Newyddion
- Newyddion diweddaraf
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Holl Newyddion A–Y
Newyddion: Tachwedd 2013
Gwyddonwyr Bangor yn cyfrannu at ymdrechion i leihau dinistr amgylcheddol a thlodi ym Madagascar
Mae Prifysgol Bangor yn arwain astudiaeth ymchwil ar sut mae tlodi'n cysylltu'n agos â chyflwr yr amgylchedd mewn gwledydd megis Madagascar. Nod y project ymchwil yw helpu i ddeall y cysylltiadau rhwng tlodi a dinistrio coedwigoedd glaw trofannol ac mae'n dod â gwyddonwyr o Madagascar, y Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau a'r Iseldiroedd at ei gilydd.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2013
Project arloesol i sganio ymennydd siopwyr
Bydd ymateb siopwyr i’r math o hyrwyddiadau a chynigion arbennig a geir mewn archfarchnadoedd yn cael ei archwilio mewn sganiwr yr ymennydd mewn project arloesol mawr gan un o arbenigwyr ymddygiad siopa mwyaf blaenllaw Ewrop, ynghyd ag arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2013
Buddsoddi yn y gweithlu gwasanaethau iechyd i bobl hŷn - dechrau astudiaeth ymchwil bwysig
Mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn arwain ar astudiaeth ymchwil bwysig a gyllidir gan Raglen Cyflenwi Gwasanaethau'r Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd. Mae'r project hwn yn ymchwilio i ba ymyriadau datblygu gweithlu sy'n fwy tebygol o weithio i sicrhau gweithlu cefnogi gwybodus a medrus i bobl hyn mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2013
Cynnig dull newydd integredig o wneud ymchwil er mwyn datblygu sychdiroedd y byd
Mae dros 40% o arwynebedd tir y byd yn sychdir. Mae sychdiroedd yn gartref i 2.5 biliwn o bobl - bron i draean o boblogaeth y byd. Mae pobl mewn rhanbarthau sych yn gorfod ymdopi â diraddio amgylcheddol difrifol ac amrywioldeb cynyddol yn yr hinsawdd ac mae cyfraddau twf y boblogaeth sydd ymysg yr uchaf yn y byd yn gwaethygu'r sefyllfa. Mae papur sy'n torri tir newydd trwy gyflwyno dull newydd systemau integredig o wneud ymchwil amaethyddol yn y sychdiroedd wedi cael ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn Food Security yn ddiweddar (18.11.13).
Dyddiad cyhoeddi: 19 Tachwedd 2013
Un cam yn nes at yr archfarchnad ar gyfer project i droi glaswellt yn ddeunydd pacio bwyd
Mae treialon prototeip yn mynd rhagddo ar gyfer project sy’n cael ei harwain gan brifysgol a diwydiant i droi rhygwellt Cymreig yn ddeunydd pacio bwyd cynaliadwy.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Tachwedd 2013
Aelod o Staff Ysgol y Gyfraith, Bangor, wedi ennill Bwrsariaeth Arweinyddiaeth Mawreddog
Mae Gary Clifford, Cyfarwyddwr Sefydliad Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffael ym Mhrifysgol Bangor wedi ei ddyfarnu â Bwrsariaeth Arweinyddiaeth gan Academi Cymru, y Ganolfan Gwasanaeth Cyhoeddus ar gyfer Rhagoriaeth Arweinyddiaeth. Cafodd ei ddewis ar ôl proses hynod ddetholiadol, a dros y chwe mis nesaf, fe fydd yn cymryd rhan yn y rhaglen byd-arweiniol datblygu sgiliau.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2013
Gwneud defnydd llawn o blanhigion
Mae eiddew, sy’n tyfu’n helaeth yng Nghymru, yn un o nifer o blanhigion sy’n cael eu harchwilio am y cemegau mân ac echdynion a ffibrau gwerthfawr eraill maent yn eu cynnwys. Mae’r gwaith ymchwil yma’n cael ei gynnal mewn bioburfa ar Ynys Môn a allai gynnig model ar gyfer creu gwaith yng nghefn gwlad yn y dyfodol. Bwriad yr ymchwil yw chwilio am ddeunyddiau amgen i gymryd lle cynnyrch a chynhwysion sy’n deillio o olew crai a ddefnyddir yn y diwydiannau cynhyrchu ac adeiladu.
Canolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor sy’n gyfrifol am y gwaith yma o ddatblygu ffynonellau newydd ar gyfer cemegau mân a deunyddiau eraill. Mae’r Ganolfan yn canolbwyntio ar ganfod defnyddiau newydd ar gyfer adnoddau naturiol gwerthfawr sydd ar hyn o bryd yn cael eu hanwybyddu.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2013
Ysgol Busnes Bangor yn un o’r 15 uchaf yn y byd am ymchwil i fancio
Mae Ysgol Busnes Bangor nawr ymhlith y 15 sefydliad gorau yn y byd am ymchwil ym maes Bancio (Hydref 2013).
Dyddiad cyhoeddi: 7 Tachwedd 2013
£4.9 miliwn o bunnoedd i hyfforddi cenhedlaeth newydd o wyddonwyr amgylcheddol
Mae Prifysgol Bangor ar fin dechrau hyfforddi cenhedlaeth newydd o wyddonwyr amgylcheddol fydd yn cael eu paratoi i fynd i'r afael â sialensiau planed o dan bwysau fel rhan o fenter £4.9m a gyllidwyd gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC).
Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2013
Arloesi mewn hyfforddi'r lluoedd arfog
Tynnwyd sylw at broject sydd wedi trawsnewid hyfforddi recriwtiaid yn y Fyddin Brydeinig ac wedi arwain at newidiadau yn y ffordd y darperir yr hyfforddiant yn y tri llu arfog, ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar pan enillodd un o wobrau Menter ac Effaith cyntaf y brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2013
Cymry’n cymryd rhan mewn ymchwil i ddementia
Yn ôl canlyniadau astudiaeth ymchwil ar raddfa fawr a adroddodd yn gynharach eleni, bu lleihad yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf yn nifer y rhai sydd â dementia. Yn ôl y ffigurau yng nghyswllt Lloegr a nodwyd yn adroddiad yr Astudiaeth ar Weithrediad Gwybyddol a Heneiddio, ceir awgrym, o’u cymhwyso at y DU yn ei chrynswth, fod 214,000 yn llai o achosion o ddementia nag a ddaroganwyd. Byddai hyn hefyd yn awgrymu mai rhyw 670,000 o bobl sydd ar hyn o bryd yn byw yn y DU gyda dementia, yn hytrach na’r amcangyfrif o 800,000-900,000.
I helpu i ddeall y sefyllfa yng Nghymru, mae Prifysgol Bangor yn arwain y fersiwn Cymreig o’r ymchwil hon. Mae’r ymchwilwyr yn bwriadu cyhoeddi ystadegau penodol yr haf nesaf ar y niferoedd sydd â dementia yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2013
Cynhadledd ryngwladol, City Margins, City Memories, 7-8 Ebrill, 2014
Gan gydweithredu â’r Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Bangor, mae’r Ysgol Athroniaeth a Chrefydd wedi trefnu’r gynhadledd ryngddisgyblaethol ryngwladol, City Margins, City Memories, i’w chynnal ar 7-8 Ebrill, 2014 yn Ysgol Astudiaeth Uwch Prifysgol Llundain, Senate House, Llundain.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2013