Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Cymdeithas: cyflwynwyd gan Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor

Fe wnaeth y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar, rhan o’r Ysgol Seicoleg, gynnal cynhadledd wyddonol ym mis Mawrth 2013 yng Nghaer, o’r enw ‘Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Cymdeithas’. Roedd yn gynhadledd tridiau gyda  582 o bobl yn dod yno, yn cynnwys cynadleddwyr o nifer o wledydd Ewropeaidd, a rhai o Awstralia ac America. 

Rhoddwyd y prif gyflwyniadau gan Yr Athro Mark Williams, Yr Athro Jon Kabat-Zinn, Yr Athro Shauna Shapiro a’r Athro Willem Kuyken. Roedd y gynhadledd yn cynnwys rhai ymchwiliadau pwysig i Economeg Iechyd a arweiniwyd gan Yr Athro Rhiannon Tudor-Edwards, ar weithredu dulliau wedi’u seilio ar ymwybyddiaeth ofalgar yng ngwasanaethau iechyd Prydain, a arweiniwyd gan Yr Athro Jo Rycroft-Malone, ar faes datblygol niwrowyddoniaeth wybyddol ymwybyddiaeth ofalgar a arweiniwyd gan Dr Dusana Dorjee, ac ar ddefnyddio hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a arweiniwyd gan Sarah Silverton mewn cydweithrediad â’r Project Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Ysgolion ac Ysgol Pen y Bryn ym Mae Colwyn.

Fe wnaeth Chris Ruane, Aelod Seneddol Dyffryn Clwyd, roi sgwrs ysbrydoledig cyn y swper ar brif noson y gynhadledd, ac fe wnaeth Darren Millar, Aelod Cynulliad, a Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid, ymuno â siaradwyr y gynhadledd am ginio a’r cyflwyniad olaf. Yn dilyn y gynhadledd, ymwelodd Jon Kabat-Zinn â’r senedd a Rhif 10 i siarad gydag Aelodau Seneddol am ymwybyddiaeth ofalgar a siarad yn lansiad digwyddiad ‘Action for Happiness’ yr Arglwydd Layard.

Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn fath o hyfforddiant i’r meddwl sy’n datblygu’r gallu i ganolbwyntio am gyfnod sylweddol. Yn hytrach na galluogi i’r meddwl grwydro a phoeni’n unig, mae hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar yn cynnwys meithrin y gallu i ‘roi sylw’ i beth bynnag sy’n digwydd mewn ffyrdd sy’n ddefnyddiol a chytbwys. Mae’r gallu hwn i fod ‘yn y foment bresennol’ yn rhyddhau’r meddwl o batrymau cyson, synfyfyriol sy’n arwain at bryder, ac yn galluogi ymatebion mwy craff a chreadigol i sialensiau newydd. O ystyried bod angen canolbwyntio ar gyfer  pob swyddogaeth feddyliol, mae gan y cyfryw hyfforddiant oblygiadau sylweddol ar gyfer iechyd meddwl, hunanreolaeth ac addysg.

Fel yr eglura Rebecca Crane, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor: ‘Mae cyflwyniadau yn y gynhadledd yn dangos sut mae ymwybyddiaeth ofalgar yn cael ei ddysgu, sut yr ymchwilir iddo mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau cymdeithasol yn cynnwys y gwasanaeth iechyd, gweithleoedd a gosodiadau addysg. Ceir diddordeb cryf yn y potensial i unigolion a chymdeithas ddatblygu lefelau uwch o les, trugaredd, caredigrwydd a hapusrwydd. Mae ymchwil i ymwybyddiaeth ofalgar yn cynnig cyfleoedd cyffrous i ddysgu am swyddogaeth y meddwl yn ein lles, a’n gallu i feithrin ein lles ein hunain drwy ymarfer meddyliol.’ Dywedodd Chris Ruane, Aelod Seneddol Dyffryn Clwyd: ‘Mae Cwestiynau Seneddol diweddar yr ydw i wedi’u nodi’n dangos bod nifer y presgripsiynau ar gyfer meddyginiaeth gwrthiselder wedi cynyddu o 9 miliwn yn 1991 i 47 miliwn yn 2011, a bod 32.3% o bobl ifanc rhwng 16 a 25 yn dioddef o un cyflwr seiciatrig neu ragor. Mae’r rhain yn ystadegau gwirioneddol arswydus. Cymeradwywyd Therapi Gwybyddol wedi’i seilio ar Ymwybyddiaeth Ofalgar gan y National Institute for Clinical Excellence yn 2004. Nid oes iddo sgil-effeithiau, mae’n rhoi’r unigolyn mewn rheolaeth, ac mae’n driniaeth ratach na meddyginiaeth gwrthiselder; ac eto 5% yn unig o feddygon teulu sy’n cyfeirio cleifion at y driniaeth hon. Gobeithio y bydd y gynhadledd hon yn codi mater potensial ymwybyddiaeth ofalgar i’r rhai hynny sy’n dioddef gyda salwch meddwl ac fel ffordd o ffynnu i’r boblogaeth yn gyffredinol.”

Sefydlwyd Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor ar ôl cyhoeddi ymchwil arloesol gan Yr Athro Mark Williams ym Mhrifysgol Bangor yn 2000, a roddodd dystiolaeth bod Therapi Gwybyddol wedi’i seilio ar Ymwybyddiaeth Ofalgar - cwrs 8 wythnos sy’n integreiddio ymwybyddiaeth ofalgar gyda therapi gwybyddol - yn haneru cyfradd ddisgwyliedig cael ail bwl o iselder mewn pobl sydd wedi cael nifer o byliau o iselder. Cadarnhaodd ymchwil ddilynol y canlyniad hwn, ac argymhellwyd y dull i’w ddefnyddio yn y gwasanaeth iechyd gan NICE ar gyfer y grŵp yma o bobl.  Mae’r ganolfan wedi datblygu rhaglen sy’n fawr ac uchel ei pharch ar gyfer ôl-raddedigion a hyfforddiant proffesiynol parhaus i alluogi i weithwyr proffesiynol hyfforddi i integreiddio a dysgu dulliau wedi’i seilio ar ymwybyddiaeth ofalgar yn eu gwaith, ac mae ganddi raglen ymchwil gyfredol sy’n ymchwilio i ddefnyddio ymwybyddiaeth ofalgar mewn cymdeithas. 

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ebrill 2013