O ble y daw microbau sy’n ymwrthol i antibiotig?

Mae’r bygythiad cynyddol gan ficrobau sy’n ymwrthol i antibiotig mewn perygl o’n  dychwelyd i ‘oesoedd tywyll meddyginiaeth’. Dyna a ddywedodd y Prif Weinidog, David Cameron, wrth lansio ymchwiliad y llynedd.

Amcangyfrifir bod straeniau o facteria sy’n ymwrthol i gyffuriau yn gyfrifol am 5,000 o farwolaethau'r flwyddyn yn y DU a chymaint â 25,000 o farwolaethau yn Ewrop.

Mae un academydd o Brifysgol Bangor yn cyfrannu at y frwydr yn erbyn ymwrthedd antibiotig, ac yn ymchwilio ar sawl ‘ffrynt’, gan gynnwys ceisio datblygu prawf cyflym ac effeithiol a fyddai’n canfod  straeniau o facteria a oedd yn cario genynnau ymwrthol i  antibiotig.

Mae Merfyn Williams a’i dîm yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol yn ymchwilio i’r gwahaniaeth mewn DNA o fewn teuluoedd bacteria sydd yn rhoi’r gallu i rai ohonynt feddu ar ymwrthedd i antibiotig. Nid yw’r rhan fwyaf o facteria yn naturiol ymwrthol i antibiotig yn yr amgylchedd o’n cwmpas, ond yn hytrach mae rhai bacteria wedi mynd drwy newid esblygiadol yn eu DNA sydd yn rhoi’r gallu iddynt wrthsefyll antibiotig.

“Y ffordd hawsaf o ddisgrifio’r hyn sy’n digwydd i rai bacteria sydd â genynnau sy’n eu galluogi i feddu ar y potensial i wrthsefyll rhai mathau o antibiotig yw dweud fod ganddynt ‘switsh’ sy’n cael ei droi ymlaen pan eu bod o dan straen neu’n dod i gysylltiad ag antibiotig. Dim ond Dim ond bryd hynny maent yn dangos ymwrthedd i antibiotig”, esbonia Merfyn Williams.

Mae’r microbau hynny sydd â’r gallu i droi’n ymwrthol i antibiotig o’n cwmpas yn yr amgylchedd a thu mewn i ni, weithiau fel rhan o fflora ein perfeddion - ac, ar y cyfan, yn gwbl ddiniwed i ni pan ein bod yn iach. Yr hyn sy’n  sbarduno eu hymwrthedd i antibiotig yw dod i gysylltiad â’r antibiotig ei hun.

Felly’r hyn sydd ei angen yw prawf syml, cyflym a chost effeithiol a ellir ei ddefnyddio gan wyddonwyr biofeddygol i ganfod bacteria sydd â’r potensial i wrthsefyll antibiotig. Os yw’r bacteria o’r fath yn cael eu canfod mewn claf sydd angen triniaeth, yna byddai’n ddoethach peidio â thrin y claf hwnnw ag antibiotig a all ddethol straeniau ymwrthol, ond yn hytrach ddewis grwpiau antibiotig eraill.

Mae Merfyn Williams a’i dîm yn ceisio datblygu prawf o’r fath:

“Hyd yma rydym wedi gallu datgelu cludiant gwahanol enynnau sy’n amgodio ar gyfer ymwrthedd bacteria mewn bacteria E.coli a cholifform o’r amgylchedd ac o unigion clinigol. Rydym hefyd wedi datgelu rhai straeniau sy’n cludo genynnau ymwrthol ond nad ydynt yn mynegi ymwrthedd i antibiotig yn y labordy, ac amcan un o’n hastudiaethau presennol yw ceisio peri ymwrthedd i anfiotig yn y straeniau hynny i’n galluogi i astudio’r broses a sut y mae’n digwydd. Mae’r astudiaethau hyn yn cymryd amser ac rydym yn gobeithio y gwelwn gynnydd dros y ddwy flynedd nesaf. ”

Mae Merfyn hefyd yn ymchwilio i sut y mae ymwrthedd i antibiotig a newidiadau geneteg y tu mewn i’r microbau hyn yn amrywio o fewn poblogaethau o’r un microb. Mae ei dîm hefyd yn gweithio ar astudiaeth epidemioleg, yn canfod a chymharu gwahaniaethau rhwng geneteg ac ymwrthedd i antibiotig o fewn yr un teulu microbau o facteria a geir yng Ngogledd Orllewin Cymru o’i gymharu â’r rheiny a geir yn y Gogledd Ddwyrain.

Mae Merfyn Williams yn Gyfarwyddwr Gwyddorau Biofeddygol y Brifysgol a hefyd yn Uwch Wyddonydd Biofeddygol i Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ionawr 2015