Newyddion: Rhagfyr 2015

Chwarae rhan o bwys yng Ngwarchodfa Fôr fwyaf y byd

Mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan bwysig wrth reoli Gwarchodfa Fôr fwyaf y byd.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2015

Mae "pwll bach Darwin" yn dangos sut y gall rhywogaethau newydd ymddangos heb wahanu daearyddol

Mae pysgod cichlid o grater folcanig wedi eu dal yn y weithred o ffurfio rhywogaeth newydd yn yr un ardal ddaearyddol

Ydy'n wir y gall rhywogaeth newydd esblygu os nad oes ffin ffisegol i ysgogi gwahanu genetig? Ymddengys bod tystiolaeth ffisegol a genomig o grater folcanig Llyn Massoko sy'n 700 medr ar draws wedi cofnodi'r broses wrth iddi ddigwydd. 

Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2015

Math newydd o reis, Ashoka, yn dod â diogelwch bwyd i filiynau

Mae rhyw filiwn o dyddynwyr a’u teuluoedd yn nwyrain a gorllewin India yn mwynhau gwell sicrwydd bwyd, diolch i ymchwilwyr Prifysgol Bangor yng Nghymru.

Mae sicrwydd bwyd yn rhywbeth sy’n cael ei drafod yn aml. Y gwir yw y gall sicrwydd bwyd gael effaith sylweddol ar fywydau pobl, a gellir ei wireddu drwy wahanol ffyrdd.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2015

Dyfodol pryd y gallai lensys cyffwrdd ‘deallus’ ddarogan eich risg o gael annwyd cyffredin: Gwrthgyrff hylif dagrau a’r annwyd cyffredin

Pam y gall rhai pobl fynd trwy gydol y gaeaf heb yr arwyddion lleiaf o annwyd, tra bo eraill fel pe baent yn cael pob annwyd sy’n mynd o gwmpas?

Yn ôl astudiaeth newydd gan Grŵp Ymchwil Prifysgol Bangor i Eithafion yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, gallai fod modd rhagweld y tebygolrwydd i gyfranogwyr gael annwyd cyffredin trwy ddadansoddi lefel y gwrthgyrff mewn hylif dagrau.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2015

Gwobrau Ymchwil ac Effaith yr Is-ganghellor

Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2015

Partneriaeth Hyfforddi Ddoethurol Envision a gyllidir gan NERC

Mae Prifysgol Bangor yn aelod o Bartneriaeth Hyfforddi Ddoethurol Envision a gyllidir gan NERC (http://www.envision-dtp.org/), ynghyd â Phrifysgolion Lancaster a Nottingham, a'r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, Arolwg Daearegol Prydain a Rothamsted Research.  

 

Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2015

Gall paciau cefn bychan i wenyn roi gwybodaeth hanfodol

Mae project newydd cyffrous ar y gweill ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd i ddefnyddio ynni trydanol y gwenyn ei hun wrth greu teclyn ysgafn sy'n gweithredu dros gryn bellter i ddilyn hynt gwenyn.

Mae poblogaethau gwenyn, sy'n hanfodol i beillio planhigion a choed, yn dirywio'n gyflym ar hyn o bryd o ganlyniad i sawl peth, yn bla-leiddiaid a gwiddon varroa i enwi ond dau. 

Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2015

Pontio yn galw ar wyddonwyr ac artistiaid

Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2015

Project ymchwil ac arloesi bioburo gwerth £12m gyda chefnogaeth yr UE yn cael y golau ‘gwyrdd’

Mae buddsoddiad newydd gwerth £12 miliwn ar gyfer economi 'gwyrdd' Cymru wedi ei gyhoeddi gan Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2015

Bath poeth wedi ymarfer corff yn gwella perfformiad mewn gwres

Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Bangor yn dangos bod cael bath poeth wedi ymarfer corff am chwe diwrnod yn olynol yn gostwng tymheredd y corff wrth orffwys ac wrth ymarfer ac yn gwella perfformiad wrth redeg mewn gwres. Meddai’r Athro Walsh, sy’n arwain y tîm a arweiniodd y gwaith:  “I berfformwyr athletaidd sy’n cystadlu mewn gwres, mae strategaeth ‘ymarfer claer, ymdrochi poeth’ yn cynnig ffordd i ymdopi â gwres.”

Dyddiad cyhoeddi: 11 Rhagfyr 2015

When languages die, we lose a part of who we are

This article by Anouschka Foltz, Lecturer in Psycholinguistics, at the School of Lingusitics & English Language was originally published on The Conversation. Read the original article.


The 2015 Paris Climate Conference (COP21) is in full gear and climate change is again on everyone’s mind. It conjures up images of melting glaciers, rising sea levels, droughts, flooding, threatened habitats, endangered species, and displaced people. We know it threatens biodiversity, but what about linguistic diversity?

Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2015

Datrys y cyswllt rhwng iaith ac ystyr

Mae ysgolhaig o Brifysgol Bangor yn trafod y cyswllt rhwng iaith ac ystyr mewn llyfr newydd sydd wedi ei gyhoeddi gan Cambridge University Press.

Yn The Crucible of Language, mae’r Athro Vyv Evans yn cyflwyno’r canfyddiadau diweddaraf i esbonio’r hyn yr ydym yn ei wybod, a’r hyn yr ydym yn ei wneud, wrth gyfathrebu gan ddefnyddio iaith. Mae’n dangos sut y mae ystyr ieithyddol yn codi, o ble y daw, a’r modd y mae iaith yn ein galluogi i gyfleu ystyriaethau a all ein cyffwrdd hyd ddagrau, ein blino hyd syrffed, neu ein gwirioni’n lân.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Rhagfyr 2015

Graddedigion Prifysgol Bangor yn uchel eu parch ymysg prif gyflogwyr

Mae Prifysgol Bangor yn ymddangos ymysg y 40 prifysgol orau yn y DU o ran cynhyrchu’r graddedigion gorau yn ôl arolwg rhyngwladol a gyhoeddwyd gan gylchgrawn y Times Higher.

Datgelodd yr arolwg, a ganolbwyntiodd yn bennaf  ar fusnesau a chwmnïau technoleg gwybodaeth a pheirianneg, pa brifysgolion yw’r rhai mwyaf poblogaidd ac uchel eu parch o ran darparu myfyrwyr o safon uchel i’w recriwtio.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Rhagfyr 2015

Yr Athro Dean Williams yn dylanwadu ar Ganllawiau NICE

Mae clefyd diabetig y traed yn broblem gynyddol ac yn faich sylweddol ar ddarpariaeth gofal iechyd ledled y byd. Mae briwiau traed yn gallu arwain at gymhlethdodau difrifol, yn cynnwys colli coesau a thraed, sydd â goblygiadau personol ac economaidd-gymdeithasol difrifol. Amcangyfrifwyd bod y gost o ofal dros glefyd diabetig y traed yn Lloegr yn 2010–2011 yn £580m.

 

Dyddiad cyhoeddi: 8 Rhagfyr 2015

Prifysgol Bangor yn gwobrwyo effaith eithriadol ei gweithgareddau ymchwil a menter

Dyfarnwyd gwobrau i brojectau ymchwil ym Mhrifysgol Bangor sydd wedi rhoi budd i  gymunedau yn lleol ac yn fyd-eang, wrth i Brifysgol Bangor gynnal ei thrydedd Noson Wobrwyo Effaith ac Arloesi ar 3 Rhagfyr.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2015

Israddedig Cyfleoedd Interniaeth- Y profiad PhD

Dyddiad cyhoeddi: 2 Rhagfyr 2015

Prifysgol Bangor yn Cynnal Seminar i drafod Adweithydd Dŵr Berwedig Uwch

Mae Bangor yn falch o gyhoeddi mai hi yw'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i gynnal seminar technegol ar yr Adweithydd Dŵr Berwedig Uwch  - y dechnoleg a fydd yn cael ei defnyddio gan Horizon Nuclear Power yn Wylfa Newydd ar Ynys Môn.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Rhagfyr 2015