Newyddion
- Newyddion diweddaraf
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Holl Newyddion A–Y
Newyddion: Rhagfyr 2013
A all gosod negeseuon ar sigarennau ein darbwyllo i beidio ag ysmygu?
Bu dau academydd o Ysgol Fusnes enwog Prifysgol Bangor wrthi’n defnyddio eu gwybodaeth o astudiaethau marchnata a rheolaethol er mwyn ymchwilio i gyfwng newydd o gyfleu’r neges dim ysmygu, sef y sigarét ei hun.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Rhagfyr 2013
Edrych ar sut mae ein hymennydd yn asesu ‘bargen’
Mae’n ymddangos nad ydym mor dda am adnabod ‘bargen’ a manteisio ar gynigion archfarchnadoedd ag yr ydym yn credu. Dyna awgrym canlyniadau cynnar astudiaeth a fu’n archwilio ymennydd siopwyr wrth iddynt ymgymryd â thasg ‘siopa’.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Rhagfyr 2013
Grŵp Amgylchedd Hanesyddol
Mae’r Grwp Amgylchedd Hanesyddol (GAH) yn gorff sydd yn cynghori’r Cynulliad ar amgylchedd hanesyddol Cymru, ac yn Nhachwedd 2013 cyfarfu ym Mhrifysgol Bangor. Mae nifer o aelodau staff o’r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg yn cyfrannu at y GAH, o dan arweiniad yr Athro Ray Karl.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2013
Cynhadledd yr G8 yn cyhoeddi project ymchwil gwerth £4 miliwn ynghylch gwella bywyd gyda dementia
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn £4 miliwn i arwain y project ‘Gwella profiad Dementia a gwella bywyd gweithgar: Byw'n dda gyda dementia’ (IDEAL). Cynhelir yr astudiaeth ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Brunel, Ysgol Economeg Llundain, King’s College Llundain, Prifysgol Sussex, y 'Research Institute for the Care of Older People (RICE)', y Gymdeithas Alzheimer ac 'Innovations in Dementia CIC'.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Rhagfyr 2013
Defnyddio modelau i ddeall hydrodynameg
Mae technoleg llanw a thonnau o’r diwedd wedi dechrau yn boblogaidd, ac mae Prydain yn arwain y byd ym maes ynni o’r tonnau a’r llanw. Mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad yr adnodd ynni adnewyddol bwysig hon. Fel y mae’r diwydiant yn symud tuag at fasnacheiddio ar raddfa fawr, mae arbenigwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion yn gweithio i gynyddu effeithlonrwydd dyfeisiau i’r eithaf.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Rhagfyr 2013
Astudiaeth yn cysylltu'r dotiau rhwng genynnau, yr ymennydd ac ymddygiad dynol
Cynllun cydweithredol rhyngwladol yn mapio marcwyr genetig datblygiad yr ymennydd mewn pobl gyda syndrom Williams
Mae sefydlu cysylltiadau rhwng genynnau, yr ymennydd ac ymddygiad dynol yn fater canolog mewn ymchwil ym maes niwrowyddoniaeth wybyddol, ond mae astudio sut mae genynnau'n dylanwadu ar alluoedd gwybyddol ac ymddygiad wrth i'r ymennydd ddatblygu o blentyndod i oedolaeth wedi bod yn anodd.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2013
Astudio gwenwyn nadredd wedi dilyniannu genom cyfan neidr wenwynig y Merchgobra
Am y tro cyntaf, mae gwyddonwyr sy’n astudio gwenwyn nadredd wedi dilyniannu genom cyfan neidr wenwynig, y Marchgobra, a chadarnhau damcaniaeth a oedd wedi’i chynnig o’r blaen ond heb ei dogfennu’n dda, yn egluro sut y cynhyrchir gwenwyn neidr a’r hyn a arweiniodd at gymhlethdod mawr y gwenwynau sy’n cynnwys dwsinau o docsinau unigol.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2013
Cyfraniad seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar i wella iechyd a lles yng Nghymru yn cael sylw aelodau'r Senedd
Cafodd Aelodau'r Cynulliad a pobol proffesiynol o feysydd iechyd a gofal eu gwahodd i dderbyniad yn y Senedd yng Nghaerdydd heddiw (3.12.13) i glywed sut mae dulliau arloesol o ymdrin ag iechyd a lles yn cael eu rhoi ar waith yng Nghymru a mannau eraill o ganlyniad i waith y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2013