Rheoli Llefydd
Cais Project neu Le
Mae ffurflen syml ar gael i gofnodi pob cais sy'n ymwneud â phroject a gofynion lle/newidiadau o fewn y Brifysgol. Os defnyddiwch chi'r ffurflen honno bydd PaCS yn gallu dilyn pob cais sy'n ymwneud â phrojectau a lle.
Rhaid i bob cais gael ei gyflwyno (neu ei gymeradwyo gan) Bennaeth y Coleg, Pennaeth yr Adran neu'r Ysgol neu swydd uwch gyfatebol arall.
Gwaith Project
- Pob gwaith project dros £5,000.00 (os ydych yn ansicr o'r gwerth tebygol, rhowch alwad i ni neu cyflwynwch ffurflen fel y gallwn eich helpu chi/rhoi cyngor i chi).
- Unrhyw brojectau sydd â goblygiadau o ran iechyd a diogelwch neu ddiogelwch tân sylweddol y bydd angen adnoddau sylweddol ar eu cyfer.
Ceisiadau sy’n ymwneud â Lle
Bydd angen caniatâd ymlaen llaw gan Grŵp Gorchwyl y Gwasanaethau Eiddo a'r Campws cyn gwneud unrhyw newidiadau i adeiladau neu lefydd y Brifysgol, gan gynnwys newid defnydd.
Bydd y ceisiadau'n cael eu hystyried yn y lle cyntaf gan yr Is-grŵp Rheoli Gofod sydd â chynrychiolaeth gan PaCS, Cynllunio ac Adnoddau a Dirprwy Is-Ganghellor, cyn gwneud argymhelliad i'r Grŵp Gorchwyl.
Bydd angen gofyn am ganiatâd waeth beth yw maint y project, y lle na'r ffynhonnell ariannol. Dyma rai projectau nodweddiadol;
- Ceisiadau am fwy o le
- Ailwampio neu adnewyddu'r gofod cyfredol sydd wedi ei dyrannu
- Newid swyddogaeth ystafell neu aseiniad i adran wahanol
- Gadael man yr oeddech yn arfer ei feddiannu