Grŵp o Brifysgol Bangor yn dychwelyd o Fynyddoedd Himalaia

Y tîm yn yr Himalaya.Y tîm yn yr Himalaya.Mae academyddion o Brifysgol Bangor wedi dychwelyd yn ddiweddar o daith i Fynyddoedd Himalaia fel rhan o broject ymchwil i salwch cysylltiedig ag uchder.

Roedd yr ymchwilwyr Dr Samuel Oliver a Dr Jamie Macdonald, myfyriwr PhD Gabriella Rossetti a myfyriwr israddedig Gwyddor Chwaraeon,  James Pollard  - i gyd o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor  - yn rhan o dîm o 55 aelod yn cynnwys meddygon, gwyddonwyr ac achubwyr mynydd, a gymerodd ran yn y daith pum wythnos.

Roedd y daith, a drefnwyd gan Medical Expeditions (MEDEX), yn dilyn llwybr at y mynydd 8000metr Manaslu, a chyrraedd y gwersyll ar uchder o 5000 metr lle gosodwyd labordai solar gan y tîm i wneud eu hymchwil. 

Roedd y tywydd gaeafol eithafol yn golygu bod yr amodau'n heriol iawn ar adegau, ond llwyddodd y tîm i gwblhau ymchwil meddygol gyda'r nod o wella iechyd a pherfformiad pobl sy'n mynd i amgylcheddau o uchder uchel.

Meddai'r darlithydd ffisioleg Dr Samuel Oliver, sy'n rhan o'r Grŵp Ymchwil Eithafion o fewn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, "Y rheswm yr aethom ar y daith hon oedd gwneud ymchwil a fydd yn ein galluogi  i addysgu mynyddwyr, cerddwyr a'u meddygon am natur salwch pen mynydd a sut i'w osgoi."

"Roedd y tywydd, gyda llawer o eira dwfn a glaw trwm, yn her arbennig ar y daith hon. Ond mae'n rhaid cynnal ymchwil mewn amgylchedd o'r fath er mwyn i ni ddeall sut beth ydyw mewn gwirionedd. Nid yw'n bosib astudio pobl ar uchder uchel dros nifer o ddiwrnodau mewn labordy, felly mynd ar daith fel hon yw'r ffordd orau o astudio ffisioleg a seicoleg ar uchder uchel.”

Mae gwaith tîm ymchwil Prifysgol Bangor yn parhau yn awr yn ôl yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer lle bydd myfyrwyr yn helpu gyda'r gwaith o goladu a dadansoddi data a gasglwyd dros yr wythnosau. Maent yn gobeithio lledaenu a chyhoeddi canfyddiadau eu hymchwil maes o law, gyda'r nod hefyd o sicrhau bod yr wybodaeth ar gael i gerddwyr a dringwyr.

"Mae'n llawer mwy na dim ond disgrifio data a chyhoeddi'r canfyddiadau'n wyddonol," meddai Dr Jamie Macdonald, uwch ddarlithydd mewn Ffisioleg Ymarfer. "Rydym hefyd eisiau cyhoeddi'r canfyddiadau ar ffurf sy’n ddealladwy i bawb, fel y gall cerddwyr fynd i'n gwefan i gael gwybodaeth y gallant ei defnyddio a'i chymhwyso i'w gweithgareddau eu hunain pan fyddant yn mynd i uchderau uchel."

Yn dilyn y daeargryn enfawr yn Nepal ar 25 Ebrill, pan laddwyd dros 8,000 o bobl, mae unrhyw gynlluniau i wneud rhagor o ymchwil  wedi'u gohirio am y tro. Roedd tîm ymchwil Prifysgol Bangor wedi'u syfrdanu a'u tristau gan faint y trasiedi a'r dinistr a achoswyd gan y daeargryn oedd yn mesur 7.8. Roedd un aelod o'r grŵp, James Pollard, myfyriwr israddedig 21 oed, yn dyst i'r digwyddiad  gweler isod).

Ond mae holl aelodau'r tîm ymchwil yn bendant eu bod am ddychwelyd rhyw bryd, a chyfrannu at ailadeiladu'r wlad drwy'r gweithgareddau mynydda a cherdded sy'n brif ffynhonnell incwm i Nepal.

"Rydym yn bendant eisiau mynd yn ôl i Fynyddoedd Himalaia yn y dyfodol i fynd ati'n weithredol i gefnogi ailadeiladu Nepal. Twristiaeth yw prif ffynhonnell incwm y wlad felly bydd gallu dychwelyd i gwblhau'r ymchwil yn y dyfodol yn bwysig i ni a hefyd yn hanfodol i Nepal a'i phobl," meddai Dr Jamie Macdonald.

James PollardJames PollardYmysg y myfyrwyr a gymerodd ran oedd..

  • James Pollard 21 oed o Rydychen, a oedd yn dal yn Nepal pan darodd y daeargryn cryfder 7.8 ar 25 Ebrill. 

Mae'r myfyriwr ail flwyddyn sy'n astudio BSc Gwyddor Chwaraeon wastad wedi ymddiddori mewn ymchwil uchder, a gymerodd ran yn y profion gwaelodlin cyn mynd ar y daith yn labordai'r Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor. Ei swyddogaeth yn ystod y daith ei hun oedd helpu gyda'r ymchwil a gwneud yn siŵr bob popeth wedi ei osod yn iawn yn y gwersyll.

Yn flaenorol roedd James yn astudio yng Ngholeg Chweched Dosbarth D’Overbroekck yn Rhydychen cyn cwblhau HND Gwyddor Chwaraeon (cwrs hamdden awyr agored) a mynd ymlaen i'r cwrs BSc ym Mhrifysgol Bangor. Eglurodd pam ei fod mor awyddus i gymryd rhan:

"Roedd fy nhad ar y daith '94 a helpodd i sefydlu Medex, felly roeddwn i eisiau gwneud taith Medex ac wrth gwrs gallaf ddefnyddio'r ymchwil yn fy mhroject trydedd flwyddyn. Nid oes llawer o israddedigion yn cael cyfle i fynd ar daith fel hon felly rwy'n falch fy mod wedi cael mynd - roedd yn daith wych, o ran y bobl oedd yno a chael cyfle i dreulio pum wythnos yn cerdded. Roedd yn brofiad anhygoel, cael treulio amser yn yr amgylchedd hwnnw mor uchel i fyny yn y mynyddoedd."

Ond roedd y profiad o fod yn Nepal adeg y daeargryn gwaethaf erioed a gweld rhywfaint o'r dinistr a achosodd, yn gysgod dros ei gyfnod ym Mynyddoedd Himalaia. Roedd James ac eraill ar y daith mewn gwesty yn Kathmandu, yn paratoi i fynd i'r maes awyren i hedfan adre, pan darodd y daeargryn.

"Tarodd y daeargryn am 11.56am, tua thair awr cyn yr oeddwn i fod i fynd ar yr awyren," meddai James. "Roedd pawb wedi eu syfrdanu am gwpl o eiliadau ac yna gwaeddodd rheolwr y gwesty "daeargryn" a rhedodd pawb yn reddfol allan i'r stryd er mwyn mynd allan o'r adeilad rhag ofn iddo ddymchwel.

"Roedd yn ddychrynllyd iawn, nid ydych byth yn barod ar gyfer unrhyw beth fel yna, - roedd yn anodd cerdded heb sôn am redeg allan o'r adeilad, roedd y ddaear yn ysgwyd am tua 45 eiliad.  Roedd yn arswydus - pawb yn sgrechian ac roeddem yn gallu clywed waliau'n chwalu.

"Aethom tuag at gwrt pêl foli, y lle awyr agored mwyaf oedd gerllaw, ac roedd cannoedd o bobl wedi tyrru yno, i fod yn bell oddi wrth yr adeiladau."

Canslwyd pob awyren felly bu raid i James a'i gyfeillion dreulio noson arall yn y gwesty cyn cael eu symud gan staff y Llysgenhadaeth i wersyll Gurkha i aros am awyren allan o'r wlad. Yno welodd James y darllediadau newyddion am y tro cyntaf, a sylweddoli beth oedd maint y dinistr a achoswyd gan y daeargryn. 

"Nid oeddwn yn sylweddoli'n iawn tan hynny ei fod yn ddaeargryn mor fawr," meddai  "Roeddem yn clywed adeiladau'n chwalu a phawb mewn panig - roedd yn teimlo'n enfawr ond yn ffodus nid oedd unrhyw ddifrod mawr lle roeddem ni. Roedd ein gwesty yn iawn, llawer o ddwst ond roedd y gwesty yn dal ar ei draed ac yn dal i dderbyn ymwelwyr. Roeddem ar y ffordd i'r maes awyren cyn i ni weld gymaint  o ddinistr a achoswyd gan y daeargryn gyda chymaint o adeiladau a themlau wedi dymchwel."

Dywedodd ei fod yn teimlo'n drist iawn am bobl Nepal a'r hyn maent wedi ei ddioddef ac yn dal i'w ddioddef yn sgil y daeargryn. Ond mae James, fel aelodau eraill o dîm ymchwil Prifysgol Bangor, yn benderfynol o ddychwelyd yno ryw ddydd.

"Mae'r daeargryn wedi cael effaith ofnadwy ac wedi achosi'r fath dinistr. Ond mae'n amlwg y bydd Nepal angen pobl i fod yno gan fod y wlad yn dibynnu i raddau helaeth ar dwristiaeth. Bydd mynd yn ôl yn ffordd o helpu'r wlad i ailadeiladu ei hun ar ôl y daeargryn.

"Rwy’n mawr obeithio y gallaf fynd yn ôl ar daith ymchwil Medex yn y dyfodol, gan ei fod yn brofiad mor wych cael treulio amser ym Mynyddoedd Himalaia."

Straeon perthnasol:

Grŵp o Brifysgol Bangor i ymchwilio i salwch pen mynydd mewn taith i Fynyddoedd yr Himalaia 

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2015