Gall dirywiad mewn niferoedd llysysyddion mawr arwain at “dirwedd wag,” meddai gwyddonwyr

Tarw byfflo wedi ymdrybaeddiad new mwd.: Llun: Gina HaywardTarw byfflo wedi ymdrybaeddiad new mwd.: Llun: Gina HaywardMae dirywiad mewn niferoedd llysysyddion mawr y byd, yn arbennig yn Affrica a rhannau o Asia, yn arwain at bryder o 'dirwedd wag' mewn rhai o'r ecosystemau mwyaf amrywiol ar y blaned. Mae llawer o boblogaethau o anifeiliaid fel rhinoserosiaid, sebras, camelod, eliffantod a thapiriaid yn gostwng neu mae perygl iddynt ddiflannu'n gyfan gwbl mewn tiroedd glaswellt, safanau, diffeithdir a choedwigoedd, meddai gwyddonwyr.

Yn ddiweddar, bu i dîm rhyngwladol o ecolegwyr bywyd gwyllt a arweiniwyd gan William Ripple, Prifysgol Talaith Oregon, gyda rhai o Brifysgol Bangor, gynnal dadansoddiad cynhwysfawr o ddata ar lysysyddion mwyaf y byd (dros 100 cilogram, neu 220 pwys, ar gyfartaledd), yn cynnwys statws mewn perygl, bygythiadau allweddol a chanlyniadau ecolegol dirywiad poblogaethau. Bu iddynt gyhoeddi eu harsylwadau heddiw yn Science Advances, cyfnodolyn ar-lein mynediad agored cylchgrawn Science magazine.

Bu i'r awduron ganolbwyntio ar 74 o rywogaethau llysysyddion mawr - anifeiliaid sy'n byw ar lystyfiant — a daethant i'r casgliad y bydd llysysyddion mawr (a llawer o rai llai) yn parhau i ddiflannu o nifer o ranbarthau gyda chostau ecolegol, cymdeithasol, ac economaidd enfawr, os na cheir ymyrraeth radical.”

Dechreuodd Ripple yr astudiaeth ar ôl cynnal dadansoddiad byd-eang o ddirywiad mewn nifer anifeiliaid cigysol mawr, sy'n mynd law yn llaw, meddai, gyda cholli eu hysglyfaethau sy'n llysysyddion. “Roeddwn i'n disgwyl mai newid mewn cynefin fyddai'r prif ffactor fyddai'n peryglu niferoedd llysysyddion mawr,” meddai. “Ond yn rhyfeddol, mae’r canlyniadau’n dangos mai'r ddau brif ffactor mewn dirywiad llysysyddion yw pobl yn eu hela a newid mewn cynefin.”

Mae'r gwyddonwyr yn cyfeirio at ddirywiad anifeiliaid mewn coedwigoedd trofannol a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn BioScience yn 1992. Bu i'r awdur, Kent H. Redford, a oedd yn ymchwilydd ôl-ddoethurol ar y pryd ym Mhrifysgol Florida, ddefnyddio'r term 'coedwig wag' am y tro cyntaf. Tra bo coed uchel a llystyfiant arall yn bodoli o bosib, ysgrifennodd, mae colli ffawna coedwig yn fygythiad tymor hir i'r ecosystemau hynny. ⁠

Eliffant: Llun: Gina HaywardEliffant: Llun: Gina HaywardAeth Ripple a'i gydweithwyr gam ymhellach. “Mae ein dadansoddiad yn dangos ei fod yn mynd ymhell y tu hwnt i dirweddau coedwigoedd,” meddai, "i safanau a thiroedd glaswellt a diffeithdir. Felly rydym ni'n bathu term newydd, y dirwedd wag.” Fel grŵp, mae llysysyddion y ddaear yn cwmpasu tua 4,000 o rywogaethau hysbys ac yn byw mewn llawer o fathau o ecosystemau ar bob cyfandir ac eithrio'r Antarctig.

Mae'r niferoedd uchaf o lysysyddion mawr dan fygythiad yn byw mewn gwledydd datblygedig, yn arbennig de ddwyrain Asia, India ac Affrica, meddai'r gwyddonwyr. Dim ond un llysysydd mawr dan fygythiad sy'n byw yn Ewrop (ych gwyllt Ewrop), ac nid oes yr un yng ngogledd America, sydd, ychwanega'r awduron, “eisoes wedi colli'r rhan fwyaf o'i mamaliaid mawr” drwy hela cynhanesyddol a newidiadau mewn cynefin. Mae'r cyd-awdur, Dr Matt Hayward o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor, a nododd fygythiadau i lysysyddion mawr ac a roddodd enghreifftiau o rywogaethau yr effeithiwyd arnynt, yn egluro: “Mae 25 o'r llysysyddion gwyllt mwyaf yn meddiannu cyfartaledd o ddim ond 19 y cant o'u hamrediadau hanesyddol. Mae cystadleuaeth o gynhyrchu da byw, sydd wedi treblu'n fyd-eang er 1980, wedi gostwng mynediad llysysyddion at dir, porthiant a dŵr, ac wedi cynyddu peryglon trosglwyddo afiechydon.”

Ychwanega fod: “y DU ar hyn o bryd yn dirwedd wag bron ar gyfer mamaliaid mawr, ond hyn oedd yr achos bob amser. Heddiw, mae cynlluniau i wella'r sefyllfa hon drwy ailgyflwyno afanc Ewrasia, bele'r coed (pine marten), lyncs Ewrasia a'r blaidd, naill ai'n bwriadu cael ei wneud neu'n digwydd ar hyn o bryd. Mae'r cyfryw gamau yn dangos ymroddiad y DU i warchod ei threftadaeth naturiol i wledydd datblygedig sy'n wynebu baich mwy o ryngweithiadau costus gyda mamaliaid mawr heb y cyfoeth i ymdopi cystal.”

Yn y cyfamser, mae hela llysysyddion yn digwydd am ddau brif bwrpas, noda'r awduron: bwyta cig a'r fasnach fyd-eang mewn rhannau anifeiliaid. Amcangyfrifir bod tua biliwn o bobl yn byw ar gig gwyllt, ysgrifennant. Ychwanegodd Dr Matt Hayward: “Gall y farchnad ar gyfer deunyddiau meddyginiaethol fod yn gryf iawn ar gyfer rhai rhannau o'r corff, fel corn rhino. Mae corn yn gwerthu am fwy yn ôl pwysau nac aur, diemwntau neu gocên.” Yn 2011, cyhoeddwyd bod rhinoseros du gorllewinol Affrica wedi dod i ben.

“Mae achosion dirywiad rhai llysysyddion mawr yn anodd eu gwella mewn byd gyda nifer cynyddol o bobl a phobl yn bwyta mwy,” meddai'r cyd-awdur Taal Levi, athro cynorthwyol yn Adran Pysgodfeydd a Bywyd Gwyllt Prifysgol Talaith Oregon. “Ond y mae y tu hwnt i amgyffred rhywun ein bod yn caniatáu i'r galw am gyrn ac ysgithrau arwain at ddileu llysysyddion mawr o gynefin sy'n addas fel arall. Mae angen inni ddwysau'r gostyngiad mewn galw am y cyfryw eitemau."

Mae colli llysysyddion mawr yn awgrymu y bydd rhannau eraill o ecosystemau gwyllt yn lleihau, ysgrifenna'r awduron. Mae'r canlyniadau tebygol yn cynnwys: gostyngiad mewn bwyd i anifeiliaid cigysol mawr fel llewod a theigrod; gostyngiad mewn hadau a wasgerir ar gyfer planhigion; tannau gwyllt mwy rheolaidd a ffyrnig; cylchu maetholion yn arafach o lystyfiant i'r pridd; newidiadau mewn cynefin i anifeiliaid llai yn cynnwys pysgod, adar ac amffibiaid.

“Gobeithiwn y bydd yr adroddiad hwn yn cynyddu gwerthfawrogiad am bwysigrwydd lysysyddion mawr yn yr ecosystemau hyn,” meddai Ripple. “A gobeithiwn y bydd gwneuthurwyr polisi yn cymryd camau i warchod y rhywogaethau hyn.”

Er mwyn deall canlyniadau dirywiad mewn niferoedd llysysyddion mawr, mae'r awduron yn galw am ymdrech ymchwil fwy cydlynol sy'n canolbwyntio ar rywogaethau dan fygythiad mewn gwledydd datblygedig. Yn ogystal, mae angen i atebion i'r gostyngiad mewn niferoedd llysysyddion mawr gynnwys pobl leol. “Mae'n hanfodol bod pobl leol yn cael eu cynnwys ac yn manteisio o reoli ardaloedd gwarchodedig,” ysgrifennant. “Mae rhan y gymuned leol wrth reoli ardaloedd gwarchodedig yn cydberthyn llawer i gydymffurfio â pholisïau ardaloedd gwarchodedig.”

Yn ogystal â Ripple a Levi, mae'r cyd-awduron yn cynnwys Christopher Wolf a Luke Painter o Brifysgol Talaith Oregon; Rodolfo Dirzo o Brifysgol Stanford; Thomas M. Newsome o Brifysgol Sydney yn Awstralia; Kristoffer T. Everatt a Graham I.H. Kerley o Brifysgol Nelson Mandela yn Ne Affrica; Mauro Galetti o'r Universisade Estadual Paulista ym Mrasil; Matt W. Hayward o Brifysgol Nelson Mandela a Phrifysgol Bangor yn y Deyrnas Unedig; Peter A. Lindsey o Panthera (sefydliad nid er elw) a Phrifysgol Pretoria yn Ne Affrica; David W. MacDonald, Yadvinder Malhi a Christopher J. Sandom o Brifysgol Rhydychen yn y Deyrnas Unedig; John Terborgh o Brifysgol Duke; Blaire Van Valkenburgh o UCLA.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2015