woman next to whiteboard

Athena Swan ym Mhrifysgol Bangor

Ein taith Arian Athena Swan hyd yma: cydweithio, cyflawniadau, a gwobrau.

Athena Swan Logo

Prifysgol Bangor yn ennill gwobr arian Athena Swan i gydnabod gwaith ar gydraddoldeb rhywiol

Mae Prifysgol Bangor wedi ennill gwobr arian sefydliadol Athena Swan. Prifysgol Bangor yw'r ail brifysgol yng Nghymru i ennill gwobr arian; mae llai na 40 o brifysgolion ledled y Deyrnas Unedig wedi ennill gwobr arian.

Rhagor o wybodaeth

Ein Taith gan Yr Athro Andrew Edwards

[0:01] Yr Athro Andrew Edwards ydw i ac, fel Dirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Bangor...

[0:05] mae fy rôl yn ymwneud ag arwain ar ein hagenda Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

[0:12] Un o’n blaenoriaethau allweddol cyfredol yw ein cyflwyniad ar gyfer gwobr Arian Athena Swan...

[0:19] y byddwn yn ei chyflwyno ym mis Tachwedd 2023. Ymunodd Prifysgol Bangor â Siarter Athena Swan yn 2011...

[0:27] a thros y ddegawd ddiwethaf rydym wedi defnyddio’r siarter fel fframwaith i sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu hymgorffori yn ein polisïau, ein harferion a’n diwylliant.

[0:43] Yn ogystal â’n gwobr Efydd Prifysgol Bangor, mae gennym ni 7 gwobr Efydd lefel ysgol,

[0:49 gyda'r Ysgolion sy'n weddill wrthi’n gweithio tuag at gyflwyno ceisiadau ar gyfer gwobrau ar hyn o bryd.

[0:57] Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y ddegawd ddiwethaf...

[1:00] i sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi'u gwreiddio yn ein strwythurau llywodraethu...

[1:08] ein phwyllgorau ac wrth newid y diwylliant ar y campws.

[1:13] Fy nghydweithiwr, yr Athro Morag McDonald, ein Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros Amrywiaeth a Chynhwysiant,

[1:21] sydd yn arwain ar gyflwyniad y gwobr Arian.

[1:25 ]Rydym wedi dod â grŵp o staff o bob rhan o’r Brifysgol at eu gilydd i’n helpu i gyflawni ein cais.

[1:33] Fodd bynnag, nid gwobr Athena Swan yw’r nod - nid ydym yn ymgeisio am y gwobrau hyn er mwyn cael y bathodyn a thicio blwch yn unig.

[1:43] Rydym yn ymgeisio am y gwobrau hyn oherwydd ein bod eisoes yn gwneud gwaith gwych...

[1:49] ac mae'r gwobrau yn ffordd o gydnabod a dathlu'r gwaith hwnnw.

[1:54] Dros y misoedd nesaf byddwch yn clywed mwy am ein gwaith, a byddwn yn gofyn i staff a myfyrwyr gyfrannu eu barn a’u lleisiau

[2:03] i’r agenda pwysig hon. Ymunwch â ni ar ein taith tuag at Arian.

Ein Cyflawniadau

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?