Diwrnod Agored Ar-lein
Cynhelir ein Diwrnod Agored Ar-lein nesaf:
- Ddydd Sadwrn, 30 Ionawr
Gallwch ddysgu am ein cyrsiau, siarad â darlithwyr a staff, gwylio fideos a chyflwyniadau a chymryd teithiau 360 o amgylch y campws ac ein llety.
Cofrestrwch nawr i ddarganfod sut beth ydy astudio ym Mhrifysgol Bangor.
Cofrestru ar gyfer Diwrnod Agored Ar-lein
Nodwch fod y bylchau sydd wedi eu nodi a * yn orfodol.
Drwy lenwi’r ffurflen hon, rydych chi’n cytuno i dderbyn rhagor o wybodaeth am ein Diwrnod Agored ac am Brifysgol Bangor. Am ragor o wybodaeth am sut yr ydym yn defnyddio’ch manylion, cliciwch yma.
Dyddiau Agored ar y campws
Byddwn yn cynnal Dyddiau Agored ar y campws cyn gynted ag y gallwn. Bydd cofrestru ar gyfer y digwyddiadau yma’n agor yn nes at yr amser, ond yn y cyfamser gallwch fynychu Diwrnod Agored Ar-lein drwy lenwi’r ffurflen gofrestru uchod.
Wedi gwneud cais yn barod?
Rydym yn cynnal Dyddiau i Ymgeiswyr rhwng Ionawr ac Ebrill, felly os ydych wedi gwneud cais i astudio ym Mangor, mae'r digwyddiadau yma'n gyfle i chi holi staff a darlithwyr am ein cyrsiau a dod i wybod mwy am y campws, ein hadnoddau ac ein llety.
Os ydych yn cael cynnig lle i astudio yma, byddwn yn eich gwahodd i Ddiwrnod i Ymgeiswyr.
Diwrnod Agored Ôl-radd
Byddwn yn cynnal ein Diwrnod Agored Ôl-radd nesaf ar y campws cyn gyted ag y mae'n saff.
Yn y cyfamser, edrychwch ar ein tudalennau gwe Cyflwyniad i Astudiaeth Ôl-radd i weld cyflwyniadau, fideos a theithiau 360 ac i gymryd rhan mewn digwyddiadau Sgwrs Fyw.
Cysylltu â ni
Am fwy o wybodaeth am ein Diwrnodau Agored, cysylltwch â ni ar 01248 382005 neu e-bostiwch diwrnodagored@bangor.ac.uk