Mae bywyd allan yna: Manteision gweithgareddau awyr agored

Mae ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru’n dangos bod twristiaeth awyr agored yng Nghymru yn werth £481 miliwn. Mae gofyn i ddarparwyr gweithgareddau awyr agored, fel Surf-Lines, barhau i ddenu ymwelwyr a phobl leol.

Mae nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored yn rheolaidd wedi tyfu yn ystod y deg mlynedd ar hugain diwethaf, ac mae ymchwilwyr wedi adrodd bod manteision cymryd rhan yn cynnwys cynnydd mewn hunan-barch a deilliannau cadarnhaol eraill. Mewn geiriau eraill, mae cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored yn arwain at fanteision seicolegol sylweddol a pharhaol. Yn rhyfedd iawn, nid yw ymchwilwyr yn deall pam na sut mae’r manteision hyn yn digwydd.

Er enghraifft, pam a sut mae rhywun sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored yn cynyddu ei hunan-barch mewn bywyd bob dydd? Mae’r hen gwestiwn hwn wrth galon y gwaith ymchwil y mae gwyddonwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn edrych arno mewn partneriaeth â Surf-Lines.

Drwy ddeall beth ynghylch gweithgareddau awyr agored, sy’n effeithio ar les, gall yr ymchwilwyr helpu Surf-Lines i gynllunio rhaglenni er mwyn cael y dylanwad mwyaf.  A dweud y gwir yn blaen, bydd gan Surf-Lines fantais gystadleuol oherwydd bydd yn gallu dangos pa mor effeithiol yw ei raglenni.

Felly, beth yw hanes y gwaith ymchwil hyd yn hyn? Pan fydd rhywun yn cymryd rhan mewn gweithgaredd awyr agored lle mae rhywfaint o risg yn ymddangos, mae emosiynau’n dod i’r wyneb, ac mae’n rhaid i’r unigolion eu rheoli er mwyn cymryd rhan yn y gweithgaredd.  Mewn geiriau eraill, maen nhw’n gorfod delio gyda’u hemosiynau (ofn gan amlaf). Er mwyn cael ymdeimlad o reolaeth a dylanwad dros y sefyllfa a’u hemosiynau, mae unigolion yn dysgu ymdopi â sefyllfaoedd anodd yn fwy effeithiol yn gyffredinol. Mae’r gweithgaredd awyr agored yn dod yn wers am oes; yn wers mewn sut mae delio gyda sefyllfaoedd anodd.

Rydym wedi canfod bod cymryd rhan yn rheolaidd wedi rhoi mwy o ymdeimlad o reolaeth i unigolion dros eu bywyd a’u hemosiynau a oedd o fudd iddynt yn eu bywyd o ddydd i ddydd. Nid oedd chwaraeon eraill risg isel (e.e. tenis) yn arwain at yr un manteision.

Er bod y canfyddiadau hyn yn addawol, mae un cwestiwn pwysig ar ôl: A yw’n hanfodol bod y gweithgareddau hyn yn cael eu cynnal yn yr awyr agored, neu a ellid cael effeithiau tebyg o dan do? Mae’r astudiaeth derfynol yn ymchwilio i’r cwestiwn hwn, gan edrych ar nofio mewn dŵr agored.

Y syniad yw bod gofyn i bobl ymateb i amgylchedd sy’n newid drwy’r amser wrth nofio mewn dŵr agored (e.e. ceryntau, gwahanol ddyfnderoedd anhysbys, gwynt a thonnau, gwelededd gwael) ac nad yw hyn yn angenrheidiol wrth nofio mewn pwll dan do. Bydd yr angen hwn i ymdopi â straen dŵr agored yn caniatáu i bobl ddatblygu strategaethau ymdopi effeithiol ar gyfer bywyd bob dydd (e.e. sut ydw i’n ymdopi â newid yn fy amgylchiadau?).

O ganlyniad uniongyrchol i’r bartneriaeth hon rhwng Prifysgol Bangor a Surf-Lines, bydd Prifysgol Bangor yn sefydlu ei hun eto fel arweinydd byd-eang ar fanteision seicolegol gweithgareddau awyr agored a bydd Surf-Lines yn gallu marchnata honiadau sydd wedi’u dilysu’n wyddonol, sef bod gweithgareddau awyr agored yn darparu llwyfan dysgu effeithiol ar gyfer rhoi hwb i les yn barhaol.

Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS) yn Gymru gyfan sgiliau lefel uwch yn fenter a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru.  Fe'i cyllidir yn rhannol gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewropeaidd (ESF) cydgyfeirio ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd.

Cyflwynwyd gan Alexandra MacGregor, yr Athro Tim Woodman, Yr Athro Lew Hardy (Ysgol Gwyddorau Chwraraeon, Iechyd ac Ymarfer) a Phil Nelson (Surf-Lines).

Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2014