Newyddion
- Newyddion diweddaraf
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Holl Newyddion A–Y
Newyddion: Chwefror 2016
Mwd gludiog a gweddillion biolegol yn allwedd i ddarogan erydiad arfordirol
Mae gwyddonwyr wedi cymryd cam enfawr tuag at ddatblygu ffordd fwy dibynadwy o ddarogan sut y bydd newid hinsawdd yn effeithio ar amgylcheddau aberoedd ac arfordiroedd.
Gan weithio fel rhan o broject cydweithredol, a arweinir gan Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, i asesu sut mae deunyddiau mân fel mwd a thywod yn cael eu symud o amgylch ein harfordir gan geryntau dŵr, a sut y gall y symudiadau hyn newid o ganlyniad i newid hinsawdd, mae'r Athro Dan Parsons, o Brifysgol Hull, wedi nodi elfennau allweddol sydd ar goll ar hyn o bryd o'r modelau sy'n helpu gwyddonwyr a pheirianwyr benderfynu sut y bydd arfordiroedd ac aberoedd yn cael eu siapio yn y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Chwefror 2016
Arwain y ffordd i gyflwyno Presgripsiynau dwyieithog
Mae gwasanaeth Gymraeg neu ddwyieithog yn hanfodol ar gyfer lles cleifion Cymraeg eu hiaith yn ôl ymchwiliad gan Gomisiynydd y Gymraeg. Argymhelliad sydd wedi cael sêl bendith Prif Swyddog Fferyllol Cymru yw bod rhoi labeli dwyieithog ar feddyginiaethau presgripsiwn ar gael i gleifion.
Mae tîm sy’n cynnwys arbenigwyr iaith a fferyllwyr ym Mhrifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cymryd y camau cyntaf drwy gyfieithu 30 canllaw rhybuddiol sydd yn cael eu rhoi i gleifion sydd ar feddyginiaeth ar bresgripsiwn.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Chwefror 2016
Dewis ysgolhaig o Fangor i gynrychioli Cymru ar gorff cynrychioliadol Gwyddorau Biomeddygol y DU
Mae Mr Merfyn Williams, cyfarwyddwr y cwrs gradd BSc Gwyddoniaeth Fiomeddygol yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol wedi cael yr anrhydedd o gael gwahoddiad i ymuno â Phwyllgor Gweithredu Penaethiaid Canolfannau Prifysgol Gwyddorau Biomeddygol (HUCBMS).
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2016
Lansio Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor
Ddydd Iau, 25 Chwefror 2016, mae Prifysgol Bangor yn lansio'r Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol newydd.
Gan adeiladu ar sylfaen gadarn o ragoriaeth ymchwil bydd Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR) yn hwyluso ymchwil fwy rhyngddisgyblaethol sy'n pontio darganfyddiadau yn y labordy ymlaen i ymchwil sy'n datrys problemau iechyd cymhleth yn y byd go iawn. Yn y ffordd hon bydd BIMHR yn cyfrannu at welliannau mewn iechyd a gofal iechyd lleol yn ogystal a chael effaith ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig, ac yn rhyngwladol
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2016
British power stations are burning wood from US forests – to meet renewables targets
Dyma erthygl yn Saesneg gan David Styles o’r Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2016
Dyfarnu grant pwysig i brosiect 'smART cities and waste'
Dyfarnwyd grant rhwydwaith Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau sy'n werth £37,449 i Dr Alexandra Plows ar gyfer prosiect 'smART cities and waste'.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2016
Dyfarnu Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Wybodaeth (KESS II) yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas wedi dyfarnu dwy ysgoloriaeth KESS: un grant Gradd Meistr trwy Ymchwil 12 mis ac un grant PhD tair blynedd. Mae prosiectau Kess yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr Doethuriaeth a Gradd Meistr trwy Ymchwil wedi eu hariannu mewn cydweithrediad â'r cwmni partner.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2016
Esboniad ar y paradocs niwed alcohol
Mae ymchwil newydd gan broject cydweithredol sy’n cynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Liverpool John Moores ac Alcohol Research UK yn esbonio pam mae pobl mewn cymunedau difreintiedig yn dioddef lefelau uwch o salwch sy'n gysylltiedig ag alcohol na phobl mewn cymunedau nad ydynt yn ddifreintiedig, er eu bod yn yfed yr un faint o alcohol – y paradocs alcohol niwed.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2016
Gwerddonau’r cefnforoedd: Sut y mae ynysoedd yn cynnal mwy o fywyd môr
Mae theori sydd wedi bodoli ers 60 o flynyddoedd ac sydd yn esbonio pam fo moroedd sy’n amgylchu ynysodd ac atolau yn cynnal mwy o fywyd gwyllt newydd ei brofi gan fiolegydd morol o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, mewn cydweithrediad efo aelod o Weinyddiaeth Gefnforol ac Atmosfferig Cenedlaethol yr Unol Daleithiau.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2016
Cyflwyno cyfres drama foes gyfoes ar BBC Radio 3
Bydd Sue Niebrzydowski, Uwch Ddarlithydd mewn llenyddiaeth ganoloesol yn Ysgol Llenyddiaeth Saesneg Prifysgol Bangor i’w chlywed yn cyflwyno cyfres o bum drama foes gyfoes ar BBC Radio 3 yr wythnos hon (15-19 Chwefror, 2016). Mae’r pum drama, sy’n ymdrin â chymedroldeb, eiddigedd, balchder, llid a chyfiawnder wedi eu hysbrydoli gan ddramâu moes y canoloesoedd ac yn archwilio cymaint y mae agweddau cyfoes tuag at bechod a rhinwedd wedi newid.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Chwefror 2016
Wonky veg and ugly fruit are making a comeback – here's why
Dyma erthygl yn Saesneg gan Rhi Willmot, ymchwilydd doethuriaethol mewn Seicoleg Ymddigiaeth a Phositif o’r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Chwefror 2016
Galw am arbenigedd Seicoleg Chwaraeon Bangor ym Malaysia
Mae'r Athro Nicky Callow wedi cael ei gwahodd i Brifysgol Malaya (UM) yn Kuala Lumpur fel rhan o'u cynllun cadair wadd lle mae academyddion o bob rhan o'r byd yn cyflwyno gweithdai a seminarau yn y brifysgol. Mae UM ar frig y rhestr o brifysgolion ym Malaysia ac yn ôl rhestr QS o brifysgolion y byd mae yn y 150 uchaf (safle 29 yn Asia).
Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2016
Cymru’n mabwysiadu rhaglen o’r Ffindir i guro bwlio
Mae Prifysgol Bangor yn cyflwyno rhaglen gwrth-fwlio mewn ysgolion i’w helpu i ymdrin ag achosion o fwlio ac i leihau nifer yr achosion. Prifysgol Bangor yw’r unig ganolfan yn y Deyrnas Unedig sydd â thrwydded i wneud hyn.
Cafodd y rhaglen wrth-fwlio, KiVa, ei datblygu a’i gwerthuso yn y Ffindir a chafodd gefnogaeth ariannol helaeth gan y llywodraeth yno. Profwyd bod y rhaglen yn lleihau nifer yr achosion o fwlio mewn ysgolion yno - ac mae’r arwyddion cynnar yn awgrymu ei bod yr un mor effeithiol mewn ysgolion yng Nghymru hefyd.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Chwefror 2016