Mae bio-nwy gwastraff o leiaf ddeng gwaith yn fwy effeithiol na bio-nwy cnydau am leihau allyriannau nwyon tŷ gwydr

Mewn papur sydd newydd ei ryddhau yn y cyfnodolyn bio-ynni blaenllaw, Global Change Biology Bioenergy, mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor a'r Thünen Institute yn Yr Almaen, yn dod i'r casgliad bod bio-nwy cnydau a bio-danwyddau hylif yn ddewisiadau aneffeithlon ar y gorau i leihau nwyon tŷ gwydr (GHG), fesul hectar o dir a ddefnyddir, ac am bob £ o gymhorthdal cyhoeddus sydd ei angen.   Ar eu gwaethaf, gallai'r dewisiadau hyn arwain at allyriadau nwyon tŷ gwydr uwch yn fyd-eang oherwydd y newid anuniongyrchol yn nefnydd y tir drwy gael gwared ar gynhyrchu bwyd. Mewn cymhariaeth, mae bio-nwy gwastraff a pheledi gwresogi Miscanthws (gwair prennaidd) yn lleihau nwyon tŷ gwydr o leiaf ddeng gwaith yn fwy am bob tunnell o bio-màs deunydd sych ac am bob hectar o dir a ddefnyddir, gan arwain at leihau nwyon tŷ gwydr yn gost-effeithiol. 

Mae tariff cyflenwi trydan (feed-in-tariffs = FiTs) bio-drydan yn annog y defnydd o gnydau i gynhyrchu bio-nwy mewn offer anaerobig ar raddfa fawr, tra bo targedau cyfuniadau biodanwydd gorfodol yn gyrru cynhyrchu biodanwyddau hylif oddi wrth gnydau bwyd. Mae pryder nad yw'r mesurau polisi hyn yn targedu'r dewisiadau bio-ynni mwyaf cynaliadwy i leihau dibyniaeth ar danwyddau ffosil sy'n llygru, a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n cyfrannu at newid mewn hinsawdd.

Bu i wyddonwyr o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth y Brifysgol a'r Thünen Institute yn Yr Almaen werthuso cydbwysedd amgylcheddol gwahanol ddewisiadau bio-ynni a gyflwynwyd i gylchdro ffermio âr nodweddiadol.  Bu iddynt ddefnyddio modelau fferm ac asesiad cylch bywyd canlyniadol i gymharu perfformiad amgylcheddol: (i) cynhyrchu trydan a gwres o beiriannau biomas ar y fferm sy'n cael eu bwydo gyda naill ai india-corn, gwair, gwrtaith moch neu wastraff bwyd; (ii) cynhyrchu bioethanol o wenith a biodiesel o rêp had olew; (iii) cynhyrchu gwres o beledi Miscanthws.  

Tra gall allyriadau nwyon tŷ gwydr o newid mewn defnydd tir anuniongyrchol fod yn fwy na'r gostyngiad mewn nwyon tŷ gwydr a geir drwy newid ynni ffosil am opsiynau biodanwydd bio-nwy cnydau a biodanwydd hylif, mae treuliad anaerobig gwrtaith a gwastraff bwyd yn osgoi allyriadau sy'n deillio o gadw gwrtaith a chompostio gwastraff bwyd, hyd yn oed cyn cyfrif am y gostyngiad mewn nwyon tŷ gwydr a geir drwy ddefnyddio bio-nwy yn lle ynni ffosil. Fodd bynnag, mae angen cymryd gofal i leihau allyriadau amonia wrth gadw “bio-wrtaith” gweddillion treuliad anaerobig a gynhyrchir ochr yn ochr â bio-nwy mewn peiriannau treulio anaerobig.  

Meddai Dr David Styles, a fu'n arwain yr ymchwil: “Tra bo angen cymorthdaliadau i wneud yn iawn am fethiant yn y farchnad, a datblygu ffynonellau ynni adnewyddol hanfodol bwysig, byddai'n ymddangos yn synhwyrol cysylltu'r cyfryw gymorthdaliadau gyda meini prawf cynaliadwyedd amgylcheddol i sicrhau eu bod yn cyfrannu'n effeithlon at les cyffredinol y cyhoedd. Mae ein canlyniadau'n amlygu pwysigrwydd defnyddio asesiad cylch bywyd i werthuso'n gynhwysfawr cynaliadwyedd amgylcheddol dewisiadau biodanwydd, gan ymdrin â meysydd problemus fel newid mewn defnydd tir anuniongyrchol yn gysylltiedig â dadleoli cnydau bwyd, effaith bio-methan yn gollwng ar yr hinsawdd, ac allyriadau amonia sy'n deillio o gadw a gwasgaru gweddillion treuliad anaerobig.”

Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2015