Newyddion

Holl newyddion

Mae pobl yn rhagweld gwên ddiffuant gan eraill, ond ddim gwên gwrtais

Gwenwch a bydd y byd yn gwenu gyda chi - ond mae ymchwil newydd yn awgrymu nad yw pob gwên yn gydradd. Dengys yr ymchwil fod pobl yn gallu rhagweld gwên ddiffuant ond nid felly gwên gwrtais. Mae’n bosibl fod hyn yn arwydd o werth unigryw cymdeithasol gwên ddiffuant.

"Mae'r canfyddiadau hyn yn rhoi'r awgrym clir cyntaf i ni fod y prosesau sylfaenol sy'n tywys ymatebion i wobr hefyd yn chwarae rhan mewn tywys ymddygiad cymdeithasol ar sail moment i foment yn ystod rhyngweithio gymdeithasol," esbonia'r gwyddonydd seicolegol a'r prif ymchwilydd Erin Heerey o Brifysgol Bangor.

Ceir adroddiad am yr ymchwil newydd yn Psychological Science, cylchgrawn yr Association for Psychological Science.

"Nid yw unrhyw ddau ryngweithiad yr un fath, ond mae pobl yn dal i lwyddo i gydlynu eu lleferydd a'u hymddygiad di-eiriau gyda lleferydd ac ymddygiad person arall," medd Heerey. Ystyriodd tybed a allai gwerth cynhenid gwahanol giwiau cymdeithasol fel gwên chwarae rhan yn llunio ein hymateb i'r ciwiau hynny.

Bydd gwên gwrtais, er enghraifft, yn nodweddiadol yn digwydd pan fo norm cymdeithasol-ddiwylliannol yn pennu bod gwenu yn briodol. Mae gwên ddiffuant, ar y llaw arall, yn arwyddo pleser, yn digwydd yn ddigymell, ac fe'i harwyddir gan y defnydd o gyhyrau penodol o gwmpas y llygad.

Tybiai Heerey os oedd gwên ddiffuant yn ffurf ar wobr gymdeithasol, yna dylai pobl fod yn fwy tebygol o ragweld gwên ddiffuant na gwên gwrtais sy'n llai o wobr yn gymharol.

Dangosai astudiaeth arsylwi bod parau o ddieithriaid a oedd yn dechrau dod i nabod ei gilydd nid yn unig yn cyfnewid gwenau, ond bod y math o wên bron yn ddieithriad yn cyfateb.

Ond roeddynt yn ymateb yn llawer cynt i wên ddiffuant nag i wên gwrtais, sy'n awgrymu eu bod yn rhagweld gwên ddiffuant.

Yn yr un modd roedd pobl a gymerodd ran mewn astudiaeth labordy yn dysgu cydgysylltu trawiad ar fysell ag wyneb â gwên ddiffuant ynghynt nag ag wyneb â gwên gwrtais.  Roedd data o synwyryddion trydanol ar wynebau'r cyfranogwyr yn datgelu eu bod yn defnyddio cyhyrau cysylltiedig â gwenu pan oeddynt yn disgwyl i wên ddiffuant ymddangos ond nad oeddynt yn dangos unrhyw weithgaredd o'r fath pan oeddynt yn disgwyl gwên gwrtais.

Mae'r ymatebion gwahanol yn awgrymu bod gwên ddiffuant yn wobr gymdeithasol fwy gwerthfawr na gwên gwrtais. Dengys ymchwil blaenorol bod gwên ddiffuant yn hyrwyddo rhyngweithio cymdeithasol mwy cadarnhaol, felly bod dysgu ei rhagweld yn debygol o fod yn sgil cymdeithasol allweddol.

Un o agweddau newydd yr ymchwil, meddai Heerey, yw'r cyfuniad o arsylwi naturiol ac arbrofi wedi'i reoli, a oedd yn caniatáu iddi archwilio i gyfoeth rhyngweithio cymdeithasol bywyd real ac ar yr un pryd yn rhoi'r cyfle iddi archwilio i berthnasau achosol posib. 

Cred Heerey y gellid cymhwyso'r dull hwn mewn ffyrdd pwysig ymhen amser:

"Wrth i ni wneud cynnydd yn ein dealltwriaeth o ryngweithio cymdeithasol, mae'n bosib y bydd y canfyddiadau'n arwain at ymyriadau ar gyfer pobl sy'n cael rhyngweithio cymdeithasol yn anodd, fel y sawl sydd â phryder cymdeithasol, awtistiaeth, neu sgitsoffrenia. 

Roedd Helen Crossley, hefyd o Brifysgol Bangor, yn gydawdur yr ymchwil.

 

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2013