Tystiolaeth newydd o newid hinsawdd yng ngogledd ddwyrain Affrica yn cefnogi dyddiad cynnar ymwasgariad cyntaf bodau dynol allan o’r cyfandir

Trawsdoriad seismig drwy waddod y llyn.  Mae’r haenau o wahanol dyddodion yn creu atsain fel bod y delwedd yn debyg iawn i drawsdoriad daearegol.  Yn y gwaddod hwn oedd yr holl gliwiau ynglŷn â’r hinsawdd flaenorol!Trawsdoriad seismig drwy waddod y llyn. Mae’r haenau o wahanol dyddodion yn creu atsain fel bod y delwedd yn debyg iawn i drawsdoriad daearegol. Yn y gwaddod hwn oedd yr holl gliwiau ynglŷn â’r hinsawdd flaenorol!Mae tarddiad gwreiddiol bodau dynol, homo sapiens, a'i ymfudiadau dilynol, yn ffynhonnell gyson o drafod ymysg ymchwilwyr y maes.

Y consensws a sefydlwyd eisoes yw ein bod wedi tarddu o gyfandir Affrica, nepell o Ddyffryn Hollt Dwyrain Affrica, ac yna wedi ymfudo o’r cyfandir o ddeutu 70,000 o flynyddoedd yn ôl. 

Ond mae llu o ymchwilwyr yn cynnig yn wahanol; gydag ambell i dystiolaeth enetigol yn cynnig dyddiad llawer yn gynharach – sef tua 120,000 i 130,000 o flynyddoedd yn ôl.

Ond o fewn y maes, nid oes fawr o dystiolaeth uniongyrchol o’r hinsawdd yn y rhan yma o’r byd dros y cyfnodau hyn; ond mae cydnabyddiaeth eang fod hinsawdd yn effeithio ar batrymau ymfudo bodau dynol.

Mae ymchwil newydd wedi cael ei gyhoeddi yn Scientific Reports sydd a’i nod o ddatrys y diffyg gwybodaeth hinsoddol yma.

Wedi eu harwain gan yr Athro Henry Lamb o Brifysgol Aberystwyth, mae ymchwilwyr o Aberystwyth, Bangor, St Andrews, a’r “NERC Radiocarbon Facility” yn cyflwyno cofnod hinsawdd o Ethiopia sy’n mynd yn ôl o’r presennol hyd at 150,000 o flynyddoedd.  Credir mai hwn yw’r cofnod hinsawdd hiraf o’i fath o Ogledd Ddwyrain Affrica.

Gwnaeth y grŵp ymchwil arolwg seismig ar Lyn Tana, yn ucheldir Ethiopia; ac yna tyllu ac echdynnu 93 medr o waddod o waelod y llyn.  Ymbaratoi am arolwg seismig, yn mhorthladd pentre Gorgora ar lan ogleddol Llyn Tana, ffynhonnell y Nil Glas.Ymbaratoi am arolwg seismig, yn mhorthladd pentre Gorgora ar lan ogleddol Llyn Tana, ffynhonnell y Nil Glas.Defnyddiwyd technegau newydd ymoleuedd i ddadansoddi’r gwaddod, a galluogodd hyn i’r tîm gael dyddiadau da i lawr drwy holl ddyfnder y sampl.  Darganfuwyd fod y gwaddod yn llawn gyn hyned â’r dyddiadau dadleuol a nodir uchod wrth sôn am ymfudiadau dynol.

Rhoddodd data geo-cemegol wybodaeth ynglŷn â’r cydbwysedd rhwng anweddiad a glawiad dros y cyfnod.  Wrth gyplysu hyn efo’r data seismig, roedd y tîm nid yn unig yn gallu gwahaniaethu rhwng cyfnodau gwlyb a sych, ond hefyd yn gallu nodi amseroedd pan oedd yr hinsawdd yn sefydlog, o’i gymharu ac amseroedd eraill pan roedd y sefyllfa yn fwy ansefydlog.

Mae’r dystiolaeth yn dangos, am y tro cyntaf, fod cyfnod hir o hinsawdd sefydlog a gwlyb wedi bodoli yn yr ardal hon o Affrica rhwng 130,000 a 90,000 o flynyddoedd yn ôl.  Mi fyddai hyn wedi bod yn ddelfrydol ar gyfer ffyniant ac ymfudo o boblogaethau o’r cyfandir yn ystod y cyfnod, a argymhellir gan y dystiolaeth enetigol ddiweddar ar y mater.

Dywedodd Dr Dei Huws, geoffisegydd o Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor: “Roedden ni’n ffodus fod ansawdd y data seismig yn eithriadol o dda.  Roedd yn dangos fod y llyn wedi bod yn rhywle ble roedd dyddodiad cyson, distaw yn digwydd am filoedd o flynyddoedd, ond yna, roedd cyfnodau hir, ansefydlog.  Ambell dro, mae’r llyn i weld wedi sychu’n gyfan gwbl, gan adael cramen o fwd caled; cyn i hwnna wedyn gael ei erydu gan sianeli o ddŵr, wrth iddi ail-ddechrau ar gyfnod gwlyb arall.  Yna mae’r dyddodiad cyson, sefydlog yn ail-gydio’r system.  A fel yna mae’r amgylchedd i’w weld yn cylchdroi yma.”

Dywedodd yr Athro Henry Lamb, “Mae’r consensws mwyaf diweddar yn y maes yn cynnig fod, mwy na thebyg, sawl episod o ymwasgaru o Affrica i Asia, a hynny’n dechrau mor fuan â 130,000 o flynyddoedd yn ôl; ac mae’r gwaith ymchwil newydd yma yn dangos yn glir fod yr Golygfa o’r Nil Glas, gyda Llyn Tana i’w gweld yn y cefndir : Llun yr Athro H LambGolygfa o’r Nil Glas, gyda Llyn Tana i’w gweld yn y cefndir : Llun yr Athro H Lambhinsawdd yn briodol iawn ar y pryd i arwain at hyn.”

Arianwyd y gwaith gan NERC ac mae’n rhan o brosiectau eraill sydd yn cael eu rhedeg ar y cyd gan yr un tîm ymchwil yn cydweithio â gwyddonwyr o’r Almaen a’r UDA; a hyn i gyd er mwyn ehangu’r ymchwil ymhellach - yn ddaearyddol o fewn Affrica, ac ymhellach i’r gorffennol.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2018