Diwedd llwyddiannus i Broject Adnoddau Pysgodfeydd Cynaliadwy

Hannah Finch-Saunders a Robyn Cloake (cynorthwywyr ymchwil) gyda cimwch (Homarus gammarus) yn ystod y prosiect.Hannah Finch-Saunders a Robyn Cloake (cynorthwywyr ymchwil) gyda cimwch (Homarus gammarus) yn ystod y prosiect.Daeth project casglu data dros dair blynedd i helpu pysgotwyr Cymru i weithio'n gynaliadwy i ben gyda chyflwyniad ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.

Ariannwyd y project £2 miliwn Defnyddio Adnoddau Pysgodfeydd yn Gynaliadwy yn Nyfroedd Cymru gan Gronfa Pysgodfeydd Ewrop a Llywodraeth Cymru. Bu academyddion o Ysgol Gwyddorau'r Eigion y brifysgol yn gweithio'n agos gyda Chymdeithas Pysgotwyr Cymru a groesawodd yr astudiaeth a fydd yn helpu i addasu'r diwydiant pysgota at y dyfodol.

Meddai Jim Evans, Cadeirydd Cymdeithas Pysgotwyr Cymru: "Yn sylfaenol, mae'r cydweithio rhwng pysgotwyr a gwyddonwyr yng Nghymru a ddatblygodd yn ystod y project hwn, wedi cynhyrchu tystiolaeth wyddonol werthfawr am amrywiaeth o rywogaethau sy'n bwysig i bysgotwyr Cymru. Bydd hefyd yn gadael etifeddiaeth a fydd yn galluogi pysgotwyr a rheolwyr pysgodfeydd i gynnal a chadw'r sail dystiolaeth sy'n darparu dimensiwn rhanbarthol cryf i hysbysu'r penderfyniadau a wneir yn y dyfodol ar lefel Cymru a'r Undeb Ewropeaidd. Hoffwn ddiolch i'r holl bysgotwyr a Chymdeithasau'r Pysgotwyr am eu cyfraniad hanfodol i'r project hwn a diolch yn fawr hefyd wrth gwrs i'r Tîm Cadwraeth Pysgodfeydd a'r Gwyddorau ym Mhrifysgol Bangor."

Trwy raglen o gasglu tystiolaeth wyddonol a chydweithio rhwng academyddion, y diwydiant a chyrff a noddir gan y llywodraeth, gwneuthurwyr polisi a rheolwyr, bydd y data a gesglir yn sail wybodaeth i benderfyniadau rheoli er mwyn gweithio tuag at ddyfodol gwirioneddol gynaliadwy i bysgodfeydd Cymru.

Meddai'r Athro Michel Kaiser o Ysgol Gwyddorau'r Eigion: "Ar ddechrau'r project, nid oedd gennym lawer o wybodaeth am y rhywogaethau pwysicaf a ddelir gan bysgotwyr Cymru. Trwy weithio'n agos gyda'r diwydiant pysgota rydym wedi gallu darparu gwybodaeth hanfodol bwysig a fydd yn sail i reoli priodol."

Daw'r project i ben ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru wedi gorfod ymgynghori â'r Comisiwn Ewropeaidd ynglŷn â chynigion y Comisiwn i gynyddu isafswm maint glanio draenogod y môr i 42 cm mewn hyd.

Eglurodd yr Athro Kaiser: "Un peth allweddol a ddatgelwyd gan ein project yw'r caledi economaidd uniongyrchol a fyddai'n wynebu pysgotwyr masnachol yng Nghymru pe bai'r mesur hwn yn cael ei gyflwyno ar unwaith. Mae hefyd yn ymddangos bod draenogod y môr yn aeddfedu i faint llai yng Nghymru nag mewn lleoedd eraill ac mae mwy o bysgod benyw yn y gogledd ond maent yn llawer mwy cyfartal yn y de. Felly mae'n rhaid ystyried yr holl ffactorau hyn wrth reoli."

Mae’r project wedi cynyddu'n fawr ein dealltwriaeth am bysgodfeydd cregyn moch, cimychiaid, crancod, gorgimychiaid a chregyn bylchog. Yn benodol, mae'n ymddangos bod y boblogaeth cregyn bylchog ym Mae Ceredigion yn hunan-gynaliadwy i raddau helaeth ac efallai bod angen rheolaeth sy'n canolbwyntio mwy ar yr ardal leol.

Dywedodd yr Athro Kaiser: "Ni fyddem wedi gallu cyflawni'r hyn a gyflawnwyd hyd yma heb gymorth y diwydiant pysgota a aeth â'n gwyddonwyr allan i'r môr a'u helpu i ddeall sut mae'r pysgodfeydd yn gweithio."

Yn ogystal â gweithio'n agos â'r diwydiant pysgota mae'r project hwn wedi cydweithio gyda Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, CEFAS a gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Mehefin 2015