Llygredd golau arfordirol

Ydych chi erioed wedi meddwl sut y gall llygredd golau yn ein trefi arfordirol effeithio efallai ar greaduriaid y môr? 

Mae'r Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mhrifysgol Bangor yn arwain project newydd pedair blynedd a gyllidir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a fydd yn gwella ein dealltwriaeth o'r ffordd mae llygredd golau o drefi a dinasoedd arfordirol yn effeithio ar fywyd ar hyd ein glannau.

Mae'r project Artificial Light Impacts on Coastal Ecosystems (ALICE) yn un o 14 sy'n derbyn cyfanswm o £24M gan NERC ym mhedwaredd rownd Highlight Topics, sy'n cyllido ymchwil newydd i faterion amgylcheddol o bwys. 

Mae ALICE yn cyfuno arbenigedd orau'r byd ym meysydd llygredd golau ecolegol, bioleg larfâu, ecoleg benthig môr, bioleg môr drofannol, a chefnforeg optegol o Brifysgol Bangor, Labordy Môr Plymouth, Prifysgol Southampton a Phrifysgol Strathclyde i fynd i'r afael â bylchau sylfaenol yn ein dealltwriaeth o ymatebion ecosystem arfordirol i oleuadau artiffisial yn y nos.

Bydd yr ymchwil bedair blynedd yn dadansoddi sut y gall llygredd golau newid ymddygiadau nifer o greaduriaid arfordirol, gan effeithio ar sut ac ymhle maent yn ymgartrefu, eu diet a'u hatgenhedlu, ymhlith pethau eraill. Bydd y wybodaeth a geir o efelychiadau labordy gyda lefelau golau gwahanol yn bwydo modelau a fydd yn dweud wrthym sut y bydd ein cynefinoedd arfordirol yn newid dros yr hanner canrif nesaf - hynny yw, os na wnawn ni ddim i gwtogi ein llygredd golau

Eglurodd Dr Thomas Davies, Prif Ymchwilydd project ALICE:

"Bellach gellir canfod golau artiffisial o drefi a dinasoedd arfordirol uwchben 22% o arfordiroedd y byd bob nos. Mae'r ardaloedd hyn yn debygol o dyfu hyd yn oed ymhellach, gan fod canolfannau poblogaeth arfordirol yn debygol o ddyblu erbyn 2060.

Gwyddom fod llawer o greaduriaid môr ger yr arfordir yn hynod o sensitif i oleuni, ac maent wedi ymaddasu fel bod cylchoedd golau'r lleuad yn effeithio ar wahanol agweddau ar eu bywydau.  Mae potensial mawr i olau artiffisial o'n dinasoedd arfordirol, porthladdoedd, harbwrs a marinas ymyrryd â chylchoedd golau naturiol, ac ymddygiad yr anifeiliaid môr hynny sy'n dibynnu ar eu canfod.

Gall goleuadau nos sy'n dod o borthladdoedd a harbwrs effeithio ar holl gyfnodau bywyd infertebratau môr.  Gall yr effeithiau uniongyrchol hyn ar ymddygiad rhai infertebratau arfordirol effeithio'n anuniongyrchol ar rywogaethau eraill mewn cadwyni bwyd arfordirol, gan newid strwythur ecosystem. Mae angen inni feithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o faint o olau artiffisial sydd ar hyd ein glannau, yr effeithiau mae hyn yn ei gael ar ecosystemau arfordirol, a sut y gallwn liniaru'r effeithiau hyn orau. "

Roedd Dr Davies yn allweddol o ran datblygu'r astudiaeth o effaith llygredd golau ar yr amgylchedd ehangach a dangosodd sut y gall llygredd golau effeithio ar gymunedau ecolegol ar dir ac yn y môr trwy newid ymddygiad anifeiliaid a rhyngweithio rhwng rhywogaethau. Wedi ei hyfforddi fel ecolegydd môr, mae Thomas wedi symud ffocws ei ymchwil i lygredd golau o laswelltir i ecosystemau môr.  Arloesodd gydag  ymchwil i effeithiau golau artiffisial ar infertebratau môr, ac erbyn hyn mae'n arwain project mawr cyntaf y Deyrnas Unedig sy'n ymchwilio i'r ffordd mae llygredd golau yn dylanwadu ar ecoleg ein harfordiroedd.

Mae cydweithwyr yn Ysgol Gwyddorau Naturiol y Brifysgol hefyd yn cyfrannu at ymchwil ar effaith microblastigau yn ein cefnforoedd. Mae dewis projectau i gynllun Highlight Topics NERC yn broses gystadleuol sy'n sicrhau y cyllidir ymchwil ragorol o'r safon uchaf i roi sylw i faterion gwyddonol hollbwysig.
MAe Dr Thomas Davies yn cyffrannu at ddysgu ar gyrsiau gradd ac ôl-radd Bioleg Môr, mae hefyd yn cydweithio gydag Awyr Tywyll Eryri ac Awyr Tywyll Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2018