau 26 Hydref 2017. 

Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2017