Newyddion: Ionawr 2017

SCAC yn cynorthwyo’r Undeb Ewropeaidd i weithredu y Ddeddf Busnesau Bach yn dilyn llwyddiant grant enfawr

Mae Sefydliad Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffael (SCAC) Ysgol y Gyfraith Bangor wedi cael gwybod yn ddiweddar ei bod wedi llwyddo i gael grant enfawr dan gronfa COSME yr Undeb Ewropeaidd.  Cronfa yw hon i godi’r awydd i gystadlu ymysg mentrau busnes bach a chanolig yn yr Undeb Ewropeaidd, ac i gynorthwyo’r UE i weithredu anghenion y Ddeddf Busnesau Bach (mae hwn yn fframwaith ar gyfer polisi’r UE i fusnesau bach a chanolig).

Dyddiad cyhoeddi: 27 Ionawr 2017

Technoleg Gymraeg yn Hwb i’r Economi

Gall technolegau arloesol Cymraeg fod yn hwb i economi gogledd Cymru – dyna oedd un o brif negeseuon Cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg. Roedd y gynhadledd, a gynhaliwyd  yn ddiweddar (20 Ionawr) yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Prifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2017

ICC expands definition of war crimes to cover combatants in the same armed forces

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Yvonne McDermot  o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2017

Cydweithio i ddatblygu a gweithredu Rhaglen Nyrs Gyswllt newydd i Atal Heintiau

Sefydlwyd project newydd ar y cyd rhwng Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddatblygu rhaglen newydd i hyrwyddo arfer gorau mewn atal heintiau. 

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2017

Child victim or brutal warlord? ICC weighs the fate of Dominic Ongwen

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Yvonne McDermott  o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 12 Ionawr 2017

Dyblu cynhyrchu pysgod a chadw bioamrywiaeth - a ellir ei wneud?

Gall consortiwm newydd i sefydlu Canolfan Datblygu Dyframaeth Genedlaethol yn Tanzania, syd yn cynnwyd Profysgol Bangor, helpu i ymdrin â thlodi a diffyg maeth

Mae gan Tanzania, sydd efallai yn fwyaf adnabyddus am y saffarïau ar hyd y gwastadeddau maith ac agored, gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer bywyd gwyllt dŵr croyw bach iawn sydd â photensial enfawr heb ei gyffwrdd.

 Mae'r tilapia, sef y pysgodyn a ffermir fwyaf drwy'r byd ar wahân i'r carp, yn byw mewn niferoedd mawr yn y Llynnoedd Mawr (Victoria, Tanganyika, Malawi/Nyasa) sy'n gorchuddio chwech y cant o'r wlad. Ystyrir y llynnoedd yn fannau pwysig o ran bioamrywiaeth fyd-eang, maent yn un o ddim ond 25 drwy'r byd, oherwydd y cannoedd o rywogaethau'r pysgod ciclidiaid, yn cynnwys rhywfaint o'r 30 o isrywogaethau tilapia sydd yn Tanzania.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2017

Lansio Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Bangor

Bydd Prifysgol Bangor yn dechrau'r flwyddyn newydd gyda lansiad Canolfan Astudiaethau Arthuraidd newydd ddydd Gwener, 20 Ionawr, wrth i Gymru ddechrau dathlu Blwyddyn Chwedloniaeth. Trwy gydol 2017 cynhelir digwyddiadau mewn safleoedd hanesyddol ar hyd a lled Cymru i ddathlu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y wlad. 

Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2017

Combining daycare for children and elders benefits all generations

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Catrin Hedd Jones  o’r Ysgol Gwyddorau Iechyd sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Ionawr 2017

Gall ymdrechion gan gwmnïau mawr i ddiogelu bioamrywiaeth helpu neu niweidio pobl leol?

Pan fydd datblygiad diwydiannol mawr, fel mwyngloddiau, yn mynd i gael effaith anochel ar fioamrywiaeth, gall y cwmni fuddsoddi mewn diogelu (neu hyd yn oed creu) cynefin yn rhywle arall i wneud iawn. Gelwir hyn yn gwrthbwyso bioamrywiaeth ac mae'n syniad sy'n ennill cefnogaeth gynyddol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Ionawr 2017