Newyddion Diweddaraf

Llongddrylliadau hanesyddol i gyfrannu at ddyfodol ynni adnewyddadwy morol Cymru

Bydd llongddrylliadau hanesyddol o amgylch arfordir Cymru, fel llongddrylliad y llong danfor Almaenig a suddodd 10 milltir oddi ar Ynys Enlli ar ddiwrnod Nadolig 1917, yn cyfrannu at dwf sector ynni adnewyddadwy morol Cymru.

Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd gwyddonwyr morol o Brifysgol Bangor yn arolygu arfordir Cymru fel rhan o broject SEACAMS2 a gyllidir gan yr ERDF ac a arweinir gan y brifysgol mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe. Bydd ymchwilwyr o Ysgol Gwyddorau'r Eigion a Chanolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol Prifysgol Bangor yn cynnal ymchwil cydweithredol, yn cynnwys arolygon morol, i gefnogi twf cynaliadwy'r sector ynni adnewyddadwy morol yng Nghymru. 

Dyddiad cyhoeddi: 14 Awst 2017

Forest conservation approaches must recognise the rights of local people

Dyma erthygl yn Saesneg gan Neal Hockley o'r Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a daearyddiaeth a  o Brifysgol Stirling sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2017

Deall ein Moroedd

Mae Ysgolion Gwyddorau Eigion, Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg Prifysgol Bangor, ar y cyd â chwmni partner 'Tidal Lagoon Power' yn chwilio am fyfyriwr cyfrifiadureg i'w helpu i adeiladu cerbyd annibynnol a fydd yn ateb cwestiynau sydd wedi bod yn boen i ecolegwyr a gwyddonwyr pysgodfeydd ers blynyddoedd - sut mae pysgod yn nofio, ac i ble? Mae'r project newydd a ddatblygir gan SEACAMS, Prifysgol Bangor, ac a gyllidir gan KESS 2, yn bwriadu olrhain pysgod bach y môr i ddeall i ble mae pysgod yn nofio, mewn ffordd a ddefnyddiwyd gyda siarcod mawr yn unig yn y gorffennol. 

Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2017

Cynrychiolwyr rhyngwladol yn cael eu denu i Ysgol Haf Ymchwil Gwasanaethau Iechyd Prifysgol Bangor

Daeth cynrychiolwyr o gyn belled â Chanada, Qatar, yr Eidal a Denmarc i ysgol haf ymchwil breswyl Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor a gynhaliwyd yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2017

New Training body to support £20BN UK Agri-food industry

Datganiad gan gorff allanol nad yw ar gael yn y Gymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2017

Estyn allan i leihau hunan-niwed a hunanladdiad

Tra bo llawer o ymchwil wedi cael ei gwneud i hunan-niwed a hunanladdiad ymhlith pobl Ewrop ac America, ac mae dealltwriaeth o'r ffactorau risg, rydym yn gwybod llawer iawn llai am yr ymddygiadau hyn yn ne Asia, lle mae'r cyfraddau'n uchel iawn.

Mae Canolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas Prifysgol Bangor wedi derbyn grant clodwiw o gronfa ymchwil heriau byd-eang Cyngor Ymchwil y Deyrnas Unedig i weithio gyda chydweithwyr yn India a Phacistan i ymdrin â'r materion hyn. Bydd y project yn rhoi'r sgiliau i ymchwilwyr lleol y mae arnynt eu hangen i ddatblygu rhaglenni hir dymor i leihau marwolaeth, anabledd a thrallod.  Mae'r Grant Galluogi yn elfen allweddol yn strategaeth cymorth y DU i dyfu'r sylfaen ymchwil yn y DU a chryfhau gallu dramor. Y nod yw mynd i'r afael â sialensiau ymchwil sy'n ymateb i anghenion a fynegwyd mewn gwledydd sy'n datblygu.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2017

Prifysgol Bangor yn croesawu cyfle i weithio gyda darparwyr hyfforddiant niwclear

Croesawodd Prifysgol Bangor gyhoeddiad diweddaraf Horizon Nuclear Power o bartneriaeth gyda Tecnatom, darparwr gwasanaethau hyfforddiant niwclear byd-eang, wrth iddo feddwl am gynyddu nifer y gweithwyr gweithredol yn y dyfodol ar gyfer ei broject adeilad newydd Wylfa Newydd ar Ynys Môn, gogledd Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2017

Want to develop 'grit'? Take up surfing

Dyma erthygl yn Saesneg gan Rhi Willmot, myfyrwraig PhD yn yr Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2017

Project gwyddoniaeth Bangor yn ennill gwobr yr UE

Mae BREAD4PLA, project gwyddoniaeth a thechnoleg gwyrdd y mae ymchwil Prifysgol Bangor wedi bod yn rhan allweddol ohono, wedi ennill un o ddwy “wobr werdd” fel un o’r projectau Amgylchedd LIFE gorau a gyflwynwyd yn ystod y 25 mlynedd ddiwethaf.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2017

Eglwysi i sefydlu projectau dementia-gyfeillgar newydd ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru

Mae pum grŵp o eglwysi ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru wedi derbyn cyllid i ddatblygu projectau cymunedol dementia-gyfeillgar ac i weithio tuag at ddod yn "ddementia-gyfeillgar".

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mai 2017

Taith wyddonol 'Urgency' i asesu marwolaeth riffiau cwrel a achoswyd gan yr hinsawdd

Mae tîm o wyddonwyr dan arweiniad athro ym Mhrifysgol Bangor newydd ddychwelyd o daith wyddonol i Chagos, yr archipelago anghysbell lle nad oes fawr neb yn byw, yn Nhiriogaeth Brydeinig Cefnfor India.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2017

Deall rhwymedigaethau fisa’r DU wrth oruchwylio myfyrwyr rhyngwladol-Goruchwylwyr PhD

Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2016