Newyddion
- Newyddion diweddaraf
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Holl Newyddion A–Y
Newyddion: Hydref 2016
Gweinidog yn torri’r tir mewn datblygiad sy’n torri tir newydd
Cymerodd Parc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc) gam mawr ymlaen yr wythnos yma yn y gwaith o adeiladu’r Parc Gwyddoniaeth pwrpasol cyntaf yng Nghymru wrth i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, y Gweinidog Ken Skates ddod i'r safle ar Ynys Môn i dorri’r tir.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2016
Hitachi-GE, Imperial a Phrifysgol Bangor yn datblygu arbenigedd ym maes Adweithyddion Dŵr Berwedig (BWR) yn y Deyrnas Unedig a Chymru
Mae Hitachi-GE Nuclear Energy, Ltd. (Hitachi-GE) wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth gydag Imperial College a Phrifysgol Bangor sy'n cryfhau ei ymrwymiad i arbenigedd yng Nghymru a Phrydain.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2016
Penodi Athro o Fangor yn aelod o Fwrdd Gwyddoniaeth un o Gynghorau Ymchwil Prydain
Professor David Thomas, Head of the School of Ocean Sciences at Bangor University, has been appointed to the Science Board of the Natural Environment Research Council (NERC), the UK's largest funder of independent environmental science, training and innovation, delivered through universities and research centres.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2016
Gwobrau Rhagoriaeth Ymchwil Prifysgol Bangor 2016
Mae Prifysgol Bangor am ddathlu rhagoriaeth yr ymchwil a gynhyrchir gan y Brifysgol mewn noson Wobrwyo newydd i’w chynnal yn y Brifysgol fis Rhagfyr, a newydd gyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer y Gwobrau.
Bydd y Gwobrau newydd yn rhoi sylw haeddiannol i ymchwilwyr unigol a thimau ymchwil neilltuol y Brifysgol.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod Noson Wobrwyo sydd i’w chynnal yn Pontio, nos Lun Rhagfyr 5 2016.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2016
Potential 'hot-spots' for sea ice melting identified in the Arctic Ocean
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro o’r Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2016
Can Kiefer Sutherland be US president, please?
Dyma erthygl yn Saesneg gan Gregory Frame o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2016
Child migrants taken to Britain: now they need support and psychological care
Dyma erthygl yn Saesneg gan Leanne K Simpson Sydd yn astudio ar gyfer Doethuriaeth gyda'r Ysgol Seicoleg a Sefydliad seicoleg Perfformiad Elît sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2016
Cwmnïau fferyllol yn gwneud elw ar afiechydon prin
Mae ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol Bangor yn dangos fod cwmnïau fferyllol yn ymelwa ar gymhellion a fwriadwyd i ddatblygu rhagor o driniaethau ar gyfer afiechydon prin er mwyn rhoi hwb i'w helw.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2016
Could wild mangoes solve the world's chocolate crisis?
Dyma erthygl yn Saesneg gan Sayma Akhter, Morag McDonald, a Ray Marriott sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 2016
Astudiaeth newydd i rhoi’r dechrau gorau i blant ag awtistiaeth
Mae astudiaeth arloesol wedi ei lansio er mwyn deall sut y gellir cefnogi teuluoedd a effeithir gan awtistiaeth yn syth wedi iddynt dderbyn diagnosis.
Bydd y treial, a gyllidir gan elusen ymchwil awtistiaeth, Autistica, yn ceisio canfod os yw cynnig y rhaglen gefnogaeth Blynyddoedd Rhyfeddol (Incredible Years®) i deuluoedd yn fuan wedi deiagnosis eu plentyn â buddiannau hirdymor posib.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2016
Yr Athro John Turner, Deon Newydd Ymchwil Ôl-radd
Mae'r Athro Turner wedi'i benodi i swydd newydd ym Mhrifysgol Bangor, sef Deon Ymchwil Ôl-radd.
Bydd yr Athro Turner yn arwain yr Ysgol Ddoethurol yn y swydd allweddol hon i gefnogi a datblygu cymuned ymchwil ôl-radd y brifysgol, sydd eisoes yn fywiog a blaengar. Amcanion yr Ysgol Ddoethurol yw rhoi hyfforddiant a chefnogaeth o safon uchel, sicrhau bod ôl-raddedigion ymchwil yn cael profiad rhagorol, denu cynlluniau cyllido newydd, a chynyddu nifer myfyrwyr ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2016
Academyddion y Coleg yn derbyn grantiau Cyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC
Mae'n bleser mawr gan y Cyfarwyddwr Ymchwil gyhoeddi llwyddiant nifer o gydweithwyr ar draws y Coleg Busnes, Y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas sydd wedi ennill grantiau Cyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2016
BEACON Cymru yn gyd-sylfaenydd cynghrair newydd lansio i gefnogi twf bio-economi'r DU
Mae Prifysgol Bangor yn falch o fod yn rhan o gynghrair newydd yn y Deyrnas Unedig- BioPilotsUK, sy’n cael ei lansio i gefnogi twf bio-economi’r DU.
Mae Canolfan Biogyfansoddion y Brifysgol yn bartner ym mhroject arobryn BEACON Cymru, sydd yn un o bum canolfan Ymchwil a Datblygu sefydlog ar draws y DU sydd yn dod ynghyd i ffurfio’r gynghrair newydd, BioPilotsUK. Bydd y gynghrair yn ceisio gosod Prydain yn arweinydd byd-eang ym maes datblygu technoleg bio-buro, a chynhyrchu cynnyrch bioseiliedig - dwy elfen allweddol o'r bio-economi.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2016
Rwy'n siŵr na hoffech i'r stori hon fod amdanoch chi: twyllo mewn chwaraeon
Beth sy'n gyrru chwaraewyr a mabolgampwyr proffesiynol i dorri rheolau eu camp gan obeithio na chânt eu dal - ac yn y gobaith y daw â gogoniant iddyn nhw ac i'w tîm?
Math o gymeriad yw craidd y mater, yn ôl ymchwilwyr yn Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elit (IPEP) Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2016
Arbed miliynau trwy roi'r dechrau gorau mewn bywyd i fabanod Cymru
Gall buddsoddi mewn rhaglenni sy'n hyrwyddo'r dechrau gorau mewn bywyd i'n babanod a'n plant arwain at arbedion ariannol yng Nghymru yn y tymor byr a'r tymor hir.
Dyna yw dadl economegwyr iechyd yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor yn eu hadroddiad "Trawsnewid Bywydau Pobl Ifanc - y ddadl economaidd dros fuddsoddi yn y blynyddoedd cynnar" a lansiwyd heddiw (13 Hydref 2016).
Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2016
Ffordd Pawb/ Coherent Connections- project arloesi yn dod i Fangor
Mae myfyrwyr seicoleg ym Mhrifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn project rhyngwladol arloesol a all ddarparu atebion newydd creadigol i broblemau modern cymhleth a wynebir ym Mangor, yn ogystal â chymunedau eraill.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2016
Gweinidog yn agor cwmni deillio arloesol Prifysgol Bangor
Bu Julie James, y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth, yn Suprex yn ddiweddar (dydd Llun 10 Hydref) i agor yn swyddogol gwmni technoleg arloesol a menter ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a Phytovation Cyf.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2016
Gweinidog yn agor cwmni deillio arloesol Prifysgol Bangor
Bu Julie James, y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth, yn Suprex yn ddiweddar (dydd Llun 10 Hydref) i agor yn swyddogol gwmni technoleg arloesol a menter ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a Phytovation Cyf.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2016
Dr Aamer Sandoo yn Ennill Cyllid gan yr Elusen Awyr Las
Dyfarnwyd £68,000 gan yr Elusen Awyr Las yn ddiweddar i Dr Aamer Sandoo (darlithydd mewn ffisioleg gardiofasgwlaidd, Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymddygiad) i ymchwilio i effeithiau atchwanegiadau dietegol nitrad ar ostwng y risg o glefyd y galon ymysg cleifion ag arthritis rhiwmatoid. Cynhelir y project mewn cydweithrediad â Dr Jonathan Moore a chlinigwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2016
Gwaith ar broteinau newydd a allai rwystro tiwmorau canseraidd rhag ffurfio
Mae Dr Chris Staples, o Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ym Mangor wedi cyhoeddi erthygl yn “Cell Reports”, cyfnodolyn gwyddonol blaenllaw, ar ôl darganfod ataliwr newydd a allai rwystro tiwmorau. Mae Chris yn gweithio ar nifer o broteinau newydd, sy'n rhwystro difrod i'r DNA rhag cronni mewn celloedd dynol. Gallai hyn o bosib atal tiwmorau rhag ffurfio ac mae gan hyn oblygiadau cyffrous o ran datblygu triniaethau newydd ac effeithiol.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2016
Myfyriwr PhD yn y Gwyddorau Meddygol yn cael Gwobr Rhagoriaeth Cyrhaeddiad gan Lysgennad Sawdi-Arabia
Roedd Othman Alzahrani, myfyriwr ar drydedd flwyddyn ei PhD mewn Bioleg Foleciwlaidd a Geneteg, yn un o ddim ond 78 (o blith 15000 o fyfyrwyr Sawdi-Arabia yn y Deyrnas Unedig) i dderbyn Gwobr Rhagoriaeth Cyrhaeddiad gan Deyrnas Sawdi-Arabia. Mewn cydnabyddiaeth o'r anrhydedd hon bydd enw Othman yn cael ei ysgythru ar restr anrhydeddau Llysgenhadaeth Sawdi-Arabia yn Llundain.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2016
Llwyfannau digidol newydd yn cynnig cyfleoedd i’r Gymraeg
Mae llwyfannau digidol yn cynnig cyfleoedd i'r iaith Gymraeg fod yn rhan ehangach o fywydau pobl Cymru bob dydd.
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor yn awyddus i glywed sut mae pobl yn defnyddio'r Gymraeg ar lwyfannau digidol, ac yn cynnal dau arolwg i'r cyhoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2016
What Theresa May could learn from Ted Heath about how to respond to a humanitarian crisis
Dyma erthygl yn Saesneg gan Peter Shapely, Darllenyd a Pennaeth Ysgol a Mark David Collinson, myfyriwr doethuriaeth o’r Ysgol Hanes, hanes Cymru ac Archeoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2016
Cimychiaid yn ffynnu mewn gwarchodfa fôr dan arweiniad y gymuned
Mae'n dod i'r amlwg bod y warchodfa fôr gyntaf yn Yr Alban, a'r unig un yno sydd â gwarchodaeth lawn drosti, yn hynod fuddiol o ran cadwraeth pob agwedd ar fywyd môr, gyda chimychiaid yn mwy na dyblu mewn niferoedd a chynyddu mewn maint.
Dros gyfnod o bedair blynedd mae gwyddonwyr o Brifysgolion Caerefrog a Bangor wedi bod yn monitro poblogaethau o'r cimwch Ewropeaidd ( Homarus gammarus), y cranc brown ( Cancer pagurus ) a chrancod nofio melfed ( Necora puber) ym Mae Lamlash yng ngheg yr Afon Clyde yn Yr Alban.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2016