Ysgoloriaethau PhD Ysgol Busnes Bangor
Gwahoddir ceisiadau am Fwrsariaethau Ymchwil Ysgol Busnes Bangor i ddechrau ym mis Hydref 2011. Bydd y rhain yn darparu tair blynedd o gefnogaeth ariannol ar gyfer astudiaethau llawn amser ar lefel PhD.
Darparwyd bob bwrsari lwfans blynyddol o £13,000. Disgwylir i ddalwyr bwrsariaethau talu ffioedd a chyfrannu oddeutu 100 awr o ddysgu ac / neu gymorth ymchwil y flwyddyn i oruchwyliwr neu dîm ymchwil penodol fel rhan o’i datblygiad fel academydd y dyfodol.
Gwahoddir Ysgol Busnes Bangor ceisiadau ar gyfer diddordebau ymchwil penodol ym mharthau Astudiaethau Cyllidol a Busnes a Rheolaeth. Fel rhan o’ch cais, gofynnir i ymgeiswyr cyflwyno cynnig ymchwil ac adolygiad o’r llenyddiaeth amlwg yn un o’r meysydd ymchwil y amodwyd. Yn gyffredinol, disgwylir bod yr ymgeisydd dewisol wedi cyflawni anrhydedd ar lefel Meistr (neu yn arddangos tystiolaeth gadarn o’r gallu i gyflawni hyn) a bod â sgôr IELTS 7.0 neu gyfartal.
Astudiaethau Cyllidol:
Ffurfiant disgwyliad a’i gyfraniad i farchnadoedd cyllidol
Penderfyniadau ar leoli canghennau banc, a thyfiant economaidd rhanbarthol
Cyfuniadau banciau a pherfformiad banciau yn y tymor hir
Perfformiad tymor hir ac amrywiad cynnyrch mewn cymdeithasau adeiladu'r DU
Datblygiad cyllidol a pherfformiad economaidd
Datganoliad cyllidol a rheolaeth economaidd
Effaith economaidd buddsoddiad tramor uniongyrchol
Polisi ariannol ac ymddygiad banciau
Effaith economiadd terfysgaeth
Cydnabyddiaeth bancwyr a chymryd risg
Busnes a Rheolaeth:
Rheolaeth strategol a pherfformiad cwmnïau mentrwyol: rôl gymedrol gallu arloesol
Holistic Skills Eco-Systems (HOSE): ffactorau aml-lefel yn effeithio sgil, datblygiad y lle gwaith, ac ansawdd swyddi yn economïau ‘gwyrdd’ Cymru ac Iwerddon
Archwilio cyd-creadigaeth gwerth o bersbectif y defnyddiwr: astudiaeth SMEau
Effeithiolrwydd cyfrifyddion ar-lein a chyfnewidiadau betio i drin gwybodaeth mewn marchnadoedd betio chwaraeon
Ffactorau dylanwadol, rhwydweithiau, a ffurfiant barn gyhoeddus
Rolau nodedig defnyddwyr arweiniol ac arweinwyr barn ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol
Archwilio dawn mentrwyr benywaidd i gynllunio’n strategol fel ffactor penderfynol o lwyddiant mewn busnes
Hapusrwydd ar werth: a yw pryniadau arbrofol yn gwneud defnyddwyr yn fyw hapus nag yw pryniadau materol?
Deall ymateb defnyddwyr i gyfathrebu a darbwylliad marchnata
Egluro a rhagweld perfformiad cwmnïau: straeon o lwyddiant yn adeg yr argyfwng economaidd rhyngwladol
Ysgol Busnes Bangor
Y mae Ysgol Busnes Bangor yn cynnal rhaglen hyfforddiant doctoraidd i fyfyrwyr ymchwil yn ystod eu blwyddyn gyntaf o astudio. Mae dilyniant o’r flwyddyn gyntaf i’r ail flwyddyn yn ddibynadwy ar gwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus ac ar y myfyriwr yn ateb y gofynion a nodwyd gan bwyllgor goruchwyliol yr ymgeisydd.
Yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil (RAE) diweddaraf, dyfarnwyd Cyfrifeg a Chyllid, sy'n rhan o'r Ysgol Fusnes, fel yr orau yn y DU am ansawdd ymchwil ei staff, ac fe’i hadnabyddir yn eang fel canolfan Ewropeaidd bwysig yn y maes hwn. Mae’r grŵp Astudiaethau Cyllidol yn cyfuno arbenigedd mewn Cyfrifeg, Bancio, Economeg, Cyllid ac Ystadegau, gyda phwyslais penodol ar ymchwil rhyngwladol cymharol. Mae’r grŵp Astudiaethau Busnes a Rheolaeth yn ehangu gyda chanolbwynt penodol ar farchnata a chyd-destun SME.
Gwneud Cais
10 Mehefin yw’r dyddiad cau am geisiadau ac fe ddisgwylir y bydd ymgeiswyr yn derbyn ymateb erbyn 8 Gorffennaf.
Am fwy o wybodaeth a manylion ar wneud cais, ewch i:
http://www.bangor.ac.uk/business/academic/crs_postgrad/apply_pg.php.en
Am wybodaeth bellach ynglŷn ag Ysgol Busnes Bangor, yn cynnwys cyfleon ôl-radd eraill, ewch i:
http://www.bangor.ac.uk/business/index.php.en
Am ymholiadau eraill, cysylltwch â’r Athro Jonathan Williams:
Ebost: Jon.williams@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2011