Chwarae rhan o bwys yng Ngwarchodfa Fôr fwyaf y byd

Mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan bwysig wrth reoli Gwarchodfa Fôr fwyaf y byd.

Mae dyfroedd glân a phur a riffiau cwrel Gwarchodfa Fôr Chagos ymysg y rhai mwyaf iach ar y ddaear. Ceir hyd iddi yn nyfroedd tiriogaethol tramor Prydain, yn amgylchynu cadwyn Ynysoedd Chagos, yng Nghefnfor India. Mae’n cwmpasu rhan o fôr gymaint â Ffrainc o ran arwynebedd, sydd, yn eu tro, yn cynnal cyfoeth o fywyd y môr.

Er nad oes neb wedi byw yno er bron i 60 o flynyddoedd, dim ond ers pum mlynedd mae’r warchodfa mewn bodolaeth. Er hyn, mae eisoes wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol fel  esiampl o gadwraeth forol. Mae’r warchodfa’n cynnwys oddeutu 60,000 cm2 o feisfor, traethellau ac atolau cwrel, mae yno hefyd ‘wastadedd’ cefnforol dwfn gydag 86 morfynydd sy’n codi dros 1000m o wely’r môr. Mae’r ardal yn cynnwys poblogaethau sylweddol o rywogaethau mewn perygl gan gynnwys siarcod, crwbanod môr ac adar môr.

Mae Dr John Turner wedi bod yn cyd-arwain project ymchwil gwerthfawr gan y DU sy’n rhoi gwybodaeth i Lywodraeth y DU, a chyrff eraill, i gynorthwyo gyda rheoli Gwarchodfa Fôr fwyaf y byd.

Mae Dr John Turner o Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol yn cydweithio gyda Phrifysgol Warwick, a’r Zoological Society of London, gyda chymorth tîm rhyngwladol o wyddonwyr o’r UDA, Awstralia ac Affrica. Mae ganddo dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad mewn archwilio ac asesu iechyd systemau cwrel a’r bywyd a gefnogir ganddynt, o algâu'r môr, sy’n byw yn y cwrel, hyd at yr ysglyfaethwyr pegynol sy’n ymweld â’r riffiau.

Yn ystod eu teithiau ymchwil i’r ardal anghysbell hon, mae’r tîm yn cael cyfle prin i asesu ecosystem sy’n gweithredu’n naturiol yn absenoldeb unrhyw ddylanwad dynol, er mwyn deall pa mor gadarn y mae ecosystemau’n gallu ymateb i newid hinsawdd, fel cynhesu’r cefnfor, codiad yn lefel môr ac erydiad yr arfordir.

Mae Dr Turner yn esbonio bod y Warchodfa Fôr yn gweithredu fel safle cyfeirio byd-eang:

“Mae’n darparu meincnod er mwyn adfer ecosystemau mewn mannau eraill sydd wedi eu niweidio,” meddai. “Mae’n gweithredu hefyd fel hafan i rywogaethau sy’n ail-hadu rhannau o’r cefnfor sydd wedi dirywio - rhannau y mae miliynau o bobl yn dibynnu arnynt am eu bywoliaeth.”

“Rydym wedi cynnal tair alldaith dros y tair blynedd diwethaf, ac eraill llai aml yn y blynyddoedd cynt. Mae ein tîm yn arolygu tanfor, sy’n cymryd hyd at flwyddyn i’w cynllunio, gan fod rhaid bod yn hollol hunangynhaliol, gan weithredu oddi ar long patrôl y diriogaeth. Gall wedyn gymryd hyd at flwyddyn i gynhyrchu’r adroddiadau o’r data a gasglwyd.”

“Wrth nesáu at atol, y peth cyntaf i chi sylwi arnynt yw’r adar, fel y daw mulfrain gwynion (boobies), adar ffrigad a môr-wenoliaid o’r ynysoedd i archwilio’r llong. Gyda’r systemau cwrel mwyaf cyflawn yng Nghefnfor India a rhai o’r riffiau gorau yn y byd yno, wrth roi fy mhen o dan y dŵr rwy’n dal i ryfeddu at gyfoeth y bywyd sy’n cael ei gynnal gan riff iach, lle nad oes pysgota. Ceir crancod, sy’n cyd-fyw efo’r cwrel, a grwperiaid a physgod glanhau sy’n cyd-fyw gyda hwy, a berdys.

“Ychydig rai sy’n cael y cyfle i weld riff cwrel sy’n gweithredu’n dda. Yr hyn mae llawer yn ei weld yw cynefinoedd sy’n cael eu gorddefnyddio ac sydd wedi dirywio o ganlyniad. Mae hyn yn debyg i astudio tirlun sydd wedi ei ddatgoedwigo yn hytrach na’r goedwig ei hun! Yr hyn a welwn yw bod gan riffiau digyffro'r gallu i adfer o ddigwyddiadau fel cannu cwrel sy’n cael eu hachosi gan gynnydd yn nhymheredd y dŵr. Er enghraifft, effeithiwyd yr un fath ar riffiau cwrel yn Chagos ac yn y Seychelles ond tra bod riffiau Chagos wedi adfywio erbyn 2012, nid yw riffiau’r Seychelles wedi adfer yn llawn.”

Bu’r tîm hefyd yn gweithio gyda chymunedau o ynysoedd y Chagos sy’n awr yn byw yn y DU a Mauritius er mwyn eu cynnwys yn y gwaith cadwraeth, a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwarchodfeydd môr mawr i ddiogelu cyfoeth y cefnforoedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Cyllidwyd yr ymchwil, sydd, hyd yn hyn, wedi canolbwyntio ar y basddwr, gan fenter Darwin Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Cefn Gwlad llywodraeth Prydain, ac fe ddarparodd wybodaeth er mwyn rheoli gwarchodfa 'cymerwch ddim’ mwyaf y byd. Tra bod y project o bwys yma wedi dod i ben, mae’r tîm yn disgwyl i glywed am lwyddiant cais mawr arall er mwyn parhau gyda’u harolygon a'u hymestyn i gynnwys monitro dyfroedd dyfnion y Cefnfor.

Enillodd Dr Turner wobr y Brifysgol am Effaith Orau ar Bolisi Cyhoeddus a/neu Wasanaethau Cyhoeddus a noddwyd gan Gyfrif Cyflymu Effaith ESRC yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2015