Newyddion
- Newyddion diweddaraf
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Holl Newyddion A–Y
Newyddion: Hydref 2014
Beth ddigwyddodd i’r syniad o 'daith bwyd'?
Rhai blynyddoedd yn ôl cawsom ein cynghori i brynu cynnyrch ffres wedi'i dyfu yn y DU i osgoi'r 'daith bwyd' a gysylltir gyda mewnforio ffrwythau a llysiau mewn awyrennau oherwydd pryderon am sut yr oedd hyn yn cyfrannu at ryddhau allyriadau CO2. Ond mae'n ymddangos bod y pryderon hyn yn llawer rhy syml. Er mwyn gwneud gwir asesiad o 'ôl-troed' bwydydd mae'n rhaid archwilio pob agwedd ar y gweithgareddau cysylltiedig, o hau'r hadau i dyfu'r cynnyrch.
Ymchwil dan arweiniad Prifysgol Bangor i fuddion cymdeithasol ac amgylcheddol bwyd a dyfir yn lleol a thramor, oedd yr asesiad trwyadl cyntaf erioed o gylch bywyd y gadwyn cynhyrchu cnydau yn ei chyfanrwydd yn cynnwys ffermio, cludiant, storio a choginio.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2014
Datblygu Meddalwedd ar gyfer y byd tanddwr i gyd-fynd â lansiad dyfais symudol Samsung Gear VR newydd
Mae darlithydd ym Mhrifysgol Bangor, Dr Llyr ap Cenydd o'r Ysgol Cyfrifiadureg, wedi bod yn gweithio ar broject cyfrinachol gyda Samsung ac Oculus i ddatblygu ap o'r enw "Ocean Rift" y disgwylir ei lansio ochr yn ochr â'r ddyfais symudol Samsung Gear VR newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2014
Ymchwilydd rhyngwladol nodedig a chynghorwr iechyd cyhoeddus yn derbyn Cadair er Anrhydedd
Mae Prifysgol Bangor wedi rhoi Cadair er Anrhydedd i'r Athro Mark Bellis, ymchwilydd rhyngwladol adnabyddus a chynghorwr ym maes iechyd cyhoeddus. Rhoddwyd y gadair i gydnabod ei gyraeddiadau mewn sawl maes o iechyd cyhoeddus, yn cynnwys atal trais, alcohol, cyffuriau ac iechyd rhywiol.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2014
Ymchwilwyr a myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cynllunio sut i ddatrys dirgelwch datblygiad rhywogaethau newydd o bysgod mewn llyn crater yn Tanzania
'Dirgelwch y dirgelion' oedd disgrifiad Charles Darwin ohono: sut mae rhywogaethau newydd yn codi? Rydym yn deall llawer mwy erbyn hyn nag yn amser Darwin, wrth gwrs. Ond dim ond ers i wyddonwyr allu creu dilyniant DNA ar raddfa fawr yn rhad y gallwn obeithio deall sut mae'r broses yn gweithio ar y lefel fwyaf sylfaenol.
Dyfarnwyd grant gwerth £250K gan Ymddiriedolaeth Leverhulme i'r Athro George Turner o Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor i astudio pysgod o lyn bach a ffurfiwyd mewn crater folcanig yn Tanzania.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2014
Symud o wasanaethau gofal lliniarol i blant i rai i oedolion: mae'r bwlch yn dal yn rhy fawr i bobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd i ymdopi ag ef
Yn ôl ymchwil a wnaed gan Brifysgol Bangor mae'r gwahaniaethau rhwng gwasanaethau gofal lliniarol i blant ac i oedolion yn rhy fawr i bobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd ymdopi â hwy. Wrth sôn am y darganfyddiadau mae'r ymchwilwyr yn galw ar wasanaethau gofal lliniarol i oedolion i ymestyn eu sgôp er mwyn darparu'n well at anghenion pobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd a'u teuluoedd.
Fe wnaeth y tîm ymchwil ddod â phobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd, rhieni a gweithwyr proffesiynol o wasanaethau gofal lliniarol i blant ac oedolion at ei gilydd i rannu eu profiadau o'r newid o wasanaethau plant i rai oedolion.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 2014
Symud o wasanaethau gofal lliniarol i blant i rai i oedolion: mae'r bwlch yn dal yn rhy fawr i bobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd i ymdopi ag ef
Yn ôl ymchwil a wnaed gan Brifysgol Bangor mae'r gwahaniaethau rhwng gwasanaethau gofal lliniarol i blant ac i oedolion yn rhy fawr i bobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd ymdopi â hwy. Wrth sôn am y darganfyddiadau mae'r ymchwilwyr yn galw ar wasanaethau gofal lliniarol i oedolion i ymestyn eu sgôp er mwyn darparu'n well at anghenion pobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd a'u teuluoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 2014
Rhwydwaith Academaidd ar Gyd-addoli mewn Ysgolion
Mae ysgol y Gyfraith Bangor yn arwain project rhyngddisgyblaethol ar draws Prydain i edrych ar fater cyd-addoli mewn ysgolion.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2014
Prifysgol Bangor i gynorthwyo i hyfforddi gwyddonwyr pridd y dyfodol
Mae Prifysgol Bangor i chwarae rhan allweddol mewn hyfforddi gwyddonwyr y dyfodol a fydd yn gwella'r ffordd rydym yn deall priddoedd. Mae'r rhain yn allweddol i ddatrys llawer o'r sialensiau byd-eang cyfoes, yn cynnwys diogelwch bwyd, dŵr ac ynni.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Hydref 2014
'Bocs offer i athrawon' i leihau trais ymysg plant a thrais yn erbyn plant mewn ysgolion meithrin yn Jamaica
Mae casgliad o strategaethau i athrawon i geisio rhwystro datblygiad cynnar ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynyddu sgiliau cymdeithasol-emosiynol plant ifanc i gael ei brofi ymhellach mewn astudiaeth bedair blynedd yn Kingston, prifddinas Jamaica.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2014
'Jack to a King' yn cael y carped coch ym Mangor
Bydd ffilm am ddyrchafiad rhyfeddol clwb pêl-droed Cymreig i uchelfannau'r Uwch Gynghrair yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Ngogledd Cymru'r wythnos yma ym Mangor.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2014