Newyddion
- Newyddion diweddaraf
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Holl Newyddion A–Y
Newyddion: Chwefror 2015
Mae bio-nwy gwastraff o leiaf ddeng gwaith yn fwy effeithiol na bio-nwy cnydau am leihau allyriannau nwyon tŷ gwydr
Mewn papur sydd newydd ei ryddhau yn y cyfnodolyn bio-ynni blaenllaw, Global Change Biology Bioenergy, mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor a'r Thünen Institute yn Yr Almaen, yn dod i'r casgliad bod bio-nwy cnydau a bio-danwyddau hylif yn ddewisiadau aneffeithlon ar y gorau i leihau nwyon tŷ gwydr (GHG), fesul hectar o dir a ddefnyddir, ac am bob £ o gymhorthdal cyhoeddus sydd ei angen. Ar eu gwaethaf, gallai'r dewisiadau hyn arwain at allyriadau nwyon tŷ gwydr uwch yn fyd-eang oherwydd y newid anuniongyrchol yn nefnydd y tir drwy gael gwared ar gynhyrchu bwyd. Mewn cymhariaeth, mae bio-nwy gwastraff a pheledi gwresogi Miscanthws (gwair prennaidd) yn lleihau nwyon tŷ gwydr o leiaf ddeng gwaith yn fwy am bob tunnell o bio-màs deunydd sych ac am bob hectar o dir a ddefnyddir, gan arwain at leihau nwyon tŷ gwydr yn gost-effeithiol.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2015
Inaugural Duncan Tanner memorial lecture
Devolution in the aftermath of the Scottish referendum: some observations from Chinese scholars
Professor Zhanpeng Wang, Brifysgol Astudiaethau Tramor Beijing
Dyddiad cyhoeddi: 25 Chwefror 2015
Dr. Eirini Sanoudaki i roi darlith wadd ym Mhrifysgol Essex
Mae Dr. Eirini Sanoudaki, wedi cael gwahoddiad i roi darlith ym Mhrifysgol Essex, fel rhan o gyfres o seminarau yn yr Adran Iaith ac Ieithyddiaeth, ar 5 Mawrth.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2015
Dr. Marco Tamburelli i siarad ag athrawon ym Milan am addysg ddwyieithog
Ym mis Mawrth, bydd Dr Marco Tamburelli yn siarad ag athrawon ac addysgwyr ym Milan am addysg ddwyieithog yng nghynhadledd “Our Multilingual Schools: Opportunities and Challenges”.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2015
Ni ddylai newid hinsawdd effeithio ar ddileu malaria i bob pwrpas
Mae economegwyr iechyd wedi cael peth newyddion da wrth wynebu newid hinsawdd. Mae astudiaeth i economeg iechyd yn ymwneud â threchu malaria mewn gwledydd lle mae'r haint bron wedi'i ddileu yn dangos na fydd newid hinsawdd yn cael cymaint o effaith â hynny ar y broses ac na ddylai atal sefydliadau iechyd rhag parhau i gryfhau eu dulliau dileu presennol.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2015
Y llanw'n corddi'r gwres Atlantig dwfn yng Nghefnfor yr Arctig
Mae ymchwilwyr wedi canfod sut mae dŵr cynnes yr Atlantig sy'n llifo'n ddwfn i mewn i Gefnfor yr Arctig yn cymysgu gyda dyfroedd oerach uwchben a chyfrannu at doddi’r rhew môr yn yr Arctig. Mae'r canlyniadau, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Nature Geoscience yr wythnos hon (dyddiad), yn dangos bod llif y llanw yn yr Arctig yn gwneud i ddŵr cynnes, dwfn (sy'n deillio o Lif y Gwlff) gymysgu gyda dŵr oer, ffres sy'n gorwedd uwchben. Mae hyn yn ei dro yn cyfrannu at doddi’r rhew môr sy'n arnofio.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2015
Yr Athro David Crystal yn gwobrwyo’r myfyriwr blwyddyn cyntaf gorau Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg
Bu i Gemma Hutchinson, enillydd Gwobr David Crystal am y myfyriwr blwyddyn cyntaf gorau 2013/14, dderbyn ei gwobr ar ddiwrnod David Crystal yr Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg ar 4 Chwefror 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2015
Yr Athro Vyv Evans i gymryd rhan mewn dadl yn yr International Science Festival, Caeredin.
Bydd yr Athro Vyv Evans yn cymryd rhan mewn dadl 90 munud yn yr Edinburgh International Science Festival eleni, ar 15 Ebrill 2015 am 8pm.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2015
Yr Athro Vyv Evans yn trafod a oes modd dehongli emojis fel iaith
Ar gyfer papur newydd The Guardian wythnos yma, mae’r Athro Vyv Evans yn trafod a oes modd dehongli emojis fel iaith.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2015
Hyfforddi i Addysgu - Seminar Wybodaeth
Dewch i ddysgu mwy am yrfa fel athro ysgol uwchradd yn ein seminar gwybodaeth. Bydd y tîm Hyfforddi Athrawon Uwchradd wrth law i ateb eich cwestiynau.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2015
Dod â’r oesoedd canol i’r oes ddigidol
Dyddiad cyhoeddi: 10 Chwefror 2015
Dull newydd a mwy effeithlon o samplu bioamrywiaeth yn cael ei ddefnyddio yn rhai o brif aberoedd Prydain
Mae dwy o brif aberoedd Prydain wedi bod yn fannau profi llwyddiannus i ddull newydd ac effeithiol o 'wirio iechyd' bioamrywiaeth dŵr, a gall arwain at samplu cyflymach a mwy effeithlon mewn safleoedd eraill.
Cyflawnir "bio-fonitro", neu asesu effeithiau gweithgareddau dynol ar yr amgylchedd naturiol, yn aml drwy fonitro amrywiaeth biolegol. Mae dulliau presennol yn dibynnu ar adnabod rhywogaethau trwy ddulliau maniwal ond mae hynny'n cymryd amser ac yn aml yn canolbwyntio ar greaduriaid mwy. Felly, ni allant weithiau adlewyrchu iechyd cynefinoedd neilltuol yn gywir.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Chwefror 2015
Efallai fod mwy o ffactorau nag a dybiech yn dylanwadu ar eich dygnwch wrth ymarfer
Yn awr fod mis Chwefror wedi cyrraedd, a ydych yn cael anhawster i gadw at gynllun ymarfer eich adduned Flwyddyn Newydd? Gall fod mwy i’ch llwyddiant neu’ch methiant nag sy’n amlwg.
Yn ôl canfyddiadau ymchwilwyr o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Caint, roedd gweld delweddau cadarnhaol neu negyddol yn isganfyddol, neu am gyn lleied o amser fel na wyddoch eich bod wedi’u gweld, yn cael effaith ar yr adeg yr oedd unigolion yn gorflino wrth ymarfer.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2015
Gall organebau bychain iawn newid wyneb gwyddor arfordirol
Mae ymchwil wyddonol newydd a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn, Nature Communications, dan arweiniad ymchwilwyr o Brifysgol Bangor mewn cydweithrediad â gwyddonwyr o'r National Oceanography Centre yn Lerpwl a Phrifysgolion St. Andrews, Hull, Leeds a Plymouth, wedi darganfod bod siwgrau 'gludiog' a gynhyrchir gan ficro-organebau yn cael effaith eithriadol fawr ar symudiad tywod a mwd mewn amgylcheddau dŵr.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2015
Mae gwerthoedd cysegredig yn allweddol i sicrhau cadwraeth coedwigoedd sydd ar ôl yn Ethiopia
Mae coedwigoedd sy'n gysegredig i bobl leol yn llai tebygol o ddioddef datgoedwigo yn ôl canlyniadau ymchwil gan Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2015
Y ganolfan ymchwil cymdeithas sifil flaenllaw yn mwynhau agoriad swyddogol
Bydd Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn dathlu lansiad ei Ganolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil WISERD flaenllaw ar ddydd Iau 5ed Chwefror, 2015. Mae WISERD wedi derbyn dros £10 miliwn mewn cyllid i sefydlu canolfan ymchwil genedlaethol a fydd yn ymgymryd â rhaglen bum mlynedd sy’n arloesol ac yn bellgyrhaeddol o ymchwil sy’n berthnasol i bolisïau yn cyfeirio at y Gymdeithas Sifil yng Nghymru, y DU ac yn Rhyngwladol. Mae’r cyllid hwn yn cynnwys £7 miliwn o’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ynghyd â £3m arall gan Brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe. Mae Cymdeithas Sifil WISERD yn fenter gydweithredol, sy’n ymwneud ag ymchwilwyr o ar draws deuddeg o Brifysgolion y DU ynghyd ag ystod o bartneriaid rhyngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2015