Newyddion: Gorffennaf 2014

Sefydliad Astudiaethau Cystadlu a Chaffael Ysgol y Gyfraith Bangor wedi ei henwebu am ddwy wobr effaith glodwiw

Unwaith eto, mae Sefydliad Astudiaethau Cystadlu a Chaffael Ysgol y Gyfraith Bangor wedi cyrraedd y rhestr fer o'r rownd derfynol ar gyfer Gwobrau Effaith ac Arloesi pwysig Prifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Gorffennaf 2014

Gwaith yn parhau ar Barc Gwyddoniaeth Menai

Bydd Parc Gwyddoniaeth Menai yn cymryd cam arall ymlaen yr wythnos hon wrth i waith archeoleg gychwyn ar y safle. Bydd y gwaith archaeoleg yn ffurfio rhan o’r cais cynllunio sydd i’w gyflwyno yn yr hydref. Mae’r cynllun, a fydd yn creu darpariaeth wyddonol o safon uchel ar gyfer busnesau a mentrau ymchwil yn gweithio at agor y drysau yn 2017.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Gorffennaf 2014

Y Gymraeg a Gwirfoddoli

Mae ymchwil gan Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor, a Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wedi tanlinellu pa mor bwysig ydyw cael sector gwirfoddol iach sydd yn medru diwallu anghenion Cymru ddwyieithog.  Mae’r ymchwil a wnaed ar ran Comisiynydd y Gymraeg yn tynnu sylw at bwysigrwydd denu gwirfoddolwyr dwyieithog i gynnig gweithgareddau a darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru.  Mae’r gwaith hefyd wedi tynnu sylw at  fannau lle gellid gwella ar y ddarpariaeth a’r cyfleoedd cyfredol.

 

Dyddiad cyhoeddi: 23 Gorffennaf 2014

Biotechnoleg ar gyfer Plaleiddiaid

Mae Prifysgol Bangor wedi ennill grant i ddatblygu plaleiddiad organig gan gyfuno'r arbenigedd a geir yn y Brifysgol Bangor a dau gwmni masnachol.  Gwneir y gwaith yng Ngholeg Gwyddorau Naturiol y Brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Gorffennaf 2014

Bwrw Golwg Newydd ar Glasur Rhyddiaith y Rhyfel Byd Cyntaf

Nos Lun, 28 Gorffennaf, ar drothwy canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, bydd yr Athro Gerwyn Wiliams yn cyflwyno rhaglen ddogfen ar S4C yn ailedrych ar un o’r nofelau gorau a ysgrifennwyd am gyflafan ryngwladol 1914-18.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Gorffennaf 2014

Cynhadledd ym Mangor yn trafod heriau’r cyfryngau

Fe fydd cadeirydd awdurdod S4C, Huw Jones, yn trafod yr heriau sy’n wynebu’r sianel mewn araith yng nghynhadledd Cyfrwng ym Mhrifysgol Bangor ar 24-25 Gorffenaf.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Gorffennaf 2014

Help gan Blizzard

Gallai siacedi arbennig sydd wedi’u gwneud yng Nghymru helpu i gadw athletwyr Cymru’n gynnes pan fydd y gystadleuaeth yn poethi yn Glasgow.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Gorffennaf 2014

Gwobrwyo Effaith a Menter ym Mhrifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi gwobrwyo ei hacademyddion gorau a mwyaf blaengar yn ail Noson Wobrwyo Effaith ac Arloesi flynyddol y Brifysgol.

Mae’r Gwobrau’n cydnabod gwaith ymchwil a mentergarwch o ragoriaeth ar draws y sefydliad cyfan, sydd wedi gwneud cyfraniad o bwys tuag at wella lles economaidd a chymdeithasol Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2014

Ysgolhaig yn dychwelyd i’w mamwlad i drafod Chwedlau Arthuraidd

Mae academydd a syrthiodd mewn cariad â llenyddiaeth Arthuraidd tra’n fyfyriwr israddedig yn Rwmania yn dychwelyd i'w mamwlad i gyflwyno ei hymchwil diweddaraf mewn cynhadledd ryngwladol lle bydd arbenigwyr Arthuraidd o bob cwr o'r byd.

Mae Cyngres y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol yn cael ei gynnal gan y Ganolfan Astudiaethau Canoloesol ym Mhrifysgol Bucharest, Romania, ym mis Gorffennaf (20-27 Gorffennaf 2014).

Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014

Mae caethwasiaeth yn drosedd- nid cyfrifoldeb prynwyr yw ei wrthwynebu

“Nid dewis y prynwr yw cefnogi caethwasiaeth. Mae ’n drosedd yn erbyn y ddynoliaeth.”  Dyna eiriau Dr Nicola Frith, Darlithydd mewn Ffrangeg ac arbenigwraig mewn Astudiaethau Ôl-drefedigaethol a Chaethwasiaeth Ffrengig yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Bangor.

 

Dyddiad cyhoeddi: 4 Gorffennaf 2014

Cwpan y Byd 2014: Mae ennill gornest gicio o'r smotyn yn gofyn am wytnwch meddwl: ond yn ffodus, mae'n rhywbeth y gellir ei ddysgu

Mae'r gornestau cicio o'r smotyn, sy'n penderfynu tynged gêm, wedi dechrau yng Nghwpan y Byd 2014.  Ar ôl dwy awr o chwarae sy'n dreth gorfforol ac emosiynol ar y chwaraewyr, rhaid iddynt sefyll mewn rhes a fesul un, herio'r gôl geidwad o'r smotyn. Mae canlyniad cic o'r smotyn yn creu arwyr a dihirod, ac mae unrhyw un sy'n gwylio - p'un a ydyn nhw'n cefnogi un o'r timau sy'n chwarae ai peidio - yn gallu cydymdeimlo á'r chwaraewyr hynny.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2014

Profi’r dŵr ... Fferyllwyr yn gwirio lefelau metel mewn dŵr yfed

Bu timau o gemegwyr ifainc o ysgolion yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru a’r gororau yn chwarae rôl cemegwyr fforensig yn gwirio’r cynnwys metel mewn samplau o ddŵr wrth iddynt gystadlu yn rownd derfynol ranbarthol Cystadleuaeth y Gymdeithas Gemeg Frenhinol ar gyfer Dadansoddwyr o Ysgolion a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor. 

Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2014