Newyddion
- Newyddion diweddaraf
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Holl Newyddion A–Y
Newyddion: Mai 2015
Camau i wella cyfraddau goroesi canser yng Nghymru
Gallai canfyddiadau astudiaeth fanwl newydd ar ganser ddangos ffyrdd o wella cyfraddau goroesi canser yng Nghymru.
Canlyniadau'r astudiaeth ddiweddaraf gan y Bartneriaeth Meincnodi Canser Rhyngwladol (ICBP), a ddatgelwyd heddiw yng nghyfnodolyn y BMJ Open, yw'r cyntaf i ddangos bod cydberthynas rhwng parodrwydd meddygon teulu i gynnal archwiliadau'n ymwneud â chanser - naill ai'n uniongyrchol neu drwy gyfeirio'r claf at ofal eilaidd - a goroesi canser. Mae’r astudiaeth yn dangos hefyd fod meddygon teulu ym Mhrydain ac yng Nghymru, mewn arolwg ar lein yn defnyddio enghreifftiau o achosion clinigol, yn llai tebygol o gyfeirio neu archwilio cleifion â symptomau canser posibl pan fyddant yn dod atynt gyntaf, o'u cymharu â'r gwledydd eraill lle cynhaliwyd yr astudiaeth: Awstralia, Canada, Denmarc, Norwy a Sweden.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2015
Hwb ariannol i Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth
Mae Prifysgolion Bangor, Caerdydd ac Abertawe wedi derbyn cyllid gwerth £2,249,927 yn ddiweddar gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (NISCHR gynt) i arwain y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR), sef Canolfan Ymchwil Cymru gyfan.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2015
Cristnogion cynnar o Iwerddon a’r Alban yn wladychwyr cyntaf Ynys yr Iâ
Datgelir mewn gwaith archeolegol sydd newydd ei gyhoeddi nad Llychlynwyr o Sgandinafia oedd trigolion cyntaf Ynys yr Iâ ond, yn hytrach, ymfudwyr o Iwerddon neu lannau gorllewinol yr Alban. Mae pobl Ynys yr Iâ wedi ymddiddori ers amser maith yn yr ymfudwyr cynnar a sefydlodd eu cenedl - un o'r ynysoedd ieuengaf yn y byd i gael ei gwladychu - ac mae eu llyfrau hanes a'u chwedlau ar hyd y canrifoedd wedi datgan mai Llychlynwyr oedd preswylwyr cyntaf yr ynys.
Hefyd, mae erthygl yn y Saesneg, "Viking beaters: Scots and Irish may have settled Iceland a century before Norsemen" wedi ei gyhoeddi ar The Conversation heddiw gan Kristjan Ahronson. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2015
Iechyd da i'r gwyliau
Mae gofyn i bobl beth maent yn ei yfed ar wyliau ac achlysuron arbennig eraill yn dangos bod oddeutu 12 miliwn yn fwy o boteli o win yr wythnos yn cael eu hyfed yn Lloegr nag y tybiwyd yn flaenorol. Nid yw'r arolygon blaenorol ar faint o alcohol a yfir wedi rhoi ystyriaeth i'r holl alcohol a werthir. Ymddengys bod ymchwil a ariannwyd gan Alcohol Research UK ac a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn mynediad agored BMC Medicine, wedi cael hyd i'r 'unedau coll' hyn.
Hefyd, mae erthygl yn y Saesneg, "England's missing booze: 12 million more bottles drunk per week than previously thought" wedi ei gyhoeddi ar The Conversation heddiw gan Mark Bellis, Prifysgol Bangor a Christine Griffith, University of Bath. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2015
Datblygiad Cynllunio ar gyfer Parc Gwyddoniaeth Menai
Mae Prifysgol Bangor yn croesawu’r newyddion fod Parc Gwyddoniaeth Menai Cyf (M-SParc) wedi derbyn caniatâd cynllunio amlinellol gan Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer datblygiad pwrpasol M-SParc.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015
Gwobr nodedig yr Academi Brydeinig i ddarlithydd Bangor
Mae'r darlithydd o Brifysgol Bangor, Dr Helena Miguélez-Carballeira, o'r Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern, wedi derbyn bron i £90,000 i gynnal project a fyddai'n cyflwyno achos dros astudio diwylliant a gwleidyddiaeth gyfoes Sbaen o safbwynt ôl-wladychol.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015
Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ar led
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015
Bangor yn helpu i drechu'r bwlis
Ymchwilwyr yn y Ganolfan Ymyrraeth ar sail Tystiolaeth (CEBEI), sy'n rhan o'r Ysgol Seicoleg, oedd y rhai cyntaf ym Mhrydain i werthuso effeithiolrwydd rhaglen gwrth-fwlio KiVa a grëwyd yn y Ffindir.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2015
Prifysgol Bangor a Siemens Healthcare Diagnostics yn llofnodi memorandwm i gydweithio yn y dyfodol
Mae Prifysgol Bangor a Siemens Healthcare Diagnostics wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth ffurfiol a fydd yn galluogi'r ddau sefydliad i gydweithio'n agosach yn y blynyddoedd i ddod.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mai 2015
Gweithdy llwyddiannus am yrfaoedd yn y diwydiant niwclear
Daeth dros 70 o fyfyrwyr o nifer o wahanol ddisgyblaethau yn cynnwys peirianneg, cemeg, gwyddor amgylcheddol, busnes, y gyfraith, seicoleg a daearyddiaeth at ei gilydd mewn gweithdy a gynhaliwyd yn ddiweddar ym Mhrifysgol Bangor i ddysgu am yrfaoedd yn y diwydiant niwclear. Cynhaliwyd y gweithdy mewn partneriaeth â Horizon Nuclear Power, National Skills Academy for Nuclear (NSAN), a'r rhaglen Nuclear Graduates Programme.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2015
Academydd Prifysgol Bangor yn siarad mewn gŵyl athroniaeth a cherddoriaeth mwya'r byd
Bydd David Healy o Goleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad Prifysgol Bangor yn siarad yn HowTheLightGetsIn, gŵyl gerddoriaeth ac athroniaeth fwyaf y byd ym mis Mai eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2015
Gall dirywiad mewn niferoedd llysysyddion mawr arwain at “dirwedd wag,” meddai gwyddonwyr
Mae dirywiad mewn niferoedd llysysyddion mawr y byd, yn arbennig yn Affrica a rhannau o Asia, yn arwain at bryder o 'dirwedd wag' mewn rhai o'r ecosystemau mwyaf amrywiol ar y blaned. Mae llawer o boblogaethau o anifeiliaid fel rhinoserosiaid, sebras, camelod, eliffantod a thapiriaid yn gostwng neu mae perygl iddynt ddiflannu'n gyfan gwbl mewn tiroedd glaswellt, safanau, diffeithdir a choedwigoedd, meddai gwyddonwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2015