Ymchwil i gynyddu gwytnwch a chynaliadwyedd system fwyd y Deyrnas Unedig ymhellach

Mae Prifysgol Bangor i dderbyn a rheoli cyfran o raglen Diogelwch Bwyd Byd-eang y Deyrnas Unedig - cyllid o £4.9 miliwn at ymchwil ryngddisgyblaethol i gynyddu gwytnwch a chynaliadwyedd system fwyd y DU. 

Dyfarnwyd dros £1.5 miliwn i Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor.  Dan arweiniad Yr Athro Paul Withers, bydd tîm rhyngddisgyblaethol blaenllaw o wyddonwyr bioffisegol ac economaidd-gymdeithasol, ynghyd ag ystod eang o fudd-ddeiliaid o'r DU, yn ymchwilio sut i wneud y defnydd cynaliadwy gorau o ffosfforws yn system fwyd y DU. 

Mae ffosfforws yn gynhwysyn hanfodol i gynhyrchu cnydau a da byw iach a phroffidiol ond, yr un pryd, mae'n achos sylweddol o lygredd mewn llynnoedd dŵr croyw, afonydd ac ardaloedd arfordirol.  Defnyddir ffosfforws yn aneffeithlon iawn mewn amaethyddiaeth ac mae llygredd yn deillio o ganlyniad i ollyngiadau a gwastraff ym mhob cam o'r gadwyn fwyd o gynhyrchu i ddefnyddio.  I wneud materion yn waeth, nid oes gan y DU ffynonellau naturiol o ffosfforws ac mae'n dibynnu ar ffosfforws wedi'i fewnforio, a hynny'n anuniongyrchol ar ffurf gwrtaith a bwyd anifeiliaid. Mae rhan helaeth o ffosfforws anadnewyddadwy’r byd yn deillio  ac yn cael ei reoli gan nifer fechan o wledydd, gan gynnwys, Moroco, Tsieina, Syria ac Algeria.

Oherwydd hyn mae'r DU ar drugaredd amrywiadau ym mhris a chyflenwadau’r deunydd crai amaethyddol hollbwysig hwn, gan fygwth ein diogelwch bwyd yn y dyfodol. 

Ateb amlwg yw gwneud gwell defnydd o'r ffosfforws sy'n cyrraedd y wlad yma ac ailgylchu cymaint ohono â phosib.  Hon yw'r egwyddor sylfaenol sydd y tu ôl i'r economi gylchol sy'n awr yn arwain cyflenwadau ffosfforws yn fyd-eang.  Fodd bynnag, mae'r ateb ymddangosiadol hawdd hwn yn un hynod gymhleth mewn gwirionedd, oherwydd nid ydym yn deall pa mor dda mae ein tirweddau'n cadw mewnbynnau ffosfforws ynddynt a sut y gallwn eu rheoli i sicrhau amaethyddiaeth broffidiol tra yr un pryd amddiffyn ein ffynonellau dŵr a lles cyffredinol cymdeithas.  Yn ogystal, rydym angen gwell dealltwriaeth o'r hyn fydd yn annog budd-ddeiliaid i gymryd y cam ymlaen i reoli ffosfforws yn gynaliadwy.

Felly, i ddarparu fframwaith ar gyfer trawsnewid i ddefnyddio ffosfforws yn gynaliadwy mae angen cyfuniad o sgiliau a medrusrwydd.  Yn cymryd rhan mae arbenigwyr yng ngwyddor gynaliadwy ffosfforws byd-eang, bregusrwydd y system fwyd, gwyddor dalgylch, peirianneg amgylcheddol, gallu i ymaddasu a modelu economaidd o Brifysgol Bangor, Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU, The Agri-Food and Bioscience Institute, Prifysgol Leeds a The University of Technology, Sydney, Awstralia.

Y nod yw defnyddio llai o ffosfforws ar y tir, ei ddefnyddio'n fwy effeithlon a lleihau gollyngiadau i ddyfroedd yn y DU - lleihau'r angen i fewnforio adnodd naturiol drud ac allweddol a lleihau effeithiau negyddol ffosfforws ar ein hamgylchedd.

"Mae hwn yn broject cyffrous oherwydd dyma'r ymgais cynhwysfawr gyntaf i geisio cloriannu bregusrwydd systemau bwyd y DU ar hyn o bryd o ran prinder posibl ffosfforws, neu ddatblygu a gweithredu strategaeth i gynyddu eu cynaliadwyedd," eglurodd Yr Athro Paul Withers. 

"Ar ddiwedd y project tair blynedd bydd y DU mewn llawer gwell sefyllfa i wynebu 'uchafbwynt ffosfforws' a ddisgwylir, gydag anghenion y byd yn fwy na'r ddarpariaeth wedyn, ac i alluogi dwysâd cynaliadwy amaethyddiaeth yn y DU i gwrdd â'r cynnydd disgwyliedig yn y galw am gyflenwadau bwyd.  Bydd gwell rheolaeth dros ffosfforws mewn amaethyddiaeth a diwydiannau cysylltiedig, a hefyd mewn trin gwastraff, yn gwella ein dyfrffyrdd a chefnogi'r bywyd gwyllt yn yr amgylcheddau hynny."

Meddai'r Gweinidog dros Wyddoniaeth, Jo Johnson, wrth gyhoeddi'r grantiau:

"Mae'r rhaglen Diogelwch Bwyd Byd-eang yn enghraifft ragorol o ymchwil ryngddisgyblaethol, gan ddod ag amrywiaeth o arbenigedd ar draws y gwyddorau biolegol, amgylcheddol a chymdeithasol ynghyd i roi sylw i'r ansicrwydd o sawl tu sy'n wynebu system fwyd y DU.

"Mae ymchwil yn rhan allweddol o'n Strategaeth Ddiwydiannol, a thrwy gynyddu cyllid yn y maes hwn rydym yn helpu i sicrhau diogelwch y sector bwyd yn y DU yn y dyfodol, gan gadarnhau ein safle fel arweinydd byd mewn gwyddoniaeth ac arloesi. 

Ychwanegodd Riaz Bhunnoo, Cyfarwyddwr y rhaglen Diogelwch Bwyd Byd-eang:

"Mae'r ymchwil yma'n rhoi sylw i swyddogaeth hanfodol y rhaglen Diogelwch Bwyd Byd-eang ac yn dilyn yn syth o'n hymwneud â pholisi a busnes, a'n dull amlddisgyblaethol o ymdrin â sialensiau i systemau bwyd.   Bydd y rhaglen ymchwil drwyddi draw yn helpu i sicrhau bod system fwyd y DU yn wydn mewn byd sy'n newid yn gyflym."

Arweiniwyd y rhaglen gan raglen Diogelwch Bwyd Byd-eang y DU, gyda chyllid gan y Biotechnology and Biological Sciences Research Council (BBSRC), Economic and Social Research Council (ESRC), Natural Environment Research Council (NERC) a llywodraeth Yr Alban. 

Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2017