Ni all tyfu olew palmwydd ar gyfer biodanwyddau arbed ein hinsawdd

Dywed gwyddonwyr y gall tyfu olew palmwydd yn y trofannau i wneud biodanwyddau ‘gwyrdd’ gyflymu effeithiau newid hinsawdd.

Darganfu ymchwilwyr o Brifysgol Bangor bod creu planhigfeydd olew palmwydd yn rhyddhau ffynonellau cynhanesyddol o garbon deuocsid yn ôl i’r atmosffer.  

Mae’r darganfyddiadau’n bwrw amheuaeth ar obeithion y gallai biodanwyddau a dyfwyd yn y trofannau helpu i leihau gollyngiadau nwyon tŷ gwydr.

Gan weithio fel rhan o dîm rhyngwladol, bu’r gwyddonwyr o Ogledd Cymru’n edrych ar y ffordd y mae torri coed yng nghorsydd mawn Malaysia, i wneud lle i goed olew palmwydd, yn rhyddhau carbon sydd wedi cael ei gau i mewn yn y ddaear ers miloedd o flynyddoedd.

Ofnir y bydd microbau’n ymosod ar y carbon hwn gan gynhyrchu’r nwy tŷ gwydr, carbon deuocsid.  Dywed y gwyddonwyr o Fangor bod y carbon hynafol wedi’i gadw’n ddwfn yn y pridd, ond bod effeithiau torri a chlirio coed yn ei ryddhau i sianelau dŵr cyfagos.

Wrth ddisgrifio eu gwaith, sy’n ymddangos yn “Nature”, meddai’r Athro Chris Freeman: “Fe wnaethom sylwi gyntaf yn ôl yn 1995 bod y ffosydd a oedd yn sychu darnau o dir a oedd wedi eu troi’n blanhigfeydd olew palmwydd yn cynnwys lefelau anarferol uchel o garbon hydawdd, ond dim ond pan gymerodd fy ymchwilydd, Dr Tim Jones, samplau i fesur oed y carbon hwnnw y gwnaethom sylweddoli ein bod wedi dod ar draws rhywbeth pwysig iawn.”  Ychwanegodd Dr Jones, “Fe wnaethom ryfeddu wrth ddarganfod bod ein samplau o’r planhigfeydd olew palmwydd yn cynnwys y carbon organig hydawdd hynaf o bridd a gofnodwyd erioed.”  

Mesurodd ymchwilwyr Prifysgol Bangor y dŵr a oedd yn gollwng o sianelau mewn planhigfeydd olew palmwydd ar benrhyn Malaysia, a oedd yn goedwig cors fawndir yn wreiddiol.  Mae oddeutu 28,000 km2 o blanhigfeydd diwydiannol ym mhenrhyn Malaysia, Sumatra a Borneo gyda mwy ar y gweill, gan eu gwneud yn gyfrannwr o bwys at ddatgoedwigo corsydd mawn yn y rhanbarth.  “Mae ein canlyniadau’n ein hatgoffa unwaith eto pan fyddwn yn tarfu ar gorsydd mawn a’u troi’n blanhigfeydd biodanwydd diwydiannol bod perygl i ni ychwanegu at yr union broblem rydym yn ceisio ei datrys,” meddai’r Athro Freeman.   

Ychwanegodd yr Athro Freeman:  Rydym yn gwybod ers peth amser fod planhigfeydd olew palmwydd yn Ne Ddwyrain Asia yn fygythiad mawr i fioamrywiaeth, yn cynnwys cynefin orang-utans, ac y gall y sychu ryddhau symiau enfawr o garbon deuocsid yn ystod y tanau a welwyd yno yn ystod y blynyddoedd diweddar.  Ond mae darganfod ffynhonnell newydd ‘gudd’ o broblemau yn y dyfroedd a dynnir o’r mawndiroedd hyn wrth eu sychu yn ein hatgoffa o’r angen i ddiogelu’r ecosystemau bregus hyn.”  

Gymaint yw’r angen i ddysgu mwy am swyddogaeth mawndiroedd trofannol yn ein hinsawdd fel bod yr Athro Freeman yn sefydlu gradd uwch unigryw ar diroedd gwlybion.

Gobaith y gwyddonydd, sy’n adnabyddus yn fyd-eang yn ei faes, yw y bydd gradd MSc newydd Prifysgol Bangor mewn Gwyddor a Chadwraeth Tiroedd Gwlybion yn sicrhau y bydd ymchwil yn parhau ar y ffyrdd gorau i amddiffyn a rheoli’r cynefinoedd arbennig hyn.

Cyhoeddwyd ‘Deep instability of deforested tropical peatlands revealed by fluvial organic carbon fluxes' yn Nature ar 31 Ionawr 2013.  Roedd y Tîm ymchwil yn cynnwys Dr Sam Moore a Dr Vincent Gauci, The Open University; Yr Athro Chris Evans, Canolfan yr Amgylchedd Cymru; Athro Susan Page, University of Leicester; Dr Mark Garnett, NERC Radiocarbon Facility; Dr Tim Jones a Professor Chris Freeman, Prifysgol Bangor; Dr Aljosha Hooijer, Deltares; Dr Andrew Wiltshire, Met Office Hadley Centre, a Mr Suwido Limin, Prifysgol Plangka Raya.

Mae’r gwaith yn denu diddordeb mewn gwledydd mor bell â’r Unol Daleithiau ac Awstralia.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2013