Beth sydd yn achosi i redwyr marathon a chwaraeon eithafol eraill ddal annwyd?

Bydd rhai o’r rhedwyr ym Marathon Eryri eleni (28 Hydref), sy’n cael ei ddisgrifio fel un o marathonau caletaf yn Ewrop, yn helpu ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor gyda’u hymchwil.

Mae ffisiolegwyr ymarfer corff yn yr Ysgol yn awyddus i ddysgu pam fod rhai rhedwyr i’w gweld yn fwy tebygol o fynd yn sâl neu deimlo’n wael ar ôl rhedeg marathon neu ar ôl cymryd rhan mewn gweithgaredd ymarfer corff eithafol, tra bo rhedwyr eraill yn aros yn iach.

Mae’r rhai sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon dygnwch yn gyfarwydd â’r ffenomen, a’r gred yw mai gwahaniaethau yn y dull hyfforddi cyn y digwyddiad sydd i gyfrif am hyn.

Mae arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor yn chwilio am esboniad mewn lle tra gwahanol. Maent yn amau’n gryf fod ein gwneuthuriad seicolegol yn cael effaith ar sut y mae ein cyrff yn ymateb i brofiadau o ddygnwch eithafol, neu mewn geiriau eraill, straen.

Mae profion cynnar wedi arwain y grŵp i gredu bod ein nodweddion seicolegol a sut yr ydym yn dygymod â’r ras o flaen llaw, yn effeithio ar ymateb awtomatig ein cyrff.

Fel yr esbonia’r Athro Neil Walsh sy’n arwain y grŵp ymchwil:

“Tra bod ymarfer corff yn gyffredinol yn rhoi hwb i’n system imiwnedd, mae digwyddiadau dygnwch yn achosi cwymp byr yn ein lefelau imiwnedd, ar ôl y digwyddiad.

Y syniad yr ydan ni’n ei archwilio ydy bod modd rhagweld sut y bydd system amddiffyn imiwnedd ein cyrff yn gweithio mewn cyfnod o straen, megis yn ystod marathon. Mae’n bosib bod nodweddion seicolegol parhaol yn ffordd o ragweld sut y bydd ein cyrff yn ymateb.”

Mae Sophie Harrison, sydd yn fyfyrwraig PhD yn yr Ysgol, yn arwain ar y gwaith ymchwil sy’n ymwneud a’r marathon ac meddai:

“Mae ymchwil diweddar yma ym Mhrifysgol Bangor wedi awgrymu ein bod ar y trywydd cywir. Efallai bod straen corfforol a straen seicolegol yn defnyddio’r un llwybr ac felly mae ein cyrff yn ymateb mewn ffordd debyg i straen corfforol ag i straen seicolegol.

Rydym yn edrych ar deipiau seicolegol pobol, gan fesur llid ac imiwnedd y gallwn ei ganfod mewn poer. Bydd hyn yn dangos sut mae cyrff pobol yn ymateb i straen y marathon. Rydym eisiau gwybod a yw hi’n bosib rhagweld pa unigolion sydd fwyaf tebygol o deimlo’n wael, y tu hwnt i’r straen ar y corff y gellid ei ddisgwyl wrth redeg marathon neu wneud gweithgaredd eithafol tebyg.”

Mae’r unigolion sydd wedi cytuno i gymryd rhan yn yr ymchwil wedi llenwi arolwg a byddant yn llenwi arolwg arall ar ôl y ras. Byddant hefyd yn darparu swab o’u poer cyn ac ar ôl y ras, ond ni fyddant yn gwneud unrhyw beth i amharu ar eu perfformiad ar y diwrnod. Bydd y rhai sydd yn cymryd rhan hefyd yn gallu manteisio ar ganllawiau arbennig ac fe gânt wneud cais cynnar i redeg yn y marathon y flwyddyn nesaf - fel diolch am gymryd rhan.

Dywedodd  Jayne Lloyd, trefnydd y digwyddiad:

“Gan mai marathonau a ffurfiau eraill ar ffitrwydd eithafol sy’n mynd â’n bryd, mae gennym ddiddordeb yn sut y gall ein cystadleuwyr wella eu perfformiad ac edrych ar ôl eu hiechyd wrth hyfforddi ac ar ôl cymryd rhan mewn digwyddiad dygnwch, fel marathon neu ddigwyddiad pellter hir. Dyna pam ein bod yn falch o’r cyfle i  estyn cymorth i’r ymchwil  cyffrous hwn,”

Gall cael gwell dealltwriaeth o’r systemau sydd ar waith yma arwain at oblygiadau ehangach o ran gofal iechyd.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2017