Enwebiadau ar gyfer Medal Brethynwyr 2017/18
Mae’r Pwyllgor Gwobrau’r Senedd yn gofyn am enwebiadau ar gyfer y Medal Brethynwyr 2018.
Bob blwyddyn academaidd bydd Cwmni’r Brethynwyr yn garedig yn rhoi dwy fedal i’w rhoi i fyfyrwyr ymchwil nodedig. Bydd un fedal mewn arian a’r llall mewn efydd. Bydd arfbais y Brethynwyr ac enw’r sawl fydd yn ennill y fedal arnynt, ynghyd â’r geiriau canlynol – “Am gyfraniad ôl-radd nodedig.”
Rhoddir y ddwy fedal i fyfyrwyr ôl-radd ymchwil sydd yn ei trydydd flwyddyn neu yn y flwyddyn ysgrifennu i fyny, sydd wedi gwneud cyfraniad academaidd, diwylliannol neu gymdeithasol nodedig i'r Brifysgol. Gall cyfraniad o’r fath fod yn rhagoriaeth mewn ysgolheictod, dylanwad ymchwil, cefnogaeth fugeiliol a mentora, cymorth gyda recriwtio, cynorthwyo’r Brifysgol i gynyddu ei henw da neu gael cyhoeddusrwydd rhagorol i ni.
Gellir gwneud enwebiadau ar y ffurflen ynghlwm gan unrhyw aelod o’r staff academaidd neu wasanaethau, Undeb y Myfyrwyr, neu rywun allanol sy’n gweithio’n agos â’r Brifysgol.
Dylid anfon pob enwebiad at Karen Chidley (aos021@bangor.ac.uk) yn y Gofrestrfa Academaidd erbyn 24 Ionawr 2018.
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2017