Newyddion: Chwefror 2014

A fyddai cael rhagolygon tymhorol yn ein helpu i ymdopi â'r newid yn y tywydd?

Rydym wedi cael tywydd eithriadol o wlyb a gwyntog y gaeaf hwn, ac er bod pobl y tywydd yn llawer gwell o ran rhoi gwybod i ni beth y gallem ei ddisgwyl am y ddau neu dri diwrnod nesaf, maent yn dal i gael trafferth i wneud rhagolygon tymhorol am gyfnod hir.

Mae’r gwaith a wnaed ym Mhrifysgol Bangor ers y 1970au wedi cyfrannu'n sylweddol at y modelau a ddefnyddir i wneud rhagolygon o'r hinsawdd.  Mae'r gwaith wedi canolbwyntio ar ddeall cynnwrf morol yn ystod y ddau ddegawd diwethaf. Ers 2007 mae'r grŵp Ffiseg Môr yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion wedi ennill dros £6 miliwn mewn cyllid ymchwil i ddatblygu eu gwaith ymhellach.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2014

Rhwydwaith Ymchwil Genedlaethol Sêr Cymru ar gyfer Carbon isel, Ynni a’r Amgylchedd

Penodi Cyfarwyddwr Rhwydwaith Ymchwil Genedlaethol Sêr Cymru ar gyfer Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd dan ofal Llywodraeth Cymru

Dyddiad cyhoeddi: 24 Chwefror 2014

Diogelu bwyd môr trwy reoli ein moroedd

Oherwydd y pryderon cynyddol ynglŷn â ‘diogelwch bwyd’ i’r DU, ochr yn ochr â’r lleihad mewn buddsoddiad cyhoeddus mewn ymchwil i bysgodfeydd, mae rhai wedi cwestiynu sut y gallwn ateb anghenion am wybodaeth yn y dyfodol, fel y gellir rheoli ein moroedd mewn modd cynaliadwy.

Mae gwyddonwyr yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn dadlau nad oes digon yn wybyddus ynglŷn â physgodfeydd sgolopiau yn y DU, a hynny er gwaethaf eu pwysigrwydd cynyddol i’r sector pysgodfeydd yn y DU.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2014

Gwella gofal canser trwy ofal sylfaenol

Mae'r ddau ohonom yn hynod o ffodus i weithio fel meddygon teulu yng ngogledd Cymru ac fel ymchwilwyr yng Nghanolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru Prifysgol Bangor, lle'r ydym yn arwain projectau ymchwil i wella gofal canser yng Ngogledd Cymru. Rydym yn cydweithio'n agos â meddygon a nyrsys mewn meddygfeydd teulu ac yn ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar raglen waith o'r enw "Diagnose Quickly, Follow Up Safely". Cawn ein hysbrydoli'n barhaol yn ein gwaith gan ein cysylltiad â chleifion yn ein meddygfeydd. Mae ein holl waith yn canolbwyntio ar ddylanwadu ar ymarfer clinigol neu bolisïau sy'n ymwneud â chanser.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2014

Cleifion gyda chanser y geg a chanser yr oesoffagws yn oedi mwy cyn mynd i weld eu meddyg teulu

Mae pobl gyda chanser y geg a chanser yr oesoffagws yn oedi mwy ar ôl sylwi ar eu symptomau cyn mynd i weld eu meddyg teulu o'u cymharu â chleifion gyda mathau eraill o ganser, yn ôl ymchwil* a gyhoeddwyd yn yr  International Journal of Cancer, heddiw (dydd Mawrth).

 

Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2014

Cymru yn perfformio gryn dipyn yn well na'r disgwyl o ran ymchwil, effeithlonrwydd ac effaith

Mae defnydd Cymru o gyllid ymchwil yn gynhyrchiol ac yn effeithlon iawn, gan wneud yn well o lawer na gwledydd cymharol o faint tebyg, yn ôl adroddiad annibynnol a lansiwyd heddiw (6.2.14).

Wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a phrifysgolion Cymru, roedd ‘Perfformiad Cymharol Rhyngwladol Sail Ymchwil Cymru 2013', a wnaed gan Elsevier, yn edrych ar sail ymchwil prifysgolion, sefydliadau ymchwil, diwydiant a'r GIG yng Nghymru ac yn cymharu eu cyfraddau cyhoeddi a'u heffaith â gwledydd cymharol er mwyn dangos buddion ac elw buddsoddiad cyhoeddus ym maes ymchwil prifysgolion.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2014

Cynhadledd i drafod cyfraith hawlfraint a cherddoriaeth mewn iaith leiafrifol

Cynhelir cynhadledd ddwyieithog arbennig ym Mangor i drafod datblygiadau diweddar ym maes cyfraith hawlfraint ac effaith y gyfraith ar gerddoriaeth mewn iaith leiafrifol.

Trefnir y gynhadledd  ‘Casglu a Gwarchod: Hawlfraint yn yr 21ain Ganrif a Cherddoriaeth Mewn Ieithoedd Lleiafrifol’ gan Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor ac fe’i cynhelir yn Neuadd Reichel ar Ddydd Iau 13eg Chwefror, 9.30am-4.00pm.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2014

Cleifion canser yn derbyn diagnosis cynt

Bu i'r amser a gymerwyd i wneud diagnosis o rai o'r canserau mwyaf cyffredin – o'r pwynt pan fo claf yn rhoi gwybod am symptom posibl i'w Meddyg Teulu – ostwng bum niwrnod ar gyfartaledd ymhlith oedolion, a hynny mewn ychydig dan ddegawd, yn ôl ymchwil* a gyhoeddwyd yn y 'British Journal of Cancer', heddiw (dydd Mercher 5 Chwefror 2014).

Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2014

Prifysgol Bangor yn y 7fed safle yn y DU am ymchwil Amaethyddol-dechnolegol

Gosodwyd Prifysgol Bangor yn 7fed yn y DU, ac yn 1af yng Nghymru, am yr effaith a gafodd ei chyhoeddiadau ar ei hymchwil amaethyddol-dechnolegol yn yr arolwg pwysig a gynhaliwyd yn ddiweddar ar gyfer Llywodraeth y DU, “Encouraging a British Invention Revolution: Sir Andrew Witty’s Review of Universities and Growth”.

 

Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2014