Newyddion: Awst 2014

Bwyta'n iach yn ysgolion arbennig Sir Ddinbych

Cyngor Sir Ddinbych yw’r Cyngor cyntaf yng Nghymru i arbrofi’r rhaglen bwyta’n iach Food Dudes.  Gyda chymorth gan Dîm Iechyd y Cyhoedd Gogledd Cymru a Phrifysgol Bangor fe lansiwyd y rhaglen mewn dwy ysgol arbennig yn y sir, Ysgol Tir Morfa yn y Rhyl ac Ysgol Plas Brondyffryn.                                                          

Dyddiad cyhoeddi: 21 Awst 2014

Dr Stefan Machura yn cael ei ethol i fwrdd ymchwil y Gymdeithas Gymdeithasegol Ryngwladol

Yn ddiweddar, cafodd Stefan Machura, sef uwch Darlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, ei ethol i fwrdd y Pwyllgor Ymchwil ar Gymdeithaseg y Gyfraith, sydd yn adran o’r Gymdeithas Gymdeithasegol Ryngwladol.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Awst 2014

Digwyddiad Ymgynghori yn dod a'r Parc gam yn nes

Mae prosiect Parc Gwyddoniaeth Menai yn parhau i symud ymlaen a bydd yn ymgynghori ar gynlluniau yn y Gaerwen ar y 1af o Fedi. Mae trigolion yn cael eu gwahodd i ddod draw i weld y syniadau cychwynnol.

 

Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2014

Ffrydio – yr ateb i'r cwymp yng ngwerthiant cerddoriaeth Gymraeg

Yn ôl ymchwil a wnaed  ar y cyd yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau ac Ysgol Busnes Bangor, ffrydio yw'r ateb os yw cwmnïau recordiau'n mynd i atal a gwrthdroi'r gostyngiad a welir yng ngwerthiant cerddoriaeth Gymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2014

Merched Cymreig yn ennill gwobr am lwyddiannau mewn menter gymdeithasol

Mae Victoria Burrows, Sandy Ackers, Annie Donavan ac Alison Hill wedi ennill y wobr bwysig Network She Women in Education Award 2014.  Maent ymysg y myfyrwyr cyntaf i gwblhau gradd Meistr mewn Menter Gymdeithasol gan ragori yn eu swyddi prysur yr un pryd.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2014

Prifysgol Bangor yn dangos y gall gwybodaeth deithio o blant i oedolion

A new study by Bangor scientists shows that environmental education can positively influence the knowledge and attitudes of children.  The paper, published in the journal Animal Conservation, also shows that knowledge gained by children about lemur conservation can be transferred to their parents

Dyddiad cyhoeddi: 14 Awst 2014

Sut cafodd y neidr ei gwenwyn

Mae gwenwyn nadredd heddiw yn gymysgedd o ddwsinau o wahanol broteinau ac mae'n enghraifft o newid esblygol - nodwedd newydd sydd wedi ymddangos mewn grŵp penodol o anifeiliaid ac sydd wedi cyfrannu at eu llwyddiant. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn deall sut y daeth y nodweddion newydd hyn i fod er mwyn deall patrymau esblygu mwy ymhlith anifeiliaid a gall daflu goleuni pwysig ar sylfaen enetig gwahaniaethau rhwng rhywogaethau, gyda goblygiadau amlwg ar gyfer effeithiolrwydd triniaethau i bobl sydd wedi cael eu brathu gan nadredd gwenwynig, lle mae cyfansoddiad y gwenwyn yn amrywio o fewn a rhwng rhywogaethau.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2014

Gwella diogelwch bwyd yn Ethiopia: Rôl amaeth-goedwigaeth

Yn ddiweddar rhyddhawyd ffilm fer a gynhyrchwyd gan Brifysgol Bangor a'r World Agroforestry Centre (ICRAF) ac mae ar gael ar YouTube. 

Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2014

Mannau nodedig am eu bioamrywiaeth o dan fygythiad wrth i goedwigoedd gael eu cwympo

Mae ardaloedd sy'n wynebu'r datgoedwigo mwyaf ar y blaned ar hyn o bryd wedi cael eu hadnabod fel mannau fu'n arbennig o bwysig yn hanes esblygol bioamrywiaeth hynod De ddwyrain Asia.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2014

Symposiwm Ymchwil Meddyginiaethau Gogledd Cymru 2014

Mae Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau, Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar y cyd yn cynnal Symposiwm Ymchwil Meddyginiaethau Gogledd Cymru 2014 yng Ngwesty Kinmel Manor, Abergele ar y 4ydd o Fedi (bwffe o 6.30yh).

Dyddiad cyhoeddi: 5 Awst 2014

Porthiant gwartheg neu fionwy? Astudiaeth Prifysgol Bangor yn dangos manteision ac anfanteision amgylcheddol o gynhyrchu bionwy ar ffermydd llaeth

Mae diddordeb cynyddol mewn prosesau treuliant anaerobig (TA) ar ffermydd yn y DU er mwyn rheoli tail anifeiliaid a gwastraff bwyd, a chynhyrchu trydan a gwres adnewyddadwy trwy losgi bionwy.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Awst 2014