Newyddion: Mai 2015

Camau i wella cyfraddau goroesi canser yng Nghymru

Gallai canfyddiadau astudiaeth fanwl newydd ar ganser ddangos ffyrdd o wella cyfraddau goroesi canser yng Nghymru. 

Canlyniadau'r astudiaeth ddiweddaraf gan y Bartneriaeth Meincnodi Canser Rhyngwladol (ICBP), a ddatgelwyd heddiw yng nghyfnodolyn y BMJ Open, yw'r cyntaf i ddangos bod cydberthynas rhwng parodrwydd meddygon teulu i gynnal archwiliadau'n ymwneud â chanser - naill ai'n uniongyrchol neu drwy gyfeirio'r claf at ofal eilaidd - a goroesi canser. Mae’r astudiaeth yn dangos hefyd fod meddygon teulu ym Mhrydain ac yng Nghymru, mewn arolwg ar lein yn defnyddio enghreifftiau o achosion clinigol, yn llai tebygol o gyfeirio neu archwilio cleifion â symptomau canser posibl pan fyddant yn dod atynt gyntaf, o'u cymharu â'r gwledydd eraill lle cynhaliwyd yr astudiaeth: Awstralia, Canada, Denmarc, Norwy a Sweden. 

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2015

Hwb ariannol i Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth

Mae Prifysgolion Bangor, Caerdydd ac Abertawe wedi derbyn cyllid gwerth £2,249,927 yn ddiweddar gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (NISCHR gynt) i arwain y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR), sef Canolfan Ymchwil  Cymru gyfan.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2015

Cristnogion cynnar o Iwerddon a’r Alban yn wladychwyr cyntaf Ynys yr Iâ

Datgelir mewn gwaith archeolegol sydd newydd ei gyhoeddi nad Llychlynwyr o Sgandinafia oedd trigolion cyntaf Ynys yr Iâ ond, yn hytrach, ymfudwyr o Iwerddon neu lannau gorllewinol yr Alban. Mae pobl Ynys yr Iâ wedi ymddiddori ers amser maith yn yr ymfudwyr cynnar a sefydlodd eu cenedl - un o'r ynysoedd ieuengaf yn y byd i gael ei gwladychu - ac mae eu llyfrau hanes a'u chwedlau ar hyd y canrifoedd wedi datgan mai Llychlynwyr oedd preswylwyr cyntaf yr ynys.

Hefyd, mae erthygl yn y Saesneg, "Viking beaters: Scots and Irish may have settled Iceland a century before Norsemen"  wedi ei gyhoeddi ar The Conversation heddiw gan Kristjan Ahronson. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2015

Iechyd da i'r gwyliau

Mae gofyn i bobl beth maent yn ei yfed ar wyliau ac achlysuron arbennig eraill yn dangos bod oddeutu 12 miliwn yn fwy o boteli o win yr wythnos yn cael eu hyfed yn Lloegr nag y tybiwyd yn flaenorol. Nid yw'r arolygon blaenorol ar faint o alcohol a yfir wedi rhoi ystyriaeth i'r holl alcohol a werthir. Ymddengys bod ymchwil a ariannwyd gan Alcohol Research UK ac a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn mynediad agored BMC Medicine, wedi cael hyd i'r 'unedau coll' hyn. 

Hefyd, mae erthygl yn y Saesneg, "England's missing booze: 12 million more bottles drunk per week than previously thought" wedi ei gyhoeddi ar The Conversation heddiw gan Mark Bellis, Prifysgol Bangor a Christine Griffith, University of Bath. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd.


Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2015

LEAD Cymru yn Dathlu gyda Chinio Gwobrwyo

Cynhaliwyd Gwobrau LEAD Cymru yn Venue Cymru ar 14eg Mai. Roedd 268 o gynrychiolwyr yn bresennol yn y seremoni wobrwyo arbennig hon - pob un ohonynt wedi cwblhau rhaglen LEAD Cymru ym Mhrifysgol Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2015

Datblygiad Cynllunio ar gyfer Parc Gwyddoniaeth Menai

Mae Prifysgol Bangor yn croesawu’r newyddion fod Parc Gwyddoniaeth Menai Cyf (M-SParc) wedi derbyn caniatâd cynllunio amlinellol gan Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer datblygiad pwrpasol M-SParc.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015

Gwobr nodedig yr Academi Brydeinig i ddarlithydd Bangor

Mae'r darlithydd o Brifysgol Bangor, Dr Helena Miguélez-Carballeira, o'r Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern, wedi derbyn bron i £90,000 i gynnal project a fyddai'n cyflwyno achos dros astudio diwylliant a gwleidyddiaeth gyfoes Sbaen o safbwynt ôl-wladychol.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015

Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ar led

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015

Bangor yn helpu i drechu'r bwlis

 Ymchwilwyr yn y Ganolfan Ymyrraeth ar sail Tystiolaeth (CEBEI), sy'n rhan o'r Ysgol Seicoleg, oedd y rhai cyntaf ym Mhrydain i werthuso effeithiolrwydd rhaglen gwrth-fwlio KiVa a grëwyd yn y Ffindir.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2015

Prifysgol Bangor a Siemens Healthcare Diagnostics yn llofnodi memorandwm i gydweithio yn y dyfodol

Mae Prifysgol Bangor a Siemens Healthcare Diagnostics wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth ffurfiol a fydd yn galluogi'r ddau sefydliad i gydweithio'n agosach yn y blynyddoedd i ddod.  

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mai 2015

Gweithdy llwyddiannus am yrfaoedd yn y diwydiant niwclear

Daeth dros 70 o fyfyrwyr o nifer o wahanol ddisgyblaethau yn cynnwys peirianneg, cemeg, gwyddor amgylcheddol, busnes, y gyfraith, seicoleg a daearyddiaeth at ei gilydd mewn gweithdy a gynhaliwyd yn ddiweddar ym Mhrifysgol Bangor i ddysgu am yrfaoedd yn y diwydiant niwclear. Cynhaliwyd y gweithdy mewn partneriaeth â Horizon Nuclear Power, National Skills Academy for Nuclear (NSAN), a'r rhaglen Nuclear Graduates Programme. 

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2015

HPC Cymru i arwain rhwydwaith HPC Ewropeaidd

Mae Cyfrifiadura Perfformiad Uchel (HPC) Cymru, gyda chymorth gan Brifysgol Bangor, wedi ei ddyfarnu â grant gan y Comisiwn Ewropeaidd dan raglen Ymchwil ac Arloesi Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd i arwain Rhwydwaith Canolfannau Cymhwysedd HPC Ewrop ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig.

Bydd y Rhwydwaith unigryw’n hyrwyddo mynediad at gyfleusterau cyfrifiadurol, yn cronni arbenigedd ac adnoddau ledled Ewrop ac yn rhannu arferion gorau o ran defnydd diwydiannol HPC, yn codi ymwybyddiaeth o fanteision HPC ac yn cyfrannu tuag at weithrediad y Strategaeth HPC Ewropeaidd. 

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2015

Academydd Prifysgol Bangor yn siarad mewn gŵyl athroniaeth a cherddoriaeth mwya'r byd

Bydd David Healy o Goleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad Prifysgol Bangor yn siarad yn HowTheLightGetsIn, gŵyl gerddoriaeth ac athroniaeth fwyaf y byd ym mis Mai eleni. 

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2015

Gall dirywiad mewn niferoedd llysysyddion mawr arwain at “dirwedd wag,” meddai gwyddonwyr

Mae dirywiad mewn niferoedd llysysyddion mawr y byd, yn arbennig yn Affrica a rhannau o Asia, yn arwain at bryder o 'dirwedd wag' mewn rhai o'r ecosystemau mwyaf amrywiol ar y blaned. Mae llawer o boblogaethau o anifeiliaid fel rhinoserosiaid, sebras, camelod, eliffantod a thapiriaid yn gostwng neu mae perygl iddynt ddiflannu'n gyfan gwbl mewn tiroedd glaswellt, safanau, diffeithdir a choedwigoedd, meddai gwyddonwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2015