Camau i wella cyfraddau goroesi canser yng Nghymru

Gallai canfyddiadau astudiaeth fanwl newydd ar ganser ddangos ffyrdd o wella cyfraddau goroesi canser yng Nghymru. 

Canlyniadau'r astudiaeth ddiweddaraf gan y Bartneriaeth Meincnodi Canser Rhyngwladol (ICBP), a ddatgelwyd heddiw yng nghyfnodolyn y BMJ Open, yw'r cyntaf i ddangos bod cydberthynas rhwng parodrwydd meddygon teulu i gynnal archwiliadau'n ymwneud â chanser - naill ai'n uniongyrchol neu drwy gyfeirio'r claf at ofal eilaidd - a goroesi canser. Mae’r astudiaeth yn dangos hefyd fod meddygon teulu ym Mhrydain ac yng Nghymru, mewn arolwg ar lein yn defnyddio enghreifftiau o achosion clinigol, yn llai tebygol o gyfeirio neu archwilio cleifion â symptomau canser posibl pan fyddant yn dod atynt gyntaf, o'u cymharu â'r gwledydd eraill lle cynhaliwyd yr astudiaeth: Awstralia, Canada, Denmarc, Norwy a Sweden. 

Cydnabyddir bod Prydain yn llusgo ar ôl gwledydd eraill yn y 'tablau' canser, ond nid yw'r rhesymau dros hynny mor amlwg. Ar ôl awgrymu bod cydberthynas rhwng parodrwydd meddyg teulu i archwilio symptomau yn ystod ymweliad cyntaf a chyfraddau goroesi canser, nid yw'r astudiaeth (ICBP Modiwl 3) yn canfod unrhyw ffactorau pendant sydd i gyfrif am y gwahaniaethau mewn cyfraddau cyfeirio neu archwilio. Gallai gwahaniaethau diwylliannol neu athronyddol egluro pam mae meddygon teulu ym Mhrydain yn fwy tebygol o ddisgwyl hyd nes iddynt weld y claf am yr ail neu’r drydedd waith cyn cyfeirio’r claf neu gynnal profion o'u cymharu â'u cydweithwyr mewn gwledydd eraill. Mae parodrwydd i gyfeirio neu archwilio yn un o nifer o ffactorau sy'n wahanol rhwng gwledydd â gwahanol gyfraddau goroesi canser. 

Bydd meddyg teulu arferol yn gweld cannoedd, os nad miloedd, o gleifion gyda symptomau canser posibl bob blwyddyn- eto bydd llai nag wyth o'r cleifion hyn yn dioddef o ganser. Y dasg yw adnabod y cleifion cywir i'w cyfeirio. Mae canllawiau diweddar ar gyfeirio wedi helpu pobl â symptomau cyfarwydd i gael eu gweld yn gynt ond, yn achos symptomau mwy anghyfarwydd, nid yw'r penderfyniad i gyfeirio yn un hawdd. Mewn gwirionedd, mae yna ychydig iawn o symptomau na allent fod yn symptomau posibl o ryw fath neu’i gilydd o ganser. Un eglurhad posibl, felly, yw bod meddygon teulu ym Mhrydain yn gweithredu fel 'ceidwaid y porth' fel petai - sef eu bod yn gwneud yn siŵr bod y GIG yn rhoi gwerth am arian a hefyd yn peidio â rhoi baich y risgiau a'r pryder sy'n gysylltiedig â phrofion diangen ar unigolion sydd o bosib yn iach. 

Meddai'r Athro Richard Neal o Brifysgol Bangor a arweiniodd yr astudiaeth yng Nghymru: "Mae canfyddiadau'r astudiaeth hon yn eithriadol ddefnyddiol yn ein hymdrechion parhaus i roi diagnosis cynharach o ganser yng Nghymru. Yn fy marn i, os gallwn ganfod ffyrdd o gael meddygon teulu i gyfeirio neu archwilio cleifion â symptomau canser posibl dim ond ychydig bach yn gynt, bod hyn yn debygol o wella siawns ein cleifion o oroesi. Mae'r canfyddiadau'n dangos ei bod yn anoddach i feddygon teulu ym Mhrydain ofyn am archwiliadau diagnostig nag mewn rhai gwledydd eraill, bod disgwyl hir am brofion a'u canlyniadau, a’i bod yn anoddach i feddygon teulu fynd at arbenigwyr am gyngor ynghylch archwiliadau a chyfeiriadau. Mae'r rhain i gyd yn feysydd y gellir eu gwella. Serch hynny, rhaid i ni fod yn glir bod y canfyddiadau hyn yn rhai dechreuol, ac nid ydym yn gwybod a ellir eu trosi’n ymarfer clinigol neu a fyddant yn cael eu dyblygu mewn astudiaethau eraill." 

Ychwanegodd Dr Ian Lewis, Cyfarwyddwr Ymchwil Elusen Gofal Canser Tenovus: "Mae cyfraddau goroesi canser yng Nghymru a Phrydain yn dal i lusgo ar ôl llawer o wledydd eraill yn Ewrop ac o amgylch y byd, ac rydym yn gwybod bod diagnosis hwyr yn ffactor pwysig yn y gwahaniaeth hwn. 

"Yn achos y mwyafrif o gleifion canser maent yn galw i weld eu meddyg teulu pan fyddant yn cael symptomau gyntaf, ac felly mae hwn yn gam allweddol o ran canfod canser yn ddigon buan i’w drin yn llwyddiannus. 

"Rydym yn falch o fod wedi cael cefnogi'r ymchwil hynod bwysig yma sy'n dangos yn glir y meysydd y mae angen eu gwella os ydym am wella cyfraddau goroesi canser yma yng Nghymru." 

Un ateb efallai yw newid y ffordd y mae meddygon teulu'n gweithredu a chael eu hyfforddi er mwyn annog mwy o brofi, i gynyddu cyfraddau diagnosis cynharach. 

Mae astudiaeth o'r canlyniadau hefyd yn dangos lle gellid gwneud newidiadau bychain i'r system, a allai gyflymu'r broses o ganfod canser. Er enghraifft, rhaid disgwyl dros wythnos a hanner ar gyfartaledd am ganlyniadau profion endosgopi gastroberfeddol; felly gallai anfon canlyniadau’n gynt at y meddyg teulu leihau'r amseroedd diagnostig drwodd a thro. Byddai hwyluso'r ffordd i feddygon teulu godi'r ffôn a ffonio arbenigwr am gyngor neu sylwadau hefyd yn help i adnabod achosion posibl yn gynt. Yn ogystal â chanlyniadau gwael o ran amseroedd disgwyl am brofion a chanlyniadau profion, mae Cymru, ynghyd â gwledydd eraill Prydain, hefyd yn sgorio'n wael o ran cynnal archwiliadau'n ddiymdroi. 

Mae atal canser a gwneud diagnosis cynnar wedi bod yn Flaenoriaeth Glinigol Genedlaethol ar gyfer Meddygon Teulu yng Nghymru ers mis Ebrill 2014. I gyflawni hyn bydd timau o feddygon teulu yn adolygu achosion o ganser yr ysgyfaint a chanser y stumog a'r perfedd gan nodi cyfleoedd i wella gwasanaethau. Mae'r dadansoddiad ICBP yn darparu deunydd dysgu gwerthfawr i lywio'r gwaith hwn. 

Cyllidwyd yr ymchwil yng Nghymru gan Rwydwaith Canser De Cymru; Gofal Canser Tenovus a Llywodraeth Cymru. 

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2015