Gwasanaethau Post
Mae'r tîm post yn darparu gwasanaeth dosbarthu post mewnol. Maen nhw hefyd yn casglu ac yn prosesu post sy'n mynd allan ac yn didoli ac yn dosbarthu'r post sy'n dod i mewn.
Bydd post adrannol fel arfer yn cael ei gasglu gan y tîm post unwaith y dydd, ond gallwch hefyd ollwng post yn ystafell y post, sydd yn PaCS yn Adeilad Ffriddoedd, unrhyw bryd rhwng 10am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.